The essential journalist news source
Back
14.
May
2018.
Y Strategaeth Ailgylchu a Gwastraff yn mynd gerbron y Pwyllgor Craffu

 

Bydd aelodau'r Pwyllgor Craffu Amgylcheddol yn adolygu strategaeth ddiwygiedig gyda'r nod o gynyddu cyfraddau ailgylchu Caerdydd fory.

Mae ‘Strategaeth Rheoli Ailgylchu a Gwastraff 2018 - 2021' yn cynnig cynyddu nifer y biniau olwyn, cynllun peilot ar gyfer casgliadau gwydr domestig ar wahân a newidiadau gorsaf addysg yng Nghanolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol, y Cynghorydd Ramesh Patel:  "Fis diwethaf cafodd fy Mhwyllgor gyflwyniad ar yr egwyddorion sylfaenol y tu ôl i'r strategaeth hon ond rydyn ni nawr yn edrych ymlaen at gynnal y broses graffu cyn y penderfyniad ar y strategaeth ddrafft.   Rydyn ni i gyd yn gwerthfawrogi pa mor bwysig yw ailgylchu a'r angen i ddiwallu rhwymedigaethau statudol.  Mae gan Gaerdydd draddodiad balch iawn o ran cyfraddau ailgylchu da a gobeithir y bydd y strategaeth newydd hon yn galluogi cynnydd pellach o ran hyn."

Bydd yr Aelodau Pwyllgor hefyd yn cael y diweddaraf ar y cynllun Grangetown Werddach parhaus. Rhaglen gwella draeniad cynaliadwy a redir mewn partneriaeth â Dŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Mae'r Pwyllgor Craffu Amgylcheddol yn dechrau am 4.30pm ddydd Mawrth 15 Mai ac yn cael ei ddarlledu'n fyw ar y we yma:  https://cardiff.public-i.tv/core/portal/webcast_interactive/351197