The essential journalist news source
Back
15.
June
2018.
Arolwg arwynebau ffordd ar gyfer beicwyr yn y ddinas

 

I gyd-fynd ag Wythnos Genedlaethol y Beic, mae'r Cyngor yn ymgynghori â phreswylwyr yng Nghaerdydd yn gofyn am eu barn ynghylch ffyrdd y mae llawer o feicwyr yn eu defnyddio yn y ddinas ac mae gwaith trwsio i'w wneud arnynt.

Bob blwyddyn, mae gan y Cyngor gyllideb priffyrdd benodol i drwsio, adfer ac ail-wynebu ffyrdd yng Nghaerdydd.Yn y DU mae ffyrdd yn aros am drwsio yn genedlaethol ac mae Cymdeithas y Llywodraethau Lleol wedi amcan y gallai hyn gyrraedd gwerth £14 biliwn erbyn 2020.

Mae pob awdurdod lleol trwy'r DU yn defnyddio'r cyllidebau sydd ar gael i gadw'r ffyrdd yn y cyflwr gorau posibl gyda'r arian sydd ar gael.Mae proses dechnegol sy'n dadansoddi arwynebau ffyrdd ac yn cynghori'r Cyngor ynghylch strategaeth ail-wynebu; ond nid yw hyn bob tro'n ystyried y profiad i feicwyr.

Yng Nghaerdydd, mae rhan o'r gyllideb briffyrdd y flwyddyn ariannol hon wedi ei dynodi i edrych yn benodol ar ffyrdd y mae llawer o feicwyr yn eu defnyddio.

Mae'r Cyng. Caro Wild, Aelod Cabinet dros Gynllunio Cynaliadwy a Thrafnidiaeth wedi lansio arolwg i ofyn i breswylwyr sy'n beicio gynnig ffyrdd yn y ddinas y maen nhw'n eu defnyddio neu y bydden nhw'n eu defnyddio, y mae'r arwyneb yn wael ac mae'n gofyn am restr o'r pum ffordd neu ardal waethaf.

Dywedodd y Cyng. Wild:"Wrth deithio yn ac o amgylch y ddinas, rydym am i bobl adael eu car gartref a defnyddio dulliau trafnidiaeth cynaliadwy.Er mwyn i hyn ddigwydd, mae'n rhaid i ni sicrhau bod beicio a cherdded yn fwy apelgar a gwnawn ni hyn trwy wella hygyrchedd a seilwaith, ac rydyn ni'n ymrwymo wrth hyn.

"Gall tyllau yn y ffordd ac arwyneb gwael achosi anafiadau difrifol i bobl sy'n beicio a'u gwneud yn fwy agored i niwed.Mae hyn yn cynnwys llawer o bobl sy'n newydd i feicio a phlant sy'n mynd i'r ysgol.Rydyn ni am glywed gan bobl sy'n defnyddio beics er mwyn i ni geisio gwneud gwelliannau lle mae'r angen.Arolwg syml yw hwn, a bydd yn agored tan 1 Gorffennaf."

Mae'r arolwg yn hawdd a chyflym i'w gwblhau a gallwch ei weld a'i gwblhau yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Arolwg Cymraeg  -https://www.snapsurveys.com/wh/s.asp?k=152518852390

Arolwg Saesneg -https://www.snapsurveys.com/wh/s.asp?k=152518850211