The essential journalist news source
Back
21.
September
2017.
Y Cyngor yn arwyddo cod ymddygiad cyflogaeth foesegol

Y Cyngor yn arwyddo cod ymddygiad cyflogaeth foesegol

 

Mae Cyngor Caerdydd wedi ymuno'n ffurfiol â Chod Ymddygiad Llywodraeth Cymru ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi.

Y Cyngor oedd y sefydliad cyhoeddus cyntaf i gytuno i fabwysiadu'r Cod ym mis Mawrth 2017.

 

Bwriad 12 ymrwymiad y cod yw sicrhau bod gweithwyr sydd ynghlwm wrth gyflenwi'r sector cyhoeddus wedi eu cyflogi'n foesegol ac yn unol â llythyren ac ysbryd deddfau y DU, yr UE a deddfau rhyngwladol. 

 

Mae nifer o faterion cyflogaeth yn rhan o'r cod, megis caethwasiaeth fodern a thorri hawliau dynol, sicrhau nad yw aelodau undebau llafur yn cael eu cosbi am fod yn aelodau, yr ymdrinnir â hunan-gyflogaeth ffug ynghyd â chynlluniau ymbarél annheg, a chontractau dim oriau ac annog talu'r Cyflog Byw ‘go iawn'.

 

Mae'r Cyngor yn gwario £390m bob blwyddyn ar nwyddau, gwasanaethau a gwaith a brynir i mewn, ac roedd eisoes yn gweithredu'n gadarnhaol i weithredu 12 ymrwymiad y cod.

 

Yn 2012, Caerdydd oedd y Cyngor cyntaf yng Nghymru i dalu'r Cyflog Byw ‘go iawn' yn 2015 ac fe'i dyfarnwyd yn gyflogwr Cyflog Byw achrededig.

 

Mae'r Cyngor hefyd yn annog sefydliadau sy'n gweithio o Gaerdydd i dalu'r Cyflog Byw i'w staff ac i gael eu hachredu'n gyflogwyr Cyflog Byw. Mae 19 o sefydliadau'r ddinas wedi cael eu hachredu'n gyflogwyr Cyflog Byw yn 2017, sy'n golygu bod 37 ohonyn nhw yng Nghaerdydd erbyn hyn.

 

Mae'r Cyngor eisoes wedi ymgorffori'r Cod Ymarfer i'w Strategaeth Gaffael 2017-2020 a'r Polisi Caffael Cymdeithasol Gyfrifol y mae'n ei ddatblygu ar hyn o bryd. Bydd y Cyngor yn parhau i weithio gyda phartneriaid, cyflenwyr a chontractwyr i weithredu pob un o 12 ymrwymiad y Cod.

 

Arwyddwyd y cod yn ffurfiol gan Aelod y Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, y Cynghorydd Chris Weaver ac Arweinydd y Tŷ, Llywodraeth Cymru, Jane Hutt AC.

 

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, Hyrwyddwr Cyflogaeth Foesegol a Gwrth-Gaethwasiaeth y Cyngor:

"Rwyf yn falch iawn bod Cyngor Caerdydd wedi cytuno i fod y sefydliad sector cyhoeddus cyntaf yng Nghymru i gytuno i ymuno â'r Cod Ymarfer. Mae hyn yn dangos ymrwymiad parhaus y Cyngor i fod ar flaen y gad o ran cefnogi arferion 'gwaith teg' a lles y sawl sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus i'r cyhoedd."

 

 

Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru Mark Drakeford: "Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod arferion cyflogaeth da wrth wraidd yr holl brojectau sector cyhoeddus sydd ar waith yma yng Nghymru. Bydd ein cod ymarfer yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o helpu i gyflawni hyn. Rwy'n falch bod Cyngor Caerdydd wedi mabwysiadu'r cod ac rwy'n annog cyrff sector cyhoeddus eraill i wneud yr un fath â'n helpu i sicrhau bargen well i weithwyr yn ein cadwyni cyflenwi ym mhob rhan y byd."