The essential journalist news source
Back
24.
April
2018.
Agor y drws i ddysgu am hanes Caerdydd

Agor y drws i ddysgu am hanes Caerdydd

 

Bydd diwrnod agored arbennig, i hyrwyddo'r cyfoeth o wybodaeth ac adnoddau sydd ar gael ar hanes Caerdydd, yn cael ei gynnal yn Llyfrgell Cangen a Threftadaeth Cathays fis nesaf.

 

Ddydd Gwener, Mai 11 (11am - 3pm), croesewir unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am y cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd ar gael yn y llyfrgell gofrestredig Gradd II ar Fairoak Road.

 

Mae'r llyfrgell, lle y lleolir casgliad Astudiaethau Lleol y ddinas ers mis Ebrill y llynedd, yn cynnig mynediad at lenyddiaeth leol, mapiau hanesyddol, hen ffotograffau a phapurau newydd yn ogystal â gweithgareddau treftadaeth arbenigol ochr yn ochr  â chyfleusterau'r llyfrgell.

 

Bydd y digwyddiad am ddim yn cynnwys gweithdai, gweithgareddau ‘hanes ymarferol' a chyfleoedd i bobl archwilio'r adnoddau treftadaeth yn y llyfrgell.

 

Bydd ysgolion lleol yn cymryd rhan mewn gweithgareddau crefft a helfa drysor tra bydd cydlynyddDechrau Da Llyfrgelloedd Caerdydd,Margaret Holt, yn arwain sesiwnamser odli glasurol a bydd cyn dditectif yr heddlu a'r awdur, John Wake, yn rhoi cipolwg ar droseddu yng Nghaerdydd yn yr oes a fu.

 

Bydd gwybodaeth hefyd ar gael gan Gyfeillion Mynwent Cathays, Hanes Teuluol Morgannwg ac Archifau Morgannwg, Amgueddfa Stori Caerdydd, Prifysgol Caerdydd a llawer mwy.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cyng. Lynda Thorne, "Mae Llyfrgell Cangen a Threftadaeth Cathays yn gartref addas iawn ar gyfer casgliad Astudiaethau Lleol y ddinas. Mae'n hen adeilad anhygoel sy'n cynnig mynediad llawer gwell i'r cyhoedd na lleoliad blaenorol y casgliad, ynghyd â thechnoleg newydd wych a all helpu i ddod â gorffennol Caerdydd yn fyw.

 

"Nod y Diwrnod Agored yw arddangos y gwasanaethau hyn i'r cyhoedd ac annog mwy o bobl i ddefnyddio'r ased hwn yn y gymuned. Gyda chymaint o adnoddau a staff gwybodus, mae hi'n werth ymweld â'r llyfrgell os ydych yn rhywun sydd â diddordeb mewn olrhain hanes eu teulu neu ddysgu mwy am Gaerdydd o'r dyddiau a fu.

 

"Er bod y llyfrgell ar gau bob dydd Gwener fel arfer, ar 11 Mai, bydd y drysau ar gael ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr i'w diwrnod agored arbennig."