The essential journalist news source
Back
15.
May
2018.
Adeiladu cymunedau gwydn gyda chynlluniau ar gyfer Hybiau Lles Cymunedol


Mae cynlluniau i ddatblygu rhaglen hybiau llwyddiannus y Cyngor i ganolbwyntio ar lesiant, ymgysylltu cymunedol a gwasanaethau byw'n annibynnol wedi'u datgelu.

 

Mae'r Cyngor wedi amlinellu cynigion i adeiladu ar yr effaith gadarnhaol y mae'r 11 hyb cymunedol a hyb canol y ddinas wedi'i chael yn y ddinas trwy greu Hybiau Lles Cymunedol yng ngogledd a gorllewin Caerdydd.

 

Mae hybiau cyfredol wedi'u  sefydlu mewn ardaloedd lle bod mwy o amddifad a lle mae'r angen mwyaf ar bobl am wasanaethau. Ond gyda phoblogaeth hŷn sy'n cynyddu, ac effaith gynyddol ynysu ar lesiant pobl, mae'r Cyngor yn canolbwyntio ar ymestyn y rhaglen hybiau i ardaloedd eraill i ddarparu ystod o wasanaethau a chymorth ar sail anghenion ardal.

C:\Users\c080012\Desktop\Picture1.jpg

 

 

Bydd Hybiau Lles Cymunedol yn cynnig amrywiaeth eang o gyngor byw'r annibynnol ac yn cynnwys y gymuned, yn enwedig pobl hŷn, mewn digwyddiadau a gweithgareddau yn ogystal â darparu gwasanaeth gwell ac ymgysylltu cymunedol gwell trwy weithio gyda sefydliadau partner, grwpiau lleol a gwirfoddolwyr.

 

Bydd llyfrgelloedd cangen yn y ddinas yn rhan o strwythur yr hybiau ac yn dilyn adolygu pob ardal i asesu blaenoriaethau, caiff cyfleusterau eu datblygu i gynnig amrywiaeth eang o wasanaethau ar sail angen lleol.

 

I wella ymgysylltu cymunedol ac i gynnwys y gymuned, mae'r Cyngor yn cynnig creu pedwar swyddog cynhwysiant newydd i roi cymorth ymarferol i grwpiau lleol gan gynnwys cyd-lynu cyfleoedd ymgysylltu, adeiladu gwybodaeth leol a rhwydweithiau, a chysylltu â gwasanaethau eraill yn y gymuned.

 

C:\Users\c080012\Desktop\Picture2.png

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cyng. Lynda Thorne,"Rwy'n hynod falch o'r rhaglen hybiau cymunedol sydd wedi bod mor llwyddiannus mewn ardaloedd yn y ddinas lle mae'r angen mwyaf.Maent yn ganolbwynt go iawn ar gyfer eu cymunedol ac wedi'i gwneud yn llawer haws i gwsmeriaid ymgysylltu â'r Cyngor ac i'r gwrthwyneb.

 

"Fodd bynnag, gyda mwy a mwy o bobl yn byw yn hirach yn y ddinas a chan fod unigrwydd ac allgau cymdeithasol yn broblem fawr iawn i lawer o bobl, mae gwneud synnwyr defnyddio'r egwyddorion o'n rhaglen hybiau llwyddiannus lle rydym wedi darparu gwasanaethau gwell yn ogystal ag arbed arian, a datblygu cyfleusterau lles newydd sy'n darparu gwasanaethau sy'n ymateb i anghenion eu cwsmeriaid.

 

"Dyma gynnig cyffrous iawn a fydd yn ein helpu i wneud y mwyaf ar botensial ein hadeiladau, lleihau effaith diwedd y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf a darparu gwasanaethau gwell ac estynedig ar gyfer pobl sy'n byw yng ngogledd a gorllewin y ddinas."

 

Mae'r cynigion hefyd yn cynnwys cynllunio i ddatblygu ymhellach Hyb y Llyfrgell Ganolog, gan ddod â darpariaeth llyfrgell a chyngor ynghyd i arbed arian a chael agwedd fwy ar y cyd at ddarparu gwasanaethau. Mae'r rhain yn cynnwys rhoi gwasanaeth cwrdd a chyfarch gwell ar waith ar y llawr gwaelod gyda staff ag amrywiaeth o sgiliau i sicrhau profiad gwell i gwsmeriaid a chynyddu adnoddau mewn meysydd allweddol megis cynhwysiant digidol.

 

Gyda chanolbwynt ar hybiau a gwasanaethau integredig, bydd y Cyngor hefyd yn sicrhau bod y ddinas yn parhau i fod â darpariaeth llyfrgell graidd a chryf trwy greu tîm Datblygu a Strategaeth llyfrgell newydd i ddatblygu a gwella gwasanaethau.

 

Ystyrir y cynigion gan y Cabinet yn y cyfarfod nesaf a gynhelir ddydd Iau 17 Mai.