The essential journalist news source
Back
15.
June
2018.
Landlordiaid yn cael eu cosbi am beidio â chydymffurfio


Mae landlordiaid sydd wedi anwybyddu gofynion Rhentu Doeth Cymru'n cael eu cosbi am beidio â chydymffurfio.

 

Mae pedwar landlord gydag eiddo rhent yng Nghaerdydd, Casnewydd a Chonwy wedi cael dirwyon yn Llys Ynadon Caerdydd am fethu â chyflawni eu rhwymedigaethau fel y nodir yn Neddf Tai (Cymru) 2014.

 

Rhaid i bob landlord gydag eiddo yng Nghymru eu cofrestru eu hunain a'u heiddo rhent a rhaid i landlordiaid sydd hefyd yn gosod a rheoli'r cartrefi ddilyn hyfforddiant a chael eu trwyddedu.

 

Rhoddwyd dirwy o £1,540 i'r landlord Joanne Day, o Betws Road, Llanrwst, Gogledd Cymru, am droseddau sy'n ymwneud â gweithredu fel landlord heb ei gofrestru a heb ei drwyddedu.Bydd hefyd yn rhaid iddi dalu costau o £490 a thâl dioddefwr o £44.

 

Dyfarnwyd Muhammed Ahmed o Winchester Road, Sandy, Bedfordshire, yn euog yn ei absenoldeb a chafodd ddirwy o £1,100, rhaid iddo dalu costau o £459 a thâl dioddefwr o £66, am fethu â chofrestru ac am benodi asiant heb drwydded ar gyfer ei eiddo yng Nghasnewydd.

 

Cofrestrodd y landlord Rizwan Ul Zaman o Gaerdydd fel landlord ond ni chydymffurfiodd yn llawn â'r gyfraith drwy gael trwydded wedi hynny..  Dyfarnwyd ef yn euog o ddwy drosedd a chafodd ddirwy o £880 gyda chostau o £490.15.

 

Yn yr un modd, methodd Tom Brock o Llandaff Road, Caerdydd i ymgeisio am drwydded i reoli ei eiddo yn Cathays a chafodd ei ganfod yn euog yn ei absenoldeb yn y llys. Cafodd ddirwy o £440, gyda chostau o £529 a chostau dioddefwr o £44.

 

Dywedodd Aelod Cabinet Tai a Chymunedau Cyngor Caerdydd, yr awdurdod trwyddedu dros Gymru gyfan,  y Cyng. Lynda Thorne: "Mae Rhentu Doeth Cymru yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol yng Nghymru i ddod o hyd i landlordiaid ac asiantau nad ydynt yn cydymffurfio yn eu hardaloedd.

 

"Mae cydymffurfio gyda'r gyfraith yn llawer rhatach nag erlyniad llwyddiannus fel y mae'r tri landlord hyn wedi darganfod er mawr colled iddynt.Mae'n bwysig cofio bod angen i landlordiaid sy'n rheoli eu hunain wneud mwy na chofrestru'n unig - rhaid iddynt hefyd gael eu trwydded felly rydym yn atgoffa'r landlordiaid hynny eu bod yn wynebu erlyniad os na fyddan nhw'n cydymffurfio.

 

"Os yw landlord yn penodi asiant i reoli ei eiddo ar ei ran, mae'n hollbwysig ei fod yn cadarnhau bod yr asiant wedi'i drwyddedu i wneud hynny.Fel y gwelwn ni yma, mae penodi asiant heb ei drwyddedu hefyd yn dod â pheryglon felly defnyddiwch ein cofrestr gyhoeddus i sicrhau bod asiantau'n gyfreithiol."

 

I gael gwybod a yw landlord neu asiant yn cydymffurfio â Rhentu Doeth Cymru, ewch i https://www.rhentudoeth.llyw.cymru/cym/check-register/