The essential journalist news source
Back
21.
June
2018.
Dod Ynghyd yn Amgueddfa Stori Caerdydd

Mae diwrnod o hwyl am ddim i deuluoedd yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn yn Amgueddfa Stori Caerdydd yn rhan o'r ymgyrch genedlaethol ‘Dod Ynghyd'. 

Dechreuwyd yr ymgyrch ‘Dod Ynghyd, sydd bellach yn ei hail flwyddyn, gan deulu a ffrindiau'r AS Jo Cox ar ôl iddi gael ei lladd ym mis Mehefin 2016. Y bwriad yw dod â chymunedau ynghyd a dathlu popeth sy'n ein huno, ac ysbrydolir yr ymgyrch gan ei chred bod gennym lawer mwy yn gyffredin na'r hyn sy'n ein gwahanu. 

Ymhlith rhai o'r digwyddiadau hwyl sydd ar yr agenda yn yr amgueddfa ddydd Sadwrn 23 Mehefin mae gweithgareddau crefft, peintio wynebau, llwybrau'r amgueddfa a gweithdai cerddoriaeth Samba gan yr elusen Live Music Now. Bydd y diwrnod o hwyl am ddim yn rhedeg o 10am i 3pm ac os bydd y tywydd yn braf caiff gweithgareddau eu cynnal yng Ngardd Mynwent Eglwys Sant Ioan sydd wrth ymyl yr amgueddfa hefyd. 

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden: "Ein rheswm dros gynnal y diwrnod hwn yw i ddathlu ein cymunedau amrywiol yng Nghaerdydd a'r ffaith bod gennym lawer yn gyffredin wrth i ni ddod ynghyd i fwynhau amser gyda'n teuluoedd - rhywbeth rwy'n gwybod y byddai Jo Cox yn ei gymeradwyo. 

"Mae ein digwyddiad yn ddiwrnod o sbort a sbri i deuluoedd - yn llawn dathlu, lliwiau a bywyd.  Mae Caerdydd yn ddinas sydd wedi'i chreu gan lawer o wahanol gymunedau sy'n byw ac yn gweithio ynghyd, ac rydym yn defnyddio pethau rydym i gyd yn eu rhannu - fel cerddoriaeth a hwyl - i ddathlu'r synnwyr hwnnw o berthynas." 

Mae ‘Dod Ynghyd' Amgueddfa Stori Caerdydd yn rhan o raglen o ddigwyddiadau yn y DU sy'n digwydd y penwythnos hwn. 

I ddysgu mwy cysylltwch ag Amgueddfa Stori Caerdydd: storicaerdydd@caerdydd.gov.uk neu 029 2034 6214.