The essential journalist news source
Back
5.
July
2017.
‘Caerdydd Yw’ yr Haf

[image]

Mwynhewch fwydydd blasus y byd, traeth tywodlyd, reidiau ffair hwyl i'r teulu cyfan a'r wefr o hwylio ym Mae Caerdydd - lleoliad sydd â phopeth ar eich cyfer yr Haf yma!

Gŵyl Bwyd a Diod Ryngwladol Caerdydd, Traeth Bae Caerdydd Capital FM, a Gŵyl Harbwr Caerdydd yw'r prif atyniadau yn yr ymgyrch "#CaerdyddYw yr Haf" eleni.

Mae Gŵyl Bwyd a Diod Ryngwladol Caerdydd ym Mae Caerdydd ar 14 Gorffennaf am y 18fed tro. Bydd gŵyl fwyd fwyaf Cymru yn cael ei chynnal yn Roald Dahl Plass a bydd modd mynd i mewn yn rhad ac am ddim. Bydd mwy na 100 o gynhyrchwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn cyflwyno eu danteithion. Gall ymwelwyr grwydro'r stondinau yn Ffair y Cynhyrchwyr, a bydd yr amrywiol ddanteithion ar werth ar y Piazza Bwyd Stryd yn tynnu dŵr i'r dannedd, gan gynnwys bara artisan, caws organig a gwirodydd cartref ym Marchnad y Ffermwyr.

Ewch i ôl eich bwced a rhaw achos bydd Traeth Bae Caerdydd Capital FM ar Roald Dahl Plass ar agor dros wyliau haf yr ysgolion ac yn rhan ohono bydd traeth tywodlyd, ardal chwarae dŵr, ac amrywiaeth o reidiau a gemau ffair poblogaidd ar gyfer y teulu cyfan. Bydd Traeth Bae Caerdydd Capital FM yn rhedeg rhwng 28 Gorffennaf a 3 Medi a chaiff ei reoli gan gwmni Sayers Amusements Ltd.

Diweddglo ymgyrch "#CaerdyddYw yr Haf" eleni yw Gŵyl Harbwr Caerdydd, ac yn rhan ohono bydd y Gyfres Hwylio Eithafol. Gan rannu'r gyfres gyda saith dinas arall, megis Muscat a San Diego, bydd Caerdydd yn croesawu criwiau hwylio penigamp, gan gynnwys tîm Prydain, Land Rover BAR Academy, dan fentoriaeth aelodau blaenllaw o dîm hwylio Cwpan America Syr Ben Ainslie. Yn ogystal â hynny bydd amrywiaeth o weithgareddau morol difyr i'r teulu cyfan eu mwynhau. Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal dros benwythnos Gŵyl y Banc Awst - 25 Awst tan 28 Awst.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Rwy'n siŵr y bydd pawb yn cytuno ein bod wedi trefnu haf bendigedig yma yng Nghaerdydd. Rwy'n annog pobl i ddweud wrth eu ffrindiau a'u teuluoedd am y gweithgareddau difyr yr haf hwn, naill ai ar lafar neu drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Helpiwch ni i boblogeiddio #CaerdyddYw ar Twitter a Facebook. Yn olaf, hoffwn i fachu ar y cyfle hwn i ddymuno haf gwych i bawb."

I gael rhagor o wybodaeth am dymor haf Caerdydd, ewch i:www.visitcardiff.com.

 

 

Uchafbwyntiau 2017

 

GORFFENNAF

 

9

Felothon

Ledled y ddinas

11 - 12

Coldplay

Stadiwm Principality

14 - 16

Gŵyl Bwyd a Diod Ryngwladol Caerdydd

Bae Caerdydd

15 - 16

Ben and Holly's Little Kingdom

Theatr Newydd

17 - 29

Grease

Canolfan Mileniwm Cymru

22

British Speedway GP

Stadiwm Principality

22 - 23

Cwrdd â'r Marchogion

Castell Caerdydd

22 - 3 Medi

Traeth Bae Caerdydd Capital FM

Bae Caerdydd

22 - 29

Proms Cymru

Neuadd Dewi Sant

 

AWST

1 - 12

The Addams Family

Canolfan Mileniwm Cymru

5

Depo yn y parc

SSE SWALEC

16

Hairspray

Canolfan Mileniwm Cymru

13

Rali Ceir Clasurol

Bae Caerdydd

19 - 20

Sgarmes Ganoloesol Fawreddog

Castell Caerdydd

25 - 17 Medi

Syrcas Bwyd Stryd

Gerddi Sophia

25 - 27

Penwythnos Mawr Pride Cymru

Canolfan Ddinesig Caerdydd

25 - 28

Gŵyl Harbwr Caerdydd yn croesawu'r Gyfres Hwylio Eithafol

Bae Caerdydd

31 - 3 Medi

The Gruffalo

Theatr Newydd