The essential journalist news source
Back
28.
July
2017.
Diogelu ein cartrefi ar gyfer y dyfodol

Diogelu ein cartrefi ar gyfer y dyfodol

 

Mae Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne, wedi croesawu newyddion bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cais yr awdurdod i atal yr Hawl i Brynu.

 

Mae Carl Sargeant, yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gymunedau a Phlant, wedi rhoi caniatâd i Gaerdydd atal y cynllun, a oedd yn rhoi cyfle i'r rhan fwyaf o denantiaid y Cyngor sydd wedi byw yn eu cartrefi ers pum mlynedd brynu'r eiddo a chael gostyngiad hyd at £8,000 ar ei werth.

 

O 19 Gorffennaf 2017 ymlaen, bydd y cynllun Hawl i Brynu'n cael ei atal yng Nghaerdydd am gyfnod o bum mlynedd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Thorne: "Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi caniatâd i'r Cyngor atal y cynllun Hawl i Brynu yng Nghaerdydd am bum mlynedd. Mae awdurdodau lleol yn gallu gwneud hyn mewn ardaloedd lle mae llawer o alw am dai, ac yn sicr, dyna yw'r achos yng Nghaerdydd.

 

"Mae Caerdydd yn un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yn y DU a chyda dros 8,000 o bobl ar y rhestr aros tai cymdeithasol ar hyn o bryd, mae'n rhaid i ni weithio'n galed iawn i sicrhau ein bod yn cynnig tai o safon i'r rheiny sydd eu hangen fwyaf nawr ac i'r dyfodol.

 

"Yn 1985, roedd gan y Cyngor 23,000 eiddo ond drwy'r hawl i brynu, mae'r ffigwr hwnnw wedi lleihau i oddeutu 13,400 eiddo, sef y stoc bresennol. Mae'r penderfyniad hwn yn ein galluogi ni i ddiogelu'r ddarpariaeth dai sydd wir ei hangen ar genedlaethau presennol a chenedlaethau'r dyfodol."

 

Gyda lefel uchel iawn o angen tai ar gyfer pob math o lety yn y ddinas, a thua 8,300 o ymgeiswyr ar y rhestr aros tai cyffredin am dai cymdeithasol (mae ar 4,600 o'r rhain wirioneddol angen tai), mae'r Cyngor a'i bartneriaid Cymdeithasau Tai'n ceisio cynyddu'r cyflenwad tai fforddiadwy o hyd.

 

Nododd y Cynghorydd Thorne: "Rydym wedi ymrwymo i gyflenwi 1,000 o dai cyngor fforddiadwy dros y bum mlynedd nesaf drwy ein cynllun Cartrefi Caerdydd a datrysiadau arloesol eraill. Bydd y penderfyniad i atal yr Hawl i Brynu'n helpu i ddiogelu tai cyngor presennol ac yn ein helpu ni i gyflawni cynnydd go iawn yn nifer y tai fforddiadwy o safon, sydd wirioneddol eu hangen."