The essential journalist news source
Back
8.
June
2018.
Dyfodol disglair i bobl ifanc sy'n gadael gofal a phlant sy'n derbyn gofal yng Nghaerdydd

Mae mwy o gyfle bellach i blant sy'n derbyn gofal a phobl ifanc sy'n gadael gofal y Cyngor yng Nghaerdydd i ddilyn y gyrfa a fynnon nhw diolch i gynllun hyfforddi Dechrau Disglair. 

Mae rhaglen Cyngor Caerdydd Dechrau Disglair yn rhoi cymorth, hyfforddiant a lleoliadau gwaith mewn amrywiaeth o fusnesau a sefydliadau yng Nghaerdydd gan gynnwys amrywiaeth o rolau yn yr awdurdod lleol. 

Mae Morgan Stewart, 19, yn un person ifanc sydd wedi manteisio ar y cynllun, gan sicrhau lleoliad fel hyfforddai gyda Chanolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd dri mis yn ôl. 

Gan sôn am ei brofiad, dywedodd Morgan:"Bright Start ffeindiodd y gwaith i fi yng Nghanolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd.Maen nhw wedi fy helpu'n ddi-ben-draw, gan roi pethau fel Cerdyn Iff i fi i fy helpu i ffeindio gwaith ac arian am fwyd.Mae'r lleoliad hwn yn rhoi cymwysterau a phrofiad i fi. 

"Cyn dod i'r ganolfan, do'n i heb ystyried gyrfa mewn gweithgareddau awyr agored, ond rwy'n dwlu ar fy ngwaith nawr.Dwi'n gobeithio, 10 mlynedd o nawr, y bydda i yma yng Nghanolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd yn gweithio fel hyfforddwr rafftio."  

Mae gan bob person ifanc fentor sydd wedi'i hyfforddi'n llawn er mwyn iddyn nhw gael arweiniad ar ddefnyddio'r gwasanaethau cyngor.Mae hyn yn cynnwys Gwasanaethau i Mewn i Waith sy'n cynnig amrywiaeth o gymorth gyrfaoedd.Mae'r cynllun yn cyfrannu at gostau dillad gwaith a chinio yn ystod lleoliadau. 

Mae cyfle hefyd i bobl ifanc fynd ar raglen o weithdai creadigol sy'n cael ei arwain gan arlunwyr ac entrepreneuriaid. Mae'r rhain yn eu helpu i ddod yn rhan o sector creadigol llewyrchus Caerdydd - sector sydd ar hyn o bryd yn cyflogi 15,000 o bobl yng Nghaerdydd ac sy'n cyfrannu mwy na biliwn at yr economi leol.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd, y Cyng. Graham Hinchey:"Mae'n flaenoriaeth yn ein Huchelgais Prifddinas gwneud yn siŵr bod plant sy'n derbyn gofal a phobl ifanc sy'n gadael ein gofal yn cael cyfleoedd i lwyddo, ac mae Dechrau Disglair yn enghraifft glir o'n hymrwymiad i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd. 

"Dylai Caerdydd fod yn ddinas wych i bob un o'n plant gael eu magu.Dyna'r rheswm rydym ni, y Cyngor, yn ymroi i fuddsoddi mewn ysbrydoli a chyfleoedd bywyd i'n plant a'n pobl ifanc.Mae Dechrau Disglair yn ffordd ragorol o wneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd gennym ni gan sicrhau ein bod yn buddsoddi cymaint â phosibl yn ein plant a'n pobl ifanc." 

Mae Dechrau Disglair, sy'n olynu'r Rhaglen hyfforddi Plant sy'n Derbyn Gofal a sefydlodd y Cyngor yn 2014, hefyd yn gweithio gydag Addewid Caerdydd i greu cysylltiadau rhwng addysg a busnes yng Nghaerdydd. 

Mae gan Gyngor Caerdydd amrywiaeth o bartneriaid sy'n helpu i roi Dechrau Disglair ar waith gan gynnwys Adran Gwaith a Phensiynau, Hyfforddiant ACT, Addysg Cylch Llawn, Llamau a Chymorth Base.