The essential journalist news source
Back
31.
August
2017.
Dathlu Diwrnod y Llynges Fasnachol yn y Plasty

[image]

 

Bydd cynrychiolwyr sefydliadau cyn-filwyr ac aelodau'r lluoedd arfog yn ymuno ag Arglwydd Faer Caerdydd, y Cyng. Bob Derbyshire mewn seremoni codi'r faner yn y Plasty, ddydd Gwener 1 Medi, i ddangos cefnogaeth i forwyr masnachol y DU.

Caiff baner y Llynges Fasnachol, Y Lluman Coch, ei chodi i nodi Diwrnod y Llynges Fasnachol ac anrhydeddu morwyr y gorffennol a phresennol sydd wedi gwasanaethu eu gwlad mewn dull mor nodedig dros y blynyddoedd.

Dywedodd y Gwir Anrhydeddus . Arglwydd Faer Caerdydd, y Cyng. Bob Derbyshire: "Mae'n bwysig cofio am arwyddocâd y Llynges Fasnachol yn y modd hwn oherwydd fel arall mae perygl y bydd y rôl bwysig y chwaraeodd yn ystod y Ddau Ryfel Byd yn cael ei anghofio. Yn ystod y rhyfel, heb ddewrder morwyr y Llynges Fasnachol dan yr amgylchiadau gwaethaf posibl - byddai'r wlad hon yn amddifad o fwyd a chyflenwadau hanfodol eraill. Mae'r gwaith hanfodol a wneir ganddynt mewn moroedd tymhestlog yn parhau hyd heddiw ac ni fyddai ffyniant y DU, a adeiladwyd ar sail masnachu rhyngwladol i raddau helaeth, wedi bod yn bosibl hebddynt."

Mae'r Lluman Coch wedi bod yn gysylltiedig â'r Llynges Fasnachol ers 1854. Mae wedi bod cwhwfan uwchben cefnforoedd y byd yn ystod cyfnodau o heddwch a thrwy gydol gwrthdaro peryglus.

Bydd y seremoni yn dechrau am 9.30am a chaiff y faner ei chodi am 10.00am.