Cefnogir y gwasanaeth coffa gan Gymdeithas Marw-enedigaethau a Marwolaethau Newyddanedigion (Sands) a bydd yn cael ei arwain gan Gaplaniaeth Ysbyty Athrofaol Cymru.
Dywedodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Profedigaeth, y Cyng. Michael Michael: “Nod y gwasanaeth syml hwn yw rhoi cyfle i deuluoedd sydd wedi cael profiad trist iawn o golli babi i gael amgylchedd gofalgar a chefnogol i ddod at ei gilydd i gofio."
Dywedodd Heatherjane Coombs, Cadeirydd Sands Caerdydd a Chasnewydd: “Rydym yn falch o weithio gyda Gwasanaethau Profedigaeth Caerdydd i drefnu’r gwasanaeth ardderchog hwn i alluogi rhieni i gofio eu babanod. Rydym yn deall cymaint o ergyd yw colli babi, a bydd aelodau’r grŵp ar gael i roi cyngor ar ôl y gwasanaeth os ydych am siarad â rhywun.”
Gellir ysgrifennu cardiau coffa yn ystod y gwasanaeth, ac wedyn bydd cyfle i roi carreg goffa yn y fowlen goffa yn yr Ardd Fytholwyrdd.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch
staff Gwasanaethau Profedigaeth Amlosgfa Draenen Pen-y-graig ar 029 2054 4820.