Back
Cyd-Arolygiaeth Adolygiad o Drefniadau Amddiffyn Plant (JICPA) cydnabod cryfderau yng Nghaerdydd


9/5/2024 

  

Mae canfyddiadau Arolygiad ar y Cyd o Drefniadau Amddiffyn Plant (JICPA) gan Gyngor Caerdydd, Heddlu De Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi'u cyhoeddi.

Roedd yr adolygiad helaeth yn canolbwyntio ar werthuso ymateb amlasiantaethol y ddinas i honiadau o gam-drin ac esgeulustod, ansawdd yr asesu a'r prosesau gwneud penderfyniadau, amddiffyn plant 11 oed ac iau sydd mewn perygl o niwed, arweinyddiaeth, effeithiolrwydd y rheoli mewn ymdrechion amddiffyn plant a chadernid y trefniadau diogelu amlasiantaeth.

Wedi'i gynnal gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (ACGTAeF), Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) a Phrif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (Estyn), roedd y canfyddiadau allweddol yn cynnwys:

  • Galw Uchel a Chymhlethdod:Mae Caerdydd yn wynebu lefelau galw sy'n gyson uchel a chymhlethdod cynyddol o ran diogelu plant. Er gwaethaf heriau fel cyfyngiadau cyllidebol a diffyg gweithlu, mae ffocws cadarnhaol ar ddiogelu ar draws asiantaethau.
  • Gwaith Partneriaeth Cadarnhaol:Mae perthnasoedd proffesiynol ar draws asiantaethau yn gadarn, ac mae diwylliant o ddiogelu yn cael ei hyrwyddo fel cyfrifoldeb ar y cyd. Nod newidiadau diweddar mewn trefniadau llywodraethu yw cryfhau'r monitro, yr atebolrwydd a'r cydweithio ar draws y bartneriaeth.
  • Ymateb Amlasiantaethol Effeithiol:Mae'r ymateb amlasiantaethol i atgyfeiriadau diogelu yn gymesur ac yn drylwyr yn gyffredinol, gan ganolbwyntio ar anghenion y plentyn a gweithredu'n amserol i leihau'r risg o niwed.
  • Dulliau yn Seiliedig ar Gryfderau:Mae Caerdydd yn mabwysiadu dull seiliedig ar gryfderau ac atebion, gan sicrhau bod teuluoedd yn rhan o'r gwaith o gynllunio a chyflawni cynlluniau amddiffyn gofal a chymorth. Defnyddir dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i leihau risgiau a diwallu anghenion plant.
  • Rhagoriaeth Addysg:Mae ysgolion Caerdydd yn blaenoriaethu diogelu, gan sicrhau bod dysgwyr yn ddiogel ac yn cael eu cefnogi. Mae partneriaethau cryf rhwng addysg a gwasanaethau plant yn hwyluso gwelliant parhaus a chefnogaeth wedi'i thargedu i ddisgyblion sy'n agored i niwed.
  • Hyrwyddo Sensitifrwydd Diwylliannol:Mae ymarferwyr yn dangos dealltwriaeth dda o anghenion diwylliannol ac yn blaenoriaethu arferion sy'n sensitif yn ddiwylliannol, gan sicrhau ymgysylltiad effeithiol â chymunedau amrywiol.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at sawl cyflawniad arwyddocaol yn benodol ar draws Gwasanaethau Plant ac Addysg Cyngor Caerdydd:

 

Gwasanaethau Plant:

  • Dealltwriaeth gref o anghenion lleol:Mae gan uwch reolwyr afael gadarn ar anghenion y boblogaeth, gan alinio gwasanaethau yn unol â hynny. Mae hyn wedi arwain at adborth cadarnhaol gan staff, sy'n nodi bod yna gefnogaeth a goruchwyliaeth effeithiol, ac mae'r tîm rheoli'n goruchwylio penderfyniadau diogelu allweddol.
  • Ymrwymiad i barhad staff:Er bod yr awdurdod lleol wedi dibynnu ar staff dros dro i gynnal cryfder y tîm, mae'n galonogol bod swyddi gwag yn lleihau, a bod staff mwy parhaol yn cael eu cyflogi. Mae hyn yn helpu i gryfhau parhad ymarferwyr ar gyfer plant a theuluoedd, gan feithrin ymddiriedaeth a hyder.
  • Gwelliant parhaus a sicrhau ansawdd:Mae arweinwyr ac uwch reolwyr yn ymroddedig i sicrhau a monitro gwelliannau mewn gwasanaethau plant, ac mae systemau ar waith i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol a safonau arfer da. Mae tîm sicrhau ansawdd wedi'i sefydlu i hyrwyddo gwelliant parhaus trwy archwilio a dysgu.
  • Arferion ac eiriolaeth sy'n canolbwyntio ar blant:Mae ymarferwyr yng Nghaerdydd yn defnyddio dulliau sy'n canolbwyntio ar atebion, gan gynnwys plant a theuluoedd mewn cyfarfodydd cynllunio diogelwch a chynadleddau grŵp teulu. Mae eiriolaeth yn elfen graidd o wasanaethau plant, ac mae amser ac adnoddau wedi'u buddsoddi i hyrwyddo'r cynnig rhagweithiol i sicrhau bod lleisiau plant yn cael eu clywed.
  • Dull Cydweithredol o Atal Sefyllfaoedd Rhag Gwaethygu:Mae'r awdurdod lleol yn hyrwyddo ymyrraeth gynnar i atal risgiau rhag gwaethygu, gydag ymagwedd gadarnhaol tuag at wella ymwybyddiaeth am risgiau fel camfanteisio. Mae ymyriadau fel Canolfan Adnoddau Pobl Ifanc (CAPI) a Thimau Cymorth i Deuluoedd yn cael eu gwerthfawrogi am eu rhaglenni therapiwtig a rhianta, gyda'r nod o leihau risgiau i blant.
  • Arferion Diwylliannol Sensitif a Hyfedredd y Gymraeg:Mae ymarferwyr yn dangos dealltwriaeth dda o anghenion diwylliannol plant a theuluoedd, gan ganolbwyntio ar arferion sy'n ddiwylliannol gywir. Mae'r awdurdod lleol wedi ymrwymo i gryfhau hyfedredd y Gymraeg ymhlith ei weithlu, gan ddarparu gwasanaethau mewn modd sy'n gynhwysol yn ddiwylliannol.

Addysg:

  • Diwylliant o ddiogelu mewn addysg:Mae ysgolion a'r Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) yn amgylcheddau diogel i ddisgyblion, gyda swyddogion diogelu dynodedig (SDD) yn chwarae rhan hanfodol wrth nodi a mynd i'r afael â phryderon diogelu. Mae'r defnydd o blatfform digidol ar gyfer cofnodi ac adrodd pryderon wedi gwella cyfathrebu ymhlith ysgolion, yr UCD, a darparwyr gwasanaethau.
  • Dull gweithredu ysgol gyfan o ymdrin â lles emosiynol a meddyliol:Mae ysgolion Caerdydd a'r UCD yn canolbwyntio ar iechyd emosiynol a meddyliol drwy fentrau fel Cynorthwywyr Cymorth Llythrennedd Emosiynol (CCLlE), THRIVE, a dosbarthiadau lles. Mae'r gwasanaeth cwnsela statudol yn yr ysgol yn cefnogi disgyblion sy'n agored i niwed ymhellach, ynghyd â meithrin egwyddorion sy'n datblygu sgiliau cymdeithasol ac yn magu hyder a hunan-barch.
  • Heriau mewn gwasanaethau cymorth cynnar:Er gwaethaf yr ymdrechion cadarnhaol, mae'r adroddiad yn nodi anghydbwysedd mewn atgyfeiriadau rhwng MASH (Canolfan Ddiogelu Amlasiantaeth) a gwasanaethau cymorth cynnar, gan nodi bod angen i ysgolion ddeall a defnyddio llwybrau ymyrraeth gynnar yn well.
  • Arloesedd mewn partneriaeth ac atal:Nodwyd cydweithio llwyddiannus rhwng addysg ac asiantaethau eraill, fel cyfarfodydd y Tîm o Amgylch yr Ysgol a'r Tîm o Amgylch y Clwstwr, am fynd i'r afael ag anghenion disgyblion sy'n agored i niwed. Mae'r dulliau hyn wedi rhoi cymorth gwerthfawr i ddisgyblion a theuluoedd mewn ymateb i aflonyddwch cymdeithasol a phryderon cymunedol eraill.

Dywedodd y Cynghorydd Ash Lister, Aelod Cabinet Caerdydd dros Wasanaethau Cymdeithasol Plant: "Mae diogelu plant a phobl ifanc yn ymdrech ar y cyd, ac mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd gwaith amlasiantaeth rhwng yr Awdurdod Lleol, ysgolion, yr heddlu a'r bwrdd iechyd.Mae'r adroddiadyn cydnabod yr heriau parhaus sy'n cael eu hwynebu ledled y DU a'r cynnydd yn y galw a chymhlethdod yr achosion. Fodd bynnag, mae arolygwyr wedi canfod bod gan Gyngor Caerdydd ffocws cadarnhaol ar ddiogelu a bodgan ein staff, rheolwyr ac arweinyddiaeth rheng flaen ddealltwriaeth dda o brofiadau plant a theuluoedd sydd angen help ac amddiffyniad.Mae ymarferwyr yn deall eu rolau, mae gwybodaeth yn cael ei rhannu'n effeithlon, ac mae lleisiau plant yn cael eu clywed.

"Mae ein staff yn gweithio'n ddiflino i gefnogi babanod, plant a'u teuluoedd sy'n derbyn ein gwasanaethau er gwaethaf yr heriau maen nhw'n eu hwynebu ar draws y sector, ac rydyn ni'n ddiolchgar iddyn nhw i gyd am bopeth maen nhw'n ei wneud.

"Fel y Ddinas sy'n Dda i Blant gyntaf yn y DU, mae Caerdydd yn parhau i sicrhau bod hawliau plant wrth wraidd ein penderfyniadau a'n polisïau ac rydymwedi ymrwymo i wrando ar blant a'u teuluoedd, tra'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid i wella cyfranogiad a mentrau amlasiantaethol i greu cymunedau lle mae pob plentyn yn ddiogel, yn cael ei werthfawrogi a lle mae plant yn cael eu clywed."

Ychwanegodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg:  "Mae'r adroddiad hwn yn tanlinellu ymrwymiad Caerdydd i gefnogi, diogelu a sicrhau gwelliant parhaus mewn addysg a gwasanaethau plant ac mae'n adlewyrchu'rgwaith sylweddol sydd wedi'i wneud i sefydlu diwylliant o ddiogelu ar draws yr Awdurdod Lleol, sy'n cael ei hyrwyddo fel cyfrifoldeb i bawb ar y cyd.

 

"Mae'r Cyngor yn parhau i ymrwymo isicrhau diogelwch a lles plant a phobl ifanc ledled y ddinas a thrwy ymdrechion cydweithredol a dulliau arloesol, byddwn yn ymdrechu i ddarparu mesurau diogelu effeithiol a gwasanaethau cymorth i ddiwallu anghenion amrywiol cymunedau ein dinas."

 

Fel gyda phob arolygiad, nodwyd nifer o feysydd lle gellid datblygu gwaith partneriaeth ymhellach. Lluniwyd cynllun gweithredu manwl a bydd yn cael ei fonitro drwy'r amrywiol fforymau partneriaeth gan gynnwys y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol a Bwrdd y Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaeth.