The essential journalist news source
Back
15.
September
2017.
11,000 o dai newydd i’r ddinas erbyn 2022

11,000 o dai newydd i'r ddinas erbyn 2022

 

Mae adroddiad gan Gyngor Caerdydd wedi datgelu y disgwylir adeiladu mwy nag 11,000 o dai newydd yn y ddinas dros y pum mlynedd nesaf.

 

Mae adroddiad monitro cyntaf Cynllun Datblygu Lleol yr awdurdod, a fabwysiadwyd y llynedd, hefyd yn dangos cynnydd yng nghyfradd y tai newydd a fydd yn cael eu cwblhau er mwyn mynd i'r afael â'r angen cynyddol am dai yn y ddinas.

 

Dros y 10 mlynedd diwethaf, adeiladwyd cyfanswm o 9,242 o dai yng Nghaerdydd ond disgwylir y bydd y ffigwr hwnnw yn uwch yn ystod y pum mlynedd nesaf pan ddisgwylir cwblhau dros 11,000 o dai erbyn 2022 yn ôl yr amcangyfrifon cyflenwad tir diweddaraf sy'n eithrio llety i fyfyrwyr.

 

Mae'r Cyngor yn gweithio gyda datblygwyr er mwyn helpu i ddarparu safleoedd sydd yn y Cynllun Datblygu Lleol ynghyd â seilwaith i'w cefnogi mewn modd graddol. Trwy weithio mewn partneriaeth, gellid adeiladu 2,000 o dai y flwyddyn a fyddai'n golygu twf o 1 - 1.5% yn y stoc dai bob blwyddyn.

 

Wrth groesawu'r newyddion am y ddarpariaeth dai yng Nghaerdydd, dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau: Mae Caerdydd yn ddinas ffyniannus gydag un o'r poblogaethau sydd yn tyfu gyflymaf yn y DU, felly mae mynd i'r afael â phob math o dai ledled y ddinas yn hanfodol.

Mae'n galonogol iawn gweld bod disgwyl i nifer sylweddol uwch o gartrefi newydd gael eu hadeiladu yn y ddinas.

 

"Rydym hefyd yn un o ychydig iawn o awdurdodau lleol yn y DU sydd wedi ymrwymo i adeiladu tai Cyngor newydd, a wedi gosod targed o adeiladu 1,000 o dai newydd fforddiadwy dros y pum mlynedd nesaf.

 

"Gyda dros 8,000 o ymgeiswyr ar y rhestr aros am dai cymdeithasol yn y ddinas - gyda 4,600 ohonynt ag angen tai gwirioneddol, mae'n bwysig ein bod ni'n gallu cynnig mwy o gartrefi fforddiadwy, diogel a safonol ledled Caerdydd."

 

Caiff adroddiad monitro blynyddol Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd ei ystyried gan y Cabinet Ddydd Iau, 21 Medi ac ar ôl iddo gael ei gymeradwyo, caiff ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref.