The essential journalist news source
Back
11.
May
2018.
Caerdydd yn estyn croeso i’r darlledwr!


Mae Caerdydd yn gyrru neges glir at Channel 4 yn ei ymgais i ddenu pencadlys newydd y darlledwr yn y DU yma, gan ddweud wrth y penaethiaid a'r staff - "We're ALL 4 you".

 

Mae Channel 4 yn bwriadu cynyddu ei bresenoldeb yn y cenhedloedd a'r rhanbarthau drwy sefydlu pencadlys newydd ar gyfer y DU ynghyd â dau hyb creadigol y tu allan i Lundain ac fe lansiodd nifer o ddinasoedd eu cynigion swyddogol heddiw, Dydd Gwener 11 Mai.

 

Mae cynnig Caerdydd - Caerdydd i Bawb - yn tynnu sylw at:

  • Sector creadigol a'r cwmnïau cynhyrchu annibynnol sy'n ffynnu yng Nghaerdydd;
  • Record y ddinas o ran cynhyrchu teledu a'r cyfryngau;
  • Mynediad at weithlu talentog, uchel eu sgil gydag un o boblogaethau dinesig gyda'r ieuengaf a mwyaf amrywiol yn y DU;
  • Canol dinas sy'n cael ei ail-ddylunio gyda hyb cyfryngau a chreadigol newydd ynghyd â chyfnewidfa drafnidiaeth, a;
  • Amser teithio byr o Lundain - a fydd yn lleihau ymhellach eto y flwyddyn nesaf pan gaiff y gwaith i drydaneiddio'r rheilffordd ei gwblhau.

 

C:\Users\c080012\Desktop\bigstock-Cardiff-Bay-Cityscape-67078396 (2)DOC.jpg

 

 

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd a Chadeirydd cynnig Caerdydd, y Cyng Huw Thomas:"Mae Caerdydd yn ddinas o newid; mae'n tyfu'n gyflym, yn aml-ddiwylliannol, yn ifanc - cartref perffaith ar gyfer llais darlledu amgen y DU.

 

"Mae hon yn ddinas heb ei thebyg yn unman.Rydym yn gosod diwylliant, creadigrwydd a blaengaredd wrth galon datblygiad Caerdydd.Dros y ddau ddegawd diwethaf rydym wedi bod yn ddyfeisgar wrth ddefnyddio diwylliant a chwaraeon i drawsnewid y ddinas, gan sefydlu Prifddinas Cymru fel un o bwerdai creadigol y DU.Mae'n agwedd sydd wedi ein gweld yn cynnal Ffeinal Cynghrair y Pencampwyr UEFA, dod yn Ddinas Gerdd gyntaf y DU a datblygu un o'r sectorau creadigol mwyaf y tu allan i Lundain.

 

"Dyna pam fod creadigrwydd yn parhau i fod yn ganolog i agenda adfywio Caerdydd, gyda chanol y ddinas yn cael ei ddylunio o gylch anghenion y sector.Dewch draw i'n gweld ac fe fyddwch yn gweld sut rydym yn dwyn ynghyd eiddo a ddyluniwyd yn bwrpasol i gefnogi'r sector creadigol, oll wedi ei greu o amgylch hyb trafnidiaeth integredig, yn eich cysylltu â thalent yma ac ar draws y DU.

 

"Mae Pencadlys newydd BBC Cymru, sydd yn sefyll yng nghanol y datblygiad hwn, yn mynd i agor yn fuan a bydd yn cynnwys y dechnoleg ddarlledu sydd gyda'r fwyaf diweddar sydd ar gael.Fel rhan o'n cynnig byddai BBC Cymru yn croesawu'r cyfle i archwilio'r posibilrwydd gyda Channel 4 o gyd-leoli yn eu canolfan newydd er mwyn creu hyb darlledu a chomisiynu hyfyw yng nghanol y ddinas."

 

Ymdrech tîm yw cynnig Caerdydd sydd yn dwyn ynghyd y sector greadigol Caerdydd gyda chefnogaeth lawn gan Lywodraeth Cymru a'r Ddinas Ranbarth.

 

Ychwanegodd y Cyng Thomas:"Nid yn unig yr ydym yn gartref i ddarlledwyr mwyaf y genedl; mae gan Gaerdydd hefyd sîn annibynnol gref, a chyda dros 70,000 o fyfyrwyr prifysgol a dros draean o breswylwyr y ddinas o dan 24, mae potensial creadigol y ddinas yn anferth.Mae hon yn ddinas sydd hefyd wedi ymrwymo i dwf cynhwysol.Fel Channel 4, rydym am greu cyfleoedd ar gyfer pawb, boed hynny ar gyfer cymunedau anodd eu cyrraedd yng Nghaerdydd neu yn y cymoedd ehangach yn Ne Cymru.

 

"Mae'r llwyfan wedi ei osod, un lle gallwch wireddu eich gweledigaeth i fod hyd yn oed yn fwy arloesol, uchelgeisiol ac amrywiol tra'n herio'r drefn sydd ohoni.Felly mae ein cynnig ni yn fwy na chynnig adleoli.Mae'n gynnig ar gyfer partneriaeth a fydd yn para gyda dinas y mae ei huchelgais creadigol a'i gwerthoedd yn cyfateb i rai Channel 4. Cynnig i osod eich sefydliad chi wrth galon y clwstwr mwyaf o gwmnïau cynhyrchu annibynnol y tu allan i Lundain, gan ymestyn o Abertawe i Swindon".

 

Yn ychwanegu ei chefnogaeth i gais Caerdydd, dywedodd sefydlydd Bad Wold, Julie Gardner, y mae ei chwmni'n creu rhaglenni teledu i farchnad y DU, UDA a byd-eang, "Mae gan Gaerdydd griw gwych, pobl wych a chyfleusterau gwych. O holl lefydd y byd - Caerdydd yw lle'r i fod", ac ychwanegoddRheolwr Gyfarwyddwr Boom Cymru, Nia Thomas:"Fel un o gyfranogwyr balch sîn greadigol hirsefydlog Caerdydd, mae'n bleser cefnogi cais prifddinas Cymru i fod yn un o hybiau creadigol newydd Channel 4. Mae Caerdydd yn ddinas sy'n llawn talent greadigol, dealltwriaeth eang o gynhyrchu a chyfleusterau o safon. Gyda'i gilydd dyma'r lle perffaith i helpu i wireddu strategaeth y Cenhedloedd a'r Rhanbarthau."

 

Bydd Caerdydd yn dod i wybod os yw'r cynnig wedi symud yn ei flaen at gam nesaf y broses ar ddiwedd y mis hwn.Bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud fis Hydref.