Back
Cwestiynau Cyffredin – Cynigion i warchod mannau gwyrdd gyda Fields In Trust

8.5.24

Cwestiynau Cyffredin - Cynigion i warchod mannau gwyrdd gyda Fields In Trust

 

Beth sy'n cael ei gynnig?

Mae'r Cyngor yn cynnig ymrwymo i gytundeb cyfreithiol a elwir yn 'weithred gyflwyno' gyda Fields In Trust - elusen annibynnol ledled y DU sy'n ymroddedig i warchod parciau a mannau gwyrdd.

Os caiff ei lofnodi, rhaid i'r Cyngor ddal y tir at ddibenion chwarae a hamdden awyr agored yn unig. Byddai angen caniatâd Fields In Trust ar unrhyw newidiadau y tu hwnt i'r dibenion hyn. Fel sefydliad elusennol sy'n ymroddedig i ddarparu a gwarchod parciau a mannau gwyrdd, bydd yn sicrhau nad oes tir gwarchodedig yn cael ei golli.

 

Pwy yw Fields In Trust?

Fields In Trustyw'r unig elusen yn y DU sy'n gweithio i sicrhau amddiffyniad cyfreithiol i bob parc a man gwyrdd. Eu Rhif Elusen yw 306070 (Cymru a Lloegr) a gallwch ddysgu mwy amdanyn nhw yn www.fieldsintrust.org

 

Pam na all y Cyngor eu hamddiffyn?

Mae'n gallu - ond nid am byth. Er nad oes gan weinyddiaeth bresennol y Cyngor unrhyw fwriad i ddatblygu unrhyw un o'r safleoedd hyn, nid oes modd gwarantu y byddai hynny'n wir o hyd pe bai gweinyddiaeth wahanol yn cael ei hethol, gyda blaenoriaethau gwahanol, mewn cyfnod gwahanol - ni all neb ragweld yn union beth fydd yn digwydd yn y dyfodol.

Ond rydym yn gwybod y bydd Fields In Trust bob amser yn ymroddedig i warchod parciau a mannau gwyrdd - dyna pam sefydlwyd yr elusen. Felly, trwy warchod y mannau gwyrdd hyn nawr, rydym yn sicrhau eu bod yn cael eu gwarchod yn barhaol.

 

A fyddai hyn yn atal pob datblygiad ar y safleoedd hyn?

Byddai datblygiadau sy'n annog defnydd o'r tir ar gyfer chwaraeon a hamdden awyr agored a'r rhai sy'n ategu'r defnydd hwnnw yn cael eu caniatáu. Byddai angen caniatâd Fields in Trust ar bopeth arall.

Yr unig eithriad i'r rheol honno fyddai datblygu o dan bwerau statudol - mae gan nifer cyfyngedig o sefydliadau, fel cwmnïau cyfleustodau a rhwydweithiau rheilffyrdd hawliau datblygu statudol sy'n drech na hawliau tirfeddianwyr.

Ar hyn o bryd ni all y Cyngor (nac unrhyw dirfeddiannwr preifat arall) atal datblygiadau o'r math hwn, ac ni allai Fields In Trust eu hatal yn y dyfodol, hyd yn oed pe baent yn gwrthwynebu. 

 

A fyddai hyn yn newid unrhyw beth i bobl sy'n defnyddio'r parc?

Na. Y gwrthwyneb mewn gwirionedd - bydd yn golygu y gellir mwynhau'r mannau gwyrdd rydych chi'n eu mwynhau ar hyn o bryd yn union fel y mae heddiw, am byth.


Pa barciau yng Nghaerdydd sydd eisoes wedi'u gwarchod gan Fields In Trust?

Mae deg man gwyrdd sy'n eiddo i'r cyngor eisoes wedi'u gwarchod rhag datblygiad am byth gan Fields In Trust. Dyma nhw:   Gerddi Alexandra, Gerddi'r Faenor, Parc y Mynydd Bychan, Man Agored Hywel Dda, Parc Llanisien, Parc y Morfa, Caeau Pontcanna, Caeau Pontprennau, Maes Hamdden y Rhath a Maes Hamdden Tredelerch.

Mae dau fan gwyrdd arall yng Nghaerdydd, a reolir gan Gynghorau Cymuned lleol, hefyd yn cael eu gwarchod yn y modd hwn. Sef Maes Hamdden Creigiau a Chae Chwarae Pentref Llaneirwg.
 

Pam dim ond yr un ar ddeg o barciau hyn? Pam nad ydych chi'n gwarchod holl barciau Caerdydd fel hyn?

Mae gwarchod yr 11 o barciau hyn yn barhad o'n dull mesuredig o warchod parciau'r ddinas. Mae'r broses hon eisoes wedi gweld 10 o barciau sy'n eiddo i'r cyngor yn cael eu gwarchod gan Fields In Trust a bydd y llwyth newydd hwn o barciau gwarchodedig yn mynd â'r nifer hwnnw i 21.

Dim ond un ddinas yn y DU sydd wedi penderfynu gwarchod ei holl barciau gyda Fields In Trust ar hyn o bryd. Fodd bynnag, hyd yn oed yn y lle hwn, nid yw pob parc wedi'i warchod yn gyfreithiol eto - mae'r broses gyfreithiol o ymrwymo i weithred gyflwyno gyda Fields In Trust yn cael ei rheoli fesul llwyth o barciau, yn debyg i'n dull gweithredu yng Nghaerdydd.
 

Sut mae'r parciau yn cael eu dewis? Pam nad ydych chi'n gwarchod fy man gwyrdd lleol?

Mae gan Fields In Trust nifer o feini prawf y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn gwarchod parciau. Mae'r rhain yn cynnwys: 

  • Y cyngor sydd â pherchenogaeth o'r man drwy fod â buddiant rhydd-ddaliad neu fuddiant lesddaliad o 99 mlynedd neu fwy.
  • Rhaid defnyddio'r mannau gwyrdd ar gyfer gweithgaredd corfforol anffurfiol a hamdden, neu chwaraeon ffurfiol.
  • Dylai'r man gwyrdd fod o leiaf 0.2 hectar.
  • Rhaid i'r man gwyrdd fod â rhyw fath o fynediad parhaol i'r cyhoedd.

Wrth nodi safleoedd i'w gwarchod edrychwyd hefyd ar:

  • ardaloedd o'r ddinas sydd â'r lefelau isaf o fannau gwyrdd, gan y byddai unrhyw golled o'r mannau hyn yn gwaethygu'r sefyllfa.
  • ardaloedd o'r ddinas lle mae lefelau uwch o dlodi.
  • ardaloedd o'r ddinas nad oes ganddynt safle sy'n eiddo i'r Cyngor wedi'i warchod gan Fields In Trust ar hyn o bryd.
  • Parciau a mannau gwyrdd sy'n cynnwys 'Mannau Agored Gweithredol' (man agored wedi'i gynllunio ar gyfer chwarae, chwaraeon a hamdden egnïol).

Nid yw fy mharc lleol ar y rhestr. A yw hynny'n golygu bod y Cyngor yn bwriadu ei ddatblygu?

Nac ydy. Mae'n golygu, yn seiliedig ar y meini prawf a restrir uchod, fod parciau a mannau gwyrdd eraill yn cael eu hystyried yn flaenoriaeth uwch i'w gwarchod.