The essential journalist news source
Back
16.
May
2018.
Ras Fôr Volvo Caerdydd yn croesawu Cei'r Fôr-Forwyn yn bartner newydd

Mae cyfres hwylio enwocaf y byd yn cyrraedd Caerdydd y mis hwn a Chei'r Fôr-Forwyn yw partner nawdd diweddaraf y ddinas groeso i gael ei gyhoeddi, wrth i'r digwyddiad chwaraeon rhyngwladol ddod i Brifddinas Cymru.

Disgwylir i'r fflyd gyrraedd ddydd Llun 28 Mai, yn dilyn taith 2,900 o filltiroedd o America ar hyd Môr yr Iwerydd. Bydd yn aros ym Mae Caerdydd am gyfnod o bythefnos a chaiff Bae Caerdydd ac Alexandra Head, sydd newydd ei ddatblygu, eu trawsnewid i fod yn bentref rasio trawiadol i letya gŵyl adloniant am ddim.

Nepell o'r Pentref Rasio ac mewn lleoliad syfrdanol yng nghanol Bae Caerdydd, mae gan Gei'r Fôr-Fowryn dros 30 o fwytai, barau a chaffis gyda bwyd o bob cwr o'r byd.Mae hefyd yn gartref i glwb comedi cyntaf a gorau Caerdydd, The Glee, a gwasanaeth Bws Dŵr sy'n gallu mynd â chi o'r Bae i ganol y ddinas ar siwrne hyfryd ar hyd Afon Taf.

Mae pensaernïaeth nodedig Cei'r Fôr-Forwyn wedi'i hysbrydoli gan ei safle a'i threftadaeth forwrol, gan gynnwys deciau, tyrau, balconïau, terasau, colofnresi a phontydd - gyda llawer o seddi awyr agored i fwynhau'r olygfa pan fydd y tywydd yn braf.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Peter Bradbury:"MaeCei'r Fôr-Forwynwedi sefydlu ei hun fel un o gyrchfannau ymwelwyr mwyaf poblogaidd Caerdydd.Dros ddau ddegawd mae wedi parhau i gynnig rhywbeth i bawb gyda'i amgylchedd ymlaciol a bywiog.Bydd Cei'r Fôr-Forwyn yn cynnig profiad gwych i'r rheini sy'n ymweld â'r ddinas am y tro cyntaf yn ogystal â phobl leol sydd am fod yn rhan o gyffro Ras Fôr Volvo.Fe fydd yn ddigwyddiad gwych a bydd yn cryfhau enw da Caerdydd fel dinas glan y môr."

 

Meddai Justin Patel, Rheolwr y Ganolfan, Cei'r Fôr-Forwyn:"Rydym wrth ein bodd i fod yn noddwr ar gyfer ymweliad Ras Fôr Volvo â Bae Caerdydd.Mae'n addo bod yn ddigwyddiad anhygoel sy'n denu pobl o bob cwr o'r DU a'r tu hwnt ac mae gennym raglen gyffrous o adloniant wedi'i chynllunio - gyda cherddoriaeth fyw, hud a lledrith anhygoel a hyd yn oed sioe olau ar thema hwylio bob nos - i sicrhau bod pawb yn cael amser gwych.

Er mwyn dathlu'r cyhoeddiad bod Cei'r Fôr-Fowryn yn noddwr Dinas Groeso Caerdydd ar gyfer Ras Fôr Volvo, rydyn ni'n rhoi noson allan am ddim i ddau yng Nghei'r Fôr-Forwyn gyda thalebau gwerth £45 i'w gwario ar bryd bwyd yn Wagamama Cei'r Fôr-Forwyn a thocynnau ar gyfer The Glee i wneud yn siŵr eich bod yn cael hwyl.I gystadlu, ewch draw i dudalen Facebook Cyngor Caerdydd<https://www.facebook.com/cardiff.council1/>

Mae'r gystadleuaeth yn cau ar Ddydd Mawrth, 22 mai. 12PM.

Am ragor o wybodaeth am Ras Fôr Volvo ewch ihttps://www.cymraeg.volvooceanracecardiff.com/

www.croesocaerdydd.com

 Am ragor o wybodaeth am Gei'r Fôr-Forwyn ewch iwww.mermaidquay.co.uk