Back
Rhyddhau Adroddiad Cynnydd ar Gynnal a Chadw Neuadd y Ddinas

09/05/24

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi adroddiad sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith cynnal a chadw sy'n cael ei wneud ar Neuadd y Ddinas.

Mae gwaith paratoi ar y gweill ar gam un y gwaith cynnal a chadw hanfodol, sef adnewyddu'r system wresogi ac awyru aneffeithlon a darfodedig, ac uwchraddio'r systemau mecanyddol a thrydanol cysylltiedig yn yr adeilad.

Neuadd y Ddinas

Gobaith y Cyngor yw y bydd mewn sefyllfa i ailagor adain ddeheuol yr adeilad fesul cam - gan ddechrau yn hydref 2025 - wrth i gam un y gwaith ar y rhannau hynny o Neuadd y Ddinas gael ei gwblhau gyda mannau ychwanegol o fewn yr adain honno yn ailagor yn gynnar yn 2026.  Byddai angen gwneud mwy o waith er mwyn dod â gofod swyddfa Neuadd y Ddinas yn ôl i ddefnydd.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway:  "Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r materion cynnal a chadw sylweddol sy'n gysylltiedig â Neuadd y Ddinas er mwyn sicrhau ei ddyfodol fel lleoliad dinesig pwysig. Rydym wedi neilltuo £5.3 miliwn o gyllid ar gyfer cam un y rhaglen gynnal a chadw, sydd ar y gweill gyda pharatoadau ar gyfer y system wresogi newydd a gwaith cysylltiedig ar systemau mecanyddol a thrydanol yr adeilad."

Mae'r adroddiad hefyd yn cyfeirio at ystyriaeth gychwynnol o sut y gellid defnyddio Neuadd y Ddinas dros y tymor hwy.  Bydd sawl opsiwn yn cael eu hystyried, gan gynnwys y potensial i sefydliadau eraill weithredu'r lleoliad digwyddiadau a/neu feddiannu'r gofod swyddfa.

"Trwy archwilio cyfleoedd i sefydliadau addas a phriodol ddefnyddio'r adeilad, gallwn leihau atebolrwydd ariannol y Cyngor, gan sicrhau ar yr un pryd fod Neuadd y Ddinas yn parhau i fod yn addas i'r diben fel adeilad dinesig a lleoliad treftadaeth o arwyddocâd hanesyddol, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol," ychwanegodd y Cynghorydd Goodway.

Bydd adolygiad manwl o'r opsiynau yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet fel rhan o Achos Busnes Llawn ar strategaeth swyddfa graidd y Cyngor fis Gorffennaf.

Caeodd yr adeilad dros dro ym mis Hydref 2023 gyda disgwyl ar y pryd i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn mis Hydref 2024.  Fodd bynnag, amlygodd gofynion treftadaeth yr angen am amserlen estynedig er mwyn gwneud y gwaith cynnal a chadw mewn ffordd sy'n gydymdeimladol â ffabrig yr adeilad ac sy'n amddiffyn ei statws rhestredig Gradd I.

Dwedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Roedd y Cyngor wedi disgwyl gallu ailagor rhannau o'r adeilad rhwng Ebrill a Hydref 2024, cyn i'r holl waith gael ei gwblhau, gan nad yw'r system wresogi yn cael ei defnyddio yn ystod y misoedd hyn.  Fodd bynnag, mae archwiliadau pellach wedi dangos y bydd angen mwy o waith trwyadl i fodloni'r gofynion sy'n gysylltiedig â statws rhestredig Gradd I yr adeilad. Mae hyn yn cynnwys tynnu asbestos o ddwythellau gwasanaeth i osod y system wresogi newydd. Bydd angen symud asbestos dros yr haf sy'n golygu na ellir agor yr adeilad yn ystod y misoedd hyn mwyach." 

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn cyfarfod Ddydd Iau 23 Ionawr i ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad, a bydd gweddarllediad o'r cyfarfod hwnnw ar gael ar y diwrnod i'w wylio  yma.

Cyn cyfarfod y Cabinet, bydd Y Pwyllgor Adolygu Polisi a Pherfformiad yn craffu ar yr adroddiad pan fydd yn cyfarfod Ddydd Mercher, 15 Mai. Bydd gwe-ddarllediad o'r cyfarfod hwnnw ar gael  yma.

Mae copi llawn o'r adroddiad ar gael i'w ddarllen  yma.