The essential journalist news source
Back
20.
June
2018.
Fyfyrwyr, ‘Carwch Gaerdydd Cyn i Chi Fynd’ yr haf hwn

Rydym yn gofyn i fyfyrwyr gynllunio ymlaen llaw cyn gadael eu llety rhent yr haf hwn.

Rydym yn rhybuddio myfyrwyr y cânt Hysbysiad Cosb Benodedig o rhwng £100 a £400 os byddant yn gadael gwastraff ar y palmant ar unrhyw ddiwrnod heblaw eu diwrnod casglu.

Yn amodol ar y cytundeb tenantiaeth, os caiff eitemau neu wastraff swmpus eu gadael y tu mewn i'r eiddo, neu yn yr ardd flaen neu'r ardd gefn, bydd y landlord yn symud yr eitemau hyn ac yn tynnu arian oddi ar fond yr eiddo.

Mae'r Ymgyrch Caru Caerdydd Cyn i Chi Fynd yn bartneriaeth rhwng y prifysgolion, y Cyngor a'r YMCA ac mae wedi'i dylunio fel y gall myfyrwyr glirio eu tai yn gyfrifol cyn iddynt symud allan - heb fod angen gadael eitemau diangen allan ar y stryd pan nad yw hi'n ddiwrnod casglu.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân ac Ailgylchu: "Mae angen i bob myfyriwr gynllunio ymlaen llaw pan fydd yn gadael ei eiddo rhent fel bod unrhyw wastraff nad oes modd ei ailgylchu neu ei ddefnyddio yn cael ei roi allan i'w gasglu ar y diwrnod casglu cywir.

"Mae methu â gwneud hyn yn gwneud llefydd yn flêr iawn ac mae bagiau sbwriel yn aml yn cael eu rhwygo ar agor gan wylanod, gan achosi lefelau mawr o sbwriel ar y stryd. Os bydd myfyrwyr yn dal ati i wneud hyn, byddant yn cael Hysbysiad Cosb Benodedig. Mae llawer o amser ac ymdrech wedi'u rhoi i mewn i gynlluniau ailgylchu ac ailddefnyddio amrywiol drwy'r Ymgyrch Caru Caerdydd Cyn i Chi Fynd, a gofynnwn i bawb gynllunio ymlaen llaw a defnyddio'r cyfleusterau sydd ar gael."

Mae cynlluniau ailgylchu ac ailddefnyddio niferus wedi'u gweithredu fel y gall myfyrwyr ailgylchu neu roi unrhyw eitemau diangen cyn iddynt adael y ddinas.

Y llynedd cafodd dros 21 tunnell o eitemau diangen eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu drwy'r cynllun hwn.

Mae'r cyfleusterau canlynol ar gael:

  • Mae 24 o bwyntiau rhoi wedi'u creu mewn neuaddau preswyl ac undebau myfyrwyr lle gall unrhyw ddillad, bwyd heb ei agor, eitemau trydanol bach, llyfrau, CDs, DVDs ac eitemau'r gegin gael eu hailddefnyddio
  • Mae 41 o bwyntiau rhoi'r YMCA hefyd ar gael, a gallwch weld yr holl leoliadau yma -https://bit.ly/2tlnVyy
  • Gall beiciau diangen gael eu rhoi i weithdy Beics Caerdydd yn Uned 9 Gweithdai Gabalfa, CF14 3AY
  • Gall dodrefn diangen gael eu rhoi i'r YMCA yn Uned N2 Colchester Avenue neu gall myfyrwyr drefnu casgliad am ddim drwy ffonio 02920 495114.
  • Mae'r Cyngor hefyd yn cynnig gwasanaeth casglu eitemau swmpus am ddim ar gyfer unrhyw eitem fawr y gellir ei hailgylchu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma -https://bit.ly/2Mv6cO5. Codir ffi fechan ar gyfer eitemau swmpus nad oes modd eu hailgylchu.
  • Mae yna ddwy Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Ffordd Lamby a Bessemer Close lle gellir cael gwared ar wastraff ailgylchu a gwastraff cyffredinol yn gyfrifol -https://bit.ly/2lgLC7s

Aeth y Cynghorydd Michael yn ei flaen i ddweud: "Hoffwn ddiolch i bob partner sy'n rhan o'r cynllun hwn, a gobeithio y gallwn ledaenu'r neges i fyfyrwyr ynghylch pa mor bwysig yw hyn."