The essential journalist news source
Back
11.
May
2018.
Ariannu Parciau


Bydd y Cabinet yn ystyried ffyrdd newydd o redeg parciau Caerdydd yn ddiweddarach yn y mis yn dilyn ymchwiliad craffu manwl.

Bydd gan Aelodau'r cyfle i glywed argymhellion o ymchwiliad ynglŷn â sut mae modd parhau i wella a chynnig ein Parciau a Mannau Gwyrdd, mewn cyfnod pan mae'r Cyngor yn wynebu arbedion o £91 miliwn dros y tair blynedd nesaf. 

Dyma rai o brif ganfyddiadau'r adroddiad:

-         Mae parciau'n galluogi preswylwyr ac ymwelwyr i gysylltu â natur sy'n bwysig i iechyd meddwl a llesiant; mae hyn hyd yn oed yn bwysicach mewn amgylchoedd trefol lle mae'r cysylltiad â natur yn isel fel arfer.

-         Mae nifer o Barciau a Mannau Gwyrdd Caerdydd yn cynnwys rhywogaethau bywyd gwyllt a amddiffynnir.

-         Gwnaeth arolwg diweddar gan Gymdeithas Ddinesig Caerdydd nodi bod ymatebwyr yn sgorio parciau fel yr elfen bwysicaf sy'n effeithio ar eu safon bywyd.

-         Gwnaeth arolwg Holi Caerdydd 2017 ganfod mai parciau a mannau gwyrdd yng Nghaerdydd gafodd y lefelau boddhad uchaf.

-         Mae'r Gwasanaethau Parciau wedi lleihau costau gan 24% dros y pedair blynedd diwethaf ac wedi cynyddu incwm gan 18.6%.

-         Mae gweithio partneriaeth rhwng staff ymroddgar y Gwasanaeth Parciau, Grwpiau Cyfeillion, sefydliadau bywyd gwyllt a defnyddwyr caeau chwaraeon yn hanfodol o ran gwella diogelwch yr arian i'r dyfodol i Barciau a Mannau Gwyrdd yng Nghaerdydd.

Ymhlith y cynlluniau creu incwm oedd yn llwyddiannus iawn mae digwyddiadau a gynhelir ym Mharc Bute, planhigfa'r Cyngor sydd wedi cynyddu gwerthiannau planhigion yn gyffredinol ac sydd wedi ennill contractau i greu arddangosfeydd blodau, mwy o ymwelwyr i dŷ gwydr Parc y Rhath, ac incwm sydd wedi'i greu gan y timau cynnal a chadw'r tiroedd a choedyddiaeth.

Ymhlith argymhellion pellach y pwyllgor mae:

-         Cytuno ar ddatganiad cenhadaeth eglur fydd yn pennu graddfa a sgôp y gwaith creu incwm sydd ei angen a lleihau'r costau.

-         Ymchwilio i'r syniad o roi'r cyfrifoldeb dros gynnal a chadw tiroedd ar ddefnyddwyr y caeau chwarae mewn model megis Trosglwyddo Asedau Cymunedol.

-         Ystyried cynnig safleoedd llai ar gyfer digwyddiadau ledled y ddinas.

-         Ni ddylid gwneud unrhyw doriadau pellach i'r gyllideb cynnal parciau gan fod y gwasanaethau hyn yn hanfodol i sicrhau bod parciau'n ddiogel, yn saff, yn cael eu rheoli'n dda ac i sicrhau safon uchel.Dylid ystyried cynyddu'r gyllideb ar gyfer y tîm Ceidwaid Parciau.

Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Craffu'r Economi a Diwylliant, y Cynghorydd Nigel Howells:"Rydym yn lwcus iawn bod gan Gaerdydd gymaint o barciau a mannau gwyrdd prydferth, ac rydym i gyd yn gwerthfawrogi eu manteision corfforol ac iechyd.Ond, mae'n rhaid i Gyngor Caerdydd wneud arbedion o £91 miliwn dros y tair blynedd nesaf, felly rhaid gofyn sut y gallwn barhau i ddarparu cyfleusterau gwych heb iselhau safonau.Mae Grŵp Gorchwyl fy mhwyllgor wedi cael adborth gan Green Spaces Wales, Grwpiau Cyfeillion y Parciau a sefydliadau bywyd gwyllt yn ystod yr ymchwiliad, a chredwn y bydd ein hargymhellion yn gwneud cyllid yn fwy sicr yn y dyfodol.Gyda'r arbedion cyffredinol y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu gwneud, mae'n amlwg y bydd rhaid i wasanaethau anstatudol megis Parciau weithio'n galed i ddod o hyd i ffynonellau incwm ac arbedion effeithlonrwydd.Mae gweithio partneriaeth yn hanfodol i sicrhau ein bod yn cadw'n Parciau a Mannau Gwyrdd drwy greu incwm a lleihau costau mewn ffyrdd nad ydynt yn arwain at ostwng safonau nac yn effeithio ar brofiad defnyddwyr Parciau."

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden:"Rwy'n croesawu adroddiad y Pwyllgor Craffu hwn ar gyllid parciau ac rwy'n ddiolchgar i'r tîm craffu am y gwaith sydd wedi mynd rhagddo.Mae nifer o syniadau da wedi'u trafod ac edrychaf ymlaen at drafod prif ganfyddiadau gyda'm cydweithwyr yn y cabinet cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ar yr argymhellion hynny.Rydyn ni i gyd yn gwerthfawrogi hyfrydwch naturiol parciau a mannau gwyrdd Caerdydd, ac mae'n bwysig ein bod yn cydweithio i ddiogelu ac ariannu'r asedau cyhoeddus pwysig hyn."      

 

Bydd yr adroddiad yn mynd gerbron Cabinet Cyngor Caerdydd ddydd Iau 17 Mai.