The essential journalist news source
Back
20.
April
2018.
Neuadd Dewi Sant yn rhoi'r gorau i blastig untro

Mae un o leoliadau mwyaf eiconig Caerdydd wedi ymrwymo i gael gwared ar blastig untro o'i holl weithrediadau erbyn diwedd fis nesaf.

Mae Neuadd Dewi Sant, yNeuadd Gyngerdd Genedlaethol a Chanolfan Gynadledda Cymru, wedi addo rhoi'r gorau i wydrau cwrw plastig, gwellt yfed, trowyr diod a chwpanau peiriannau gwerthu a defnyddio eitemau bioddiraddiadwy yn eu lle, a fydd yn dadfeilio'n naturiol heb unrhyw effeithiau negyddol ar yr amgylchedd.

Mae llygredd plastig yn broblem fawr a gall eitemau rydym yn eu defnyddio unwaith, fel poteli plastig, gwellt yfed, pecynnau bwyd a chwpanau, gymryd hyd at 450 mlynedd i ddadfeilio, a hyd yn oed yn fwy mewn dŵr.Erbyn 2050, disgwylir y bydd cymaint o blastig wedi cronni ym moroedd y byd nes y bydd yn pwyso mwy na'r holl bysgod gyda'i gilydd, gan gael effaith negyddol ar fywyd morol.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden:"Mae'r broblem o lygredd plastig morol o bryder byd-eang enfawr, ac mae'n galonogol gweld ein staff yn gweithredu prosesau gwahanol i sicrhau bod Caerdydd yn lleihau ei hôl-troed plastig.

"Cymru yw un o wledydd ailgylchu gorau'r byd, a ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i godi tâl am fagiau plastig untro.Mae felly'n hanfodol, fel prifddinas, ein bod yn arwain y ffordd o ran ailgylchu a sicrhau nad yw gwastraff yn cael ei waredu'n anghywir yn ein dyfroedd."

Dywedodd Ceri Moxham, Rheolwr Arlwyo yn Neuadd Dewi Sant:"Mae Neuadd Dewi Sant yn poeni'n fawr am y blaned, ac roeddem am wneud gwahaniaeth.Rydym eisoes yn defnyddio amrywiaeth o blatiau a chyllyll a ffyrcbioddiraddiadwy ar gyfer ein digwyddiadau rygbi, ond roeddem eisiau gwneud mwy.Rydym wedi archebu ein cynhyrchion newydd cyntaf, a elwir yn PLA (starts ŷd y gellir ei gompostio) ac rydym yn disgwyl i'r newid fod wedi'i gwblhau erbyn diwedd Mai.Byddwn yn rhoi gwybod i'n cwsmeriaid, a gallant fod yn sicr ein bod yn gwneud ein rhan ni i leihau gwastraff plastig."

Mae Ras Fôr Volvo, digwyddiad hwylio anoddaf a mwyaf mawreddog y byd yn dod i Gaerdydd ym mis Mai, gan ddod â neges glir am foroedd glân ar ei thaith 45,000 milltir forol ar draws y moroedd mawr.Fel porthladd croeso, mae Caerdydd yn ystyried llunio ei hastudiaeth gynaliadwyedd ei hun, yn yr un modd â phorthladdoedd rhyngwladol eraill fel Hong Kong ac Auckland.