The essential journalist news source
Back
25.
May
2018.
Ramadan Iftar - torri'r ympryd - dathliad cymunedol

Mae aelodau'r gymuned Foslemaidd wedi gwahodd pawb yng Nghaerdydd i ymuno â nhw mewn digwyddiad arbennig i ddathlu Ramadan Iftar, neu dorri'r ympryd. 

Cynhelir y digwyddiad y tu allan i Neuadd y Ddinas, ddydd Sul 27 Mai o 8.45pm ymlaen. Mae'n dilyn llwyddiant Iftar y llynedd, pan ddaeth dros 400 o bobl ynghyd i fwynhau detholiad blasus o fwyd gafodd ei baratoi gan y gymuned. 

Fel rhan o Fis Sanctaidd Ramadan, mae Moslemiaid yn ymprydio drwy'r dydd ac yn ei dorri gyda Ramadan Iftar wrth i'r haul fachlud. Mae'n arferol i wahodd cymdogion i rannu'r dathliadau. 

Yn ogystal â gwahodd pawb yn y ddinas, mae'r trefnwyr yn awyddus iawn fod y digwyddiad cymunedol yn helpu rhai o bobl fwyaf agored i niwed Caerdydd, gan gynnwys y rhai hynny sy'n ddigartref ar y stryd. Mae gwahoddiad arbennig hefyd i ffoaduriaid yn y ddinas, fel ffordd o'u croesawu i Gaerdydd.