The essential journalist news source
Back
25.
April
2018.
Llwyddiant ysgubol i Ysgol y Wern mewn adroddiad arolwg ‘rhagorol'

Mae Ysgol y Wern yn Llanisien, Caerdydd, wedi cael adroddiad llawn canmoliaeth gan Estyn ar ôl i arolygiaeth addysg Cymru ddod i'r casgliad bod yr ysgol yn 'rhagorol' ym mhob maes. 

Mae Estyn yn dyfarnu ar y pum maes canlynol: safonau, lles ac agweddau at weithio; profiadau addysgu a dysgu; gofal, cymorth a chanllawiau; ac arweiniad a rheoli. Barnodd ei harolygwyr fod Ysgol y Wern yn ‘rhagorol' ym mhob un o'r pum maes hyn - y canlyniad gorau posibl. 

Dywedodd y Pennaeth, Mrs Moira Kellaway: "Mae'n bleser gennym fod gwaith caled disgyblon, staff, rhieni, llywodraethwyr a'r gymuned ehangach wedi cael cydnabyddiaeth yn adroddiad yr arolygiaeth ar Ysgol y Wern. Byddwn ni'n parhau i anelu at ragoriaeth ym mhopeth rydym ni'n ei wneud er mwyn sicrhau ein bod bob amser yn gwneud ein gorau dros ein disgyblion." 

Daeth arolygwyr i'r casgliad for ‘yr ysgol yn gymuned hapus, actif a chynhwysol' a bod 'cyfeiriad strategol cryf iawn' wedi'i osod, gyda gweledigaeth glir 'yn seiliedig ar ddarparu profiadau pellgyrhaeddol o safon uchel iawn ar gyfer pob disgybl sy'n eu galluogi i gyflawni hyd eithaf eu gallu'. 

Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd gan Estyn y mis hwn hefyd yn dweud bod ‘disgyblion yn defnyddio pob agwedd ar eu sgiliau llythrennedd, rhifedd a sgiliau TGCh yn fedrus iawn ym mhob rhan o'r cwricwlwm.' 

Mae hefyd yn cyfeirio'n benodol at ‘agwedd hyfryd y disgyblion' a hwythau'n ‘cyfarch ei gilydd, staff ac ymwelwyr mewn modd cyfeillgar, naturiol a charedig.'Roedd yr arolygwyr o'r farn bod hyn yn adlewyrchu gwerthoedd yr ysgol a'i fod yn 'gwneud cyfraniad sylweddol at yr ethos gofalgar a chartrefol.' 

Mae cyfraddau presenoldeb yr ysgol yn uchel yn gyson, ac maen nhw'n cyrraedd y 25 y cant uchaf ymhlith ysgolion tebyg ledled Cymru. Mae hyn yn 'nodwedd eithriadol' yn nhyb yr arolygwyr sy'n 'adlewyrchu'r ffaith bod disgyblion yn hoffi mynd i'r ysgol.' 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry:"Llongyfarchiadau i Mrs Kellaway, pob un o'r staff, plant a phawb sy'n rhan o Ysgol y Wern. Mae canfyddiadau Estyn yn gydnabyddiaeth haeddiannol o'r ymdrech sydd wedi'i wneud i sicrhau safon ragorol o addysg yn yr ysgol. 

"Drwy ein Huchelgais Prifddinas, rydym ni am wneud yn siŵr bod pob plentyn yng Nghaerdydd yn mynd i ysgol dda neu ragorol. Mae gwaith Ysgol y Wern yn hysbyseb wych i ysgolion y ddinas, ac yn arwydd clir arall o'r cynnydd rydym wedi ei weld mewn safonau yng Nghaerdydd yn y blynyddoedd diwethaf." 

Ar brofiadau addysgu a dysgu, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at 'y berthynas waith eithriadol o effeithiol rhwng disgyblion a staff.'Dywedir mai ‘nodwedd eithriadol' yw darpariaeth blynyddoedd cynnar y Cyfnod Sylfaen, sy'n galluogi disgyblion i ddefnyddio eu sgiliau allweddol. 

Mae modd gweld a lawrlwytho copi llawn o adroddiad arolwg Estyn ar-lein ynwww.estyn.llyw.cymru.