The essential journalist news source
Back
20.
April
2018.
Gŵyl Straeon Ditectif a Choffi

Gŵyl Straeon Ditectif a Choffi

Mae gŵyl lenyddol newydd, a fydd yn siŵr o gyffroi ffans straeon ditectif a nofelau cyffrous, ar ei ffordd i Gaerdydd.

Bydd Hyb Llyfrgell Ganolog Caerdydd, mewn partneriaeth ag ysgrifenwyr straeon ditectif Cymru, Crime Cymru, yn cynnal Gŵyl Straeon Ditectif a Choffi ddau ddiwrnod o hyd ddydd Gwener 1 Mehefin a dydd Sadwrn 2 Mehefin, y bydd awduron penigamp a rhai o'r awduron gorau yn y dosbarth yn mynd iddi.

Yn cael sylw blaenllaw yn y digwyddiad mae'r awduron Belinda Bauer a Christopher Fowler a fydd yng nghwmni Rebecca Tope, Kate Hamer, Mark Ellis, Katherine Stansfield a llawer mwy.Bydd yr ŵyl yn rhoi cyfle i ffans y genre gwrdd â'r awduron, eu clywed yn darllen eu gwaith eu hunain yn ogystal â mynd i sesiynau cwrdd â'r golygydd a gweithdai llenyddol.

 

C:\Users\c080012\Desktop\images 16\centrallib.jpg

Mae tocynnau ar gyfer yr ŵyl bellach ar werth ynwww.ticketsource.co.uk/cdfcrimefest. Dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael ym mhob digwyddiad felly archebwch o flaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Meddai'r Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cyng. Lynda Thorne,"Mae llyfrgelloedd Caerdydd bob amser yn chwilio am ffyrdd o ddenu cynulleidfaoedd newydd i'r cyfleusterau ac mae Gŵyl Straeon Ditectif a Choffi yn adeiladu ar lwyddiant ein grŵp darllen a choffi rheolaidd yn ogystal â Gofod Agored, y digwyddiad misol sy'n rhoi sylw i awduron yn Hyb y Llyfrgell Ganolog.

"Mae ffuglen trosedd yn genre poblogaidd iawn ac mae 1 llyfr o bob 5 sy'n cael ei fenthyca gan gwsmeriaid llyfrgelloedd Caerdydd yn llyfr ffuglen trosedd. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu rhai o'r awduron gorau yn y maes i Gaerdydd ar gyfer y digwyddiad cyffrous iawn hwn ac annog ffans straeon ditectif a nofelau cyffrous yn y ddinas i ddod draw."

 

Darperir coffi yn yr ŵyl gan Big Moose Coffee Co, y siop goffi yng nghanol y ddinas y defnyddir ei helw i helpu'r digartref a phobl eraill sydd dan anfantais i fynd yn ôl i'r gwaith a chymryd rhan yn y gymdeithas. 

Cefnogir yr Ŵyl Straeon Ditectif a Choffi hefyd gan WFHowes, Caffi Llyfrau Octav, Honno a Llenyddiaeth Cymru.

Am fwy o wybodaeth ar ddigwyddiadau unigol a thocynnau ewch iwww.ticketsource.co.uk/cdfcrimefest. Mae prisoedd tocynnau'n dechrau ar £3.