The essential journalist news source
Back
19.
April
2018.
Cynnig i greu Rhwydwaith Gwresogi Ardal yng Nghaerdydd

 

Cafodd cynllun £26.5m a allai wresogi adeiladau cyhoeddus a masnachol ledled Caerdydd gan ddefnyddio ynni sy'n cael ei gynhyrchu drwy losgi gwastraff na ellir ei ailgylchu ei drafod yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Caerdydd heddiw.

Ni fyddai angen i'r adeiladau sy'n cysylltu â'r rhwydwaith ddefnyddio nwy i wresogi eu heiddo mwyach, gan ostwng biliau tanwydd ac allyriadau carbon y ddinas.

Mae'r Cabinet wedi edrych ar y cynigion i ddatblygu rhwydwaith gwresogi ardal yn rhannau o Fae Caerdydd a Chanol y Ddinas gan ddefnyddio ynni gan Gyfleuster Adfer Ynni Parc Trident yn ei gyfarfod nesaf ar [date].Mae gan Gyfleuster Adfer Ynni Parc Trident gontractau ar hyn o bryd i losgi gwastraff na ellir ei ailgylchu gan naw awdurdod lleol yn Ne-ddwyrain Cymru, gan gynnwys Caerdydd.

Datblygwyd Achos Busnes Amlinellol i werthuso'r project, yn seiliedig ar astudiaeth fanwl a ariannwyd gan y Llywodraeth Ganolog a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Michael:"Dyma gyfle cyffrous i Gaerdydd ddatblygu seilwaith ynni carbon-isel newydd, a gyflenwir gan asedau a chyfleusterau presennol yn y ddinas.Yn ôl dadansoddiad a gynhaliwyd, mae'r cynllun yn rhoi cyfle i arbed 5,600 tunnell o garbon y flwyddyn, a rhagdybir y byddai adeiladau sy'n cysylltu â'r rhwydwaith yn arbed 5% oddi ar gostau ynni.

"Fodd bynnag, mae'r cynlluniau hyn yn dibynnu ar nifer o elfennau i'w gwneud yn ymarferol.Yn gyntaf, mae angen arian allanol ac rydym yn gweithio gyda'r Llywodraeth Ganolog yn ogystal â Llywodraeth Cymru i'n helpu i gael yr arian cywir.Yn ail, rhaid sicrhau contractau i ddefnyddio'r gwres o'r rhwydwaith a bydd hyn yn hanfodol i gynnydd y cynllun.

"Nododd Llywodraeth Cymru ei huchelgais o wneud pob rhan o'r sector cyhoeddus yn garbon niwtral erbyn 2030. Caiff yr uchelgais hon ei chefnogi gan ddogfen polisi Uchelgais Prifddinas ddiweddar Cyngor Caerdydd - sy'n datgan y bydd y weinyddiaeth yn llunio cynnig am rwydwaith gwres cynaliadwy."

Dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig:"Mae gwres sy'n dadgarboneiddio'n her sylweddol i sicrhau economi carbon isel i Gymru.Rydym yn cefnogi amrywiaeth o fentrau ac wedi rhoi cymorth sylweddol i Gyngor Caerdydd ddatblygu'r project i'r cam hwn.Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd gyda'r uchelgais o gyflawni'r project".

Dywedodd Chris Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Contractau Mawr Viridor, fod y cwmni'n falch o fod yn gweithio gyda Chyngor Caerdydd i wneud y mwyaf o gyfleoedd am wres ac ynni adnewyddadwy a chyflawni uchelgeisiau amgylcheddol Llywodraeth Cymru.

"Mae Viridor yn ystyried y dylid defnyddio pob darn o wastraff a'i werthfawrogi fel adnodd, yn hytrach na sbwriel.Dylid ei roi ar waith ar gyfer busnesau a chymunedau Cymru.Mae gweithredu'r cydsyniad hwn ar gyfer dinasyddion a'r sector busnes yng Nghymru yn nod sy'n werth ei ddilyn."

Mae Cabinet y Cyngor wedi cytuno i neilltuo £4m tuag at y cynllun, yn amodol ar weddill yr arian yn dod o'r Llywodraeth Ganolog, Llywodraeth Cymru a'r sector preifat fel sy'n briodol.

Datblygwyd Achos Busnes Amlinellol i werthuso'r project ac mae'r Cabinet, o ran egwyddor, yn cefnogi'r cynllun a'r bwriad i symud ymlaen i gamau nesaf y cynnig.Bydd hyn yn cynnwys cyflwyno cais am grant a chyllid arall, sicrhau contractau â chyflenwyr a chwsmeriaid gwres a chychwyn ar y broses dendro am gwmni i gynllunio, adeiladu, gweithredu a chynnal y rhwydwaith gwres.

Mae'n bosibl y byddai cwmni annibynnol yn berchen ar y rhwydwaith gwres drwy Gyfrwng at Ddibenion Arbennig, gyda'r Cyngor yn un o'r prif randdeiliaid.

Mae angen ffynhonnell gwres ar bob rhwydwaith gwres ac mae gan Gaerdydd Gyfleuster Adfer Ynni modern yng nghanol y brifddinas.

Mae Cyfleuster Adfer Ynni Parc Trident ar hyn o bryd yn llosgi gwastraff na ellir ei ailgylchu ar gyfer cynghorau Caerffili, Caerdydd, Casnewydd, Sir Fynwy a Bro Morgannwg.Mae'r ffatri, sy'n cael ei gweithredu gan Viridor sydd hefyd yn berchen arni, yn cynhyrchu 30mw o drydan, digon o ynni i bweru 50,000 o gartrefi.

Pan godwyd y cyfleuster, fe'i cynlluniwyd i gynhyrchu gwres yn ogystal â phŵer.Gall ddefnyddio gwres yn ychwanegol at y broses cynhyrchu trydan gynyddu effeithlonrwydd y ffatri yn sylweddol.

Ffatrïoedd troi gwastraff yn ynni sy'n cynhyrchu gwres yn ogystal â phŵer yw hoff ddatrysiad Llywodraeth Cymru ar gyfer trin gwastraff na ellir ei ailgylchu.

Byddai'n rhaid cytuno ar delerau masnachol â Viridor, a allai gyfrannu 85% o'r gwres sydd ei angen ar gyfer y rhwydwaith gwresogi.Mae ffynonellau gwres eraill hefyd ar gael yng Nghaerdydd gyda chyfleoedd o brosesau diwylliannol yn ogystal â ffynonellau dŵr.

Mae astudiaethau diweddar yn dangos y gallai'r cynllun gael ei gyflwyno mewn dau gam.Byddai'r cam cyntaf yn canolbwyntio ar weithredu pibellau gwres mewn adeiladau cyhoeddus i'r de o'r rheilffordd.Yn y cam hwn, byddai angen codi ‘canolfan ynni' gyda boeleri nwy ychwanegol/wrth gefn a fyddant yn angenrheidiol pan fydd CAY Parc Trident yn cau i wneud gwaith cynnal a chadw arno.Bydd yr ail gam yn canolbwyntio ar adeiladau i'r gogledd a'r dwyrain o'r rheilffordd.

Byddai'r rhwydwaith gwres a gynigir yn cael ei adeiladu o dan y ddaear, felly bydd tîm y project yn creu cynlluniau ar sut y caiff ei gyflawni fel nad yw'n amharu gormod ar briffyrdd.