The essential journalist news source
Back
23.
June
2017.
Stori Caerdydd yn cael ei henwebu ar gyfer gwobr amgueddfa addas i’r teulu

[image]

Mae Amgueddfa Stori Caerdydd wedi'i rhoi ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Amgueddfa Addas i'r Teulu!

Cynhelir y gwobrau blynyddol anrhydeddus hyn gan yr elusen Plant mewn Amgueddfeydd a chânt eu hystyried yn gyffredinol fel y gwobrau amgueddfa mwyaf ym Mhrydain.

Canmolwyd yr amgueddfa yn benodol am ei gwaith cymunedol rhyngweithiol ac am gynnal digwyddiadau yn hyrwyddo sgiliau iaith.

Dywedodd Cyfarwyddwr Creadigol yr elusen Plant mewn Amgueddfeydd, Dea Birkett: "Llongyfarchiadau i Stori Caerdydd am gyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Wobr Amgueddfa Addas i'r Teulu. Mae'n gyflawniad gwych a hynny mewn blwyddyn wirioneddol gystadleuol, gyda mwy na 700 o enwebiadau. Canmolwyd Stori Caerdydd yn arbennig am estyn allan i'r gymuned gyfan ac am gyd-greu arddangosfeydd ac arddangosiadau gyda'i hymwelwyr. Ymatebodd yr amgueddfa i'r adborth gan deuluoedd ffoaduriaid gan sicrhau bod eu Gwarbac Fforwyr yn helpu i addysgu Cymraeg a Saesneg yn rhan o'u gwaith o groesawu teuluoedd sy'n ffoaduriaid o Syria i Gaerdydd. Maen nhw'n esiampl o'r croeso y dylai pob amgueddfa ei roi i bob teulu."

Dywedodd Rheolwr Amgueddfa Stori Caerdydd, Victoria Rogers: "Rydym ni'n falch iawn o gael ein cynnwys ar y rhestr fer eleni!  Gwyddom fod teuluoedd wrth eu boddau â Stori Caerdydd - boed hynny'n deuluoedd sydd ar wyliau yn y ddinas, neu'n ymwelwyr rheolaidd â'n Dreigiau Drygionus neu ein digwyddiadau yn ystod gwyliau'r ysgol.  Felly mae'n beth gwych bod hynny'n cael ei gydnabod!  Rydym wedi cael ein cynnwys ar y rhestr hir deirgwaith o'r blaen, felly rydym ni'n gobeithio y byddwn yn ffodus y pedwerydd tro!"

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden yng Nghyngor Caerdydd, y Cyngh. Peter Bradbury: "Llongyfarchiadau i Victoria a'r holl staff yn Amgueddfa Stori Caerdydd am yr enwebiad hwn, ac yn amlwg rwy'n gobeithio yr ânt ymlaen i gael eu henwi yr amgueddfa fwyaf addas i'r teulu ym Mhrydain! Fel ymddiriedolwr yr amgueddfa, rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith caled sy'n cael ei wneud yna ac rwy'n gwybod eu bod yn llwyr haeddu gwobr genedlaethol. Ond un o brif fanteision enwebiadau o'r math hwn, yw bod y gwaith yn cael ei gyflwyno i gynulleidfa llawer ehangach."

Yn ystod yr haf, bydd teuluoedd penodol yn mynd ati'n anhysbys i brofi gwasanaethau'r amgueddfeydd sydd ar y rhestr fer, a chaiff yr enillydd ei gyhoeddi yn seremoni wobrwyo Plant mewn Amgueddfeydd ym mis Hydref.