The essential journalist news source
Back
20.
April
2018.
Carreg filltir bwysig wrth adeiladu dwy ysgol gynradd newydd yng ngogledd Caerdydd

Cynhaliwyd seremoni yn safle newydd Ysgol Gynradd Gabalfa ac Ysgol Gymraeg Glan Ceubal, i nodi diwedd y gwaith adeiladu. 

Wedi'i ariannu ar y cyd gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, drwy'r rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac Addysg, bydd y project £8.2m yn cynnig llety i'r ddwy ysgol, mewn lleoliad a rennir ar safle 32,000 metr sgwâr. 

Croesawodd pennaeth Ysgol Gynradd Gabalfa, Mrs Carrie Jenkins a Mrs Lisa Mead, pennaeth Ysgol Gymraeg Glan Ceubal, ynghyd â disgyblion o'r ddwy ysgol, y gwesteion oedd yn cynnwys Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry, i'r seremoni gosod y garreg gopa. 

Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Mrs Jenkins a Mrs Mead:"Rydyn ni'n ddwy ysgol yn y gymuned leol, yn dod ynghyd i lywio dyfodol ein disgyblion yma yn Ystum Taf a Gabalfa, gyda'r nod o gydweithio i sicrhau dyfodol llwyddiannus i bawb. 

"Mae'n amser cyffrous iawn i'n holl ddisgyblion, staff ac aelodau'r gymuned, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at symud i mewn i'r adeilad newydd ar ôl gwyliau'r haf." 

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry:"Mae'n bleser i ddod yn ôl i'r safle a gweld y cynnydd gwych sydd wedi'i wneud.Ymwelais â'r ysgol ar ddiwedd mis Medi i dorri'r gwair ac i ddathlu dechrau'r gwaith adeiladu.Nawr, chwech mis yn ddiweddarach, mae'r adeilad wedi cyrraedd carreg filltir bwysig arall, gyda'r adeilad wedi cyrraedd ei uchder llawn. 

"Mae'n ddyluniad gwahanol iawn i ysgolion newydd eraill yr ydym yn buddsoddi ynddynt gyda Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd.Mae'r lleoliad a rennir arloesol yn creu ffordd effeithlon i ni ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg a Saesneg yn yr ardal. 

"Ar yr un pryd, mae'r cynllun wedi'i greu mewn ffordd sy'n sicrhau bod y ddwy ysgol yn cadw eu hunaniaethau ar wahân, gan eu galluogi nhw i gydweithio." 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams:"Wedi'i ariannu gan £4.1m gan Lywodraeth Cymru, mae'r safle newydd hwn ar gyfer Ysgol Gynradd Gabalfa ac Ysgol Gymraeg Glan Ceubal yn cynnig amgylchedd dysgu ardderchog ar gyfer y 21ain Ganrif.Rwy'n benodol falch o'r ffordd y bydd yr adeilad yn rhannu adnoddau ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg a Saesneg. 

"Mae'r project hwn yn rhan o'r don gyntaf o Raglen Ysgolion y 21ain Ganrif ac Addysg Llywodraeth Cymru, a fydd yn ailadeiladu ac ailwampio 150 o ysgolion a cholegau ledled Cymru, gan gynrychioli'r buddsoddiad mwyaf yn ein hysgolion a'n colegau ers y 1960au." 

Wedi'i ddylunio gan Projectau, Dylunio a Datblygu yng Nghyngor Caerdydd, mae'r adeilad newydd wedi'i leoli ar dir rhwng yr ysgolion presennol ar Colwill Road ac, unwaith y bydd wedi'i gwblhau yn yr haf, bydd yr adeiladau ysgol gwreiddiol yn cael eu dymchwel. 

Bydd y safle'n cael ei dirlunio'n llawn, a bydd gan bob ysgol ei hardaloedd gemau aml-ddefnydd eu hunain, cae chwarae, ysgol goedwig a pharth dyfu. 

Bydd gan y ddwy ysgol un dosbarth mynediad, a phob un â lle ar gyfer hyd at 210 o bobl, o ddosbarth derbyn hyd at flwyddyn 6, ynghyd â chynnig darpariaeth feithrin.