The essential journalist news source
Back
11.
May
2018.
Cyhoeddi Prifysgol Caerdydd fel Partner Swyddogol ar gyfer Ras Fôr Volvo

Ymhen ychydig dros bythefnos, bydd Caerdydd yn cynnal Ras Fôr Volvo, sef prif gyfres hwylio'r byd a chafodd Prifysgol Caerdydd ei chyhoeddi fel partner arweiniol pan fydd y digwyddiad chwaraeon rhyngwladol yn ymweld â Chymru am y tro cyntaf.

Bydd y fflyd, y disgwylir iddi gyrraedd ddydd Llun 28 Mai yn dilyn mordaith o 2,900 o filltiroedd môr o America ar draws yr Iwerydd, yn aros ym Mae Caerdydd am bythefnos cyn symud yn ei blaen i Gothenburg a'r Hâg ar gyfer cymalau olaf y ras.

Yn ystod y cyfnod hwn fe fydd Bae Caerdydd a Phentir Alexandra, sydd newydd ei ddatblygu, yn cael eu trawsnewid yn bentref ras trawiadol, fydd yn gartref i ŵyl am ddim o gerddoriaeth fyw ac adloniant, campau dŵr, atyniadau yn ymwneud â ras Fôr Volvo a stondinau bwyd a diod.

Yn rhannu neges gryf am foroedd glân ar ei daith 45,000 milltir ar hyd y moroedd mawr, mae ymgyrch y Ras yn nodi'r wyth miliwn tunnell o blastig sy'n llifo i foroedd y byd bob blwyddyn.

Bydd y digwyddiad sy'n canolbwyntio ar yr amgylchedd yn cynnal llu o sesiynau addysgol yn ystod y rhaglen digwyddiadau sy'n parhau am bythefnos a bydd Prifysgol Cymru yn bresenoldeb amlwg gydag academyddion yn siarad am bynciau oOcean in motion: currents, conveyors and climate changei ficro-blastigau.

Bydd ymwelwyr â'r digwyddiad yn gallu clywed staff Prifysgol Caerdydd yn llythrennol yn gweiddi am y gwaith gwych y maent yn ei wneud yn ystod Sesiynau Bocs Sebon sy'n cael eu cynnal yn y digwyddiad.Gan fod y brifysgol yn gartref i ymchwil sy'n newid y byd, bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle perffaith i ymwelwyr glywed amdano'n uniongyrchol.

Fel porthladd croeso, mae Caerdydd yn ystyried llunio ei hastudiaeth gynaliadwyedd ei hun, yn yr un modd â phorthladdoedd rhyngwladol eraill fel Hong Kong ac Auckland.Bydd pentref y ras yn cynnwys y Lolfa Eco, sef arddangosfa o ddodrefn creadigol o safon uchel a wnaed o wastraff y daethpwyd o hyd iddo yn nyfroedd Bae Caerdydd.Yma bydd y Brifysgol yn lansio ei StrategaethCynaliadwyedd a bydd yn datgelu ei hymrwymiad i ddyfodol cynaliadwy.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Peter Bradbury:"Mae Prifysgol Caerdydd yn sefydliad sydd wedi'i wreiddio'n gadarn yng nghynnwys ein dinas ac rwyf wrth fy modd y bydd ganddi bresenoldeb annatod pan fydd Caerdydd yn ddinas groeso i Ras Fôr Volvo yn ddiweddarach y mis hwn.

"Gan fod ethos y digwyddiad yn ymwneud â chynaliadwyedd ac addysg lles morol, mae'n addas bod gan y Brifysgol le ar y rhaglen addysgol, yn cynnig ei gwybodaeth a'i hymchwil.

"Mae partneriaethau fel hyn yn hanfodol fel y gall Caerdydd barhau i groesawu a darparu digwyddiadau chwaraeon byd eang sy'n rhoi hwb economaidd sylweddol i economi Caerdydd a Chymru. 

Wrth i'r digwyddiad ddirwyn yn nes, edrychwn ymlaen at groesawu Ras Fôr Volvo i Gaerdydd ac i'r miloedd o ymwelwyr  newydd â Chymru, sydd ar fin profi prifddinas fywiog a chenedl ag iddi dreftadaeth amrywiol a chyfoethog." 

"Mae'r byd bellach yn effro i broblem ddifrifol llygredd plastigau yn ein cefnforoedd," meddai'r Athro Colin Riordan, Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd."Rydym yn falch bod y mater hwn yn cael ei amlygu ar y lefel uchaf yn Ras Fôr Volvo.Mae'n fater rydym yn ei ystyried yn ddifrifol iawn yma ym Mhrifysgol Caerdydd, ac rydym wedi bod yn ymchwilio, yn nodi atebion ac yn rhoi newidiadau ar waith a fydd yn helpu i leihau'r broblem hon.Felly rydym wrth ein bodd bod y cyfle wedi codi, nid yn unig i Ddinas Caerdydd gynnal y digwyddiad gwych hwn, ond i'r Brifysgol ddangos ei chefnogaeth mewn nifer o ffyrdd er mwyn sicrhau ei fod mor llwyddiannus â phosibl."

Bydd Pentref y Ras yng Nghaerdydd yn cynnal Uwchgynhadledd Gefnforol arbennig ar Ddiwrnod Amgylchedd y Byd - 5 Mehefin, gydag ymyriad cryf gan Sky Ocean Rescue sy'n gyrru'r agenda di-blastig.

I gael rhagor o wybodaeth am Ras Fôr Volvo ewch i https://www.cymraeg.volvooceanracecardiff.com/

I gael rhagor o wybodaeth am Brifysgol Caerdydd ewch i www.caerdydd.ac.uk