Bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried argymhelliad i fwrw ymlaen â'r gwaith arfaethedig i ehangu ac addasu darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol, ar ôl i ymgynghoriad cyhoeddus ddangos cefnogaeth eang i'r cynnig.
Er mwyn bodloni'r cynnydd disgwyliedig o ran galw, mae amrywiaeth o gynlluniau wedi'u cyflwyno, yn ychwanegol at y cynigion i ddatblygu darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol yn rhan o gynlluniau blaenoriaeth y cyngor o dan Fand B ei Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.
Yn seiliedig ar ganlyniadau'r ymgynghoriad, mae'r saith cynllun canlynol yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet, sy'n cynnwys cymysgedd o ysgolion arbennig a chanolfannau adnoddau arbenigol, a leolir mewn ysgolion prif ffrwd:
Ysgol Arbennig Tŷ Gwyn
- Cynyddu nifer y lleoedd i 198
- Addasu adeiladu cyn-Ganolfan Ieuenctid Trelái i ddarparu tair ystafell ddosbarth ychwanegol
Ysgol Greenhill
- Cynyddu oedran gadael y disgyblion o 16 oed i 19 oed, gan ddod yn ysgol ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 19 oed
- Cynyddu capasiti'r ysgol i ddarparu 64 o leoedd
Ysgol Arbenigol Meadowbank
- Addasu dynodiad yr ysgol i:‘anghenion llefaredd, iaith a chyfathrebuacanawsterau dysgu cymhleth' - ar hyn o bryd mae'r ysgol wedi'i dynodi ar gyfer ‘namau iaith penodol'.
Ysgol Gynradd Allensbank
- Agor dosbarth ymyrraeth gynnar â lle i wyth ym mis Medi 2019, ar gyfer plant ag anghenion lleferydd ac iaith, a mynd ati fesul cam i gau'r ganolfan adnoddau arbenigol yn yr ysgol erbyn mis Gorffennaf 2020 fan bellaf
Ysgol yr Eglwys yng Nghymru y Forwyn Fair
- Creu canolfan adnoddau arbenigol â lle i ugain o blant
Ysgol Pwll Coch
- Agor canolfan adnoddau arbenigol, yn darparu hyd at 10 lle i gychwyn, ond gyda'r dewis i gynyddu hyn i 20 o leoedd yn y dyfodol
Ysgol Glantaf
- Cynyddu nifer y lleoedd yn ei chanolfan adnoddau arbenigol i 30
- Ehangu a gwella llety presennol y ganolfan
Wrth roi sylwadau ar y cynigion, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry:"Rwy'n croesawu'r gefnogaeth eang i'r cynlluniau a gyflwynwyd gennym ar gyfer ymgynghori. Mae twf sylweddol wedi bod yn nifer y bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghaerdydd ers 2012, gan fod twf wedi bod ym mhoblogaeth y ddinas. Disgwylir i'r duedd hon barhau dros y pum i ddeng mlynedd nesaf, a dyna pam ei bod mor bwysig i ni gyflwyno'r cynlluniau hyn, ac yna gweithredu darpariaeth ychwanegol dan Fand B rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.
"Ein nod ni yw annog cymaint o blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol â phosibl i fynd i'w ysgol leol, ac mae mwy na 90 y cant yn defnyddio addysg prif ffrwd. Ar gyfer y rhai hynny ag anghenion mwy cymhleth, rydym wedi ariannu 103 o leoedd ysgol arbennig a chanolfan adnoddau arbenigol yng Nghaerdydd dros y pum mlynedd diwethaf.
"Drwy'r cynlluniau arfaethedig hyn, a thrwy gam nesaf ein rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, byddwn yn ehangu llawer ar y ddarpariaeth hon."
Roedd yr ymgynghoriad hefyd yn cynnwys cynigion i ehangu Ysgol Arbennig Hollies. Fodd bynnag, oherwydd pryderon a godwyd drwy'r ymgynghoriad, ni chaiff y cynllun hwn ei gynnwys ar restr y cynlluniau a argymhellir i'r Cabinet. Caiff cynlluniau pellach eu datblygu i fodloni'r maes angen hwn.
Bydd y Cabinet yn cwrdd ddydd Iau, 19 Ebrill i ystyried yr argymhelliad i fwrw ymlaen â'r saith cynllun. Mae copi o adroddiad y Cabinet, yn cynnwys manylion llawn o'r cynigion ac arfarniad o safbwyntiau a gyflwynwyd drwy'r ymgynghoriad, ar gael i'w weld ar-lein yn www.caerdydd.gov.uk/cyfarfodydd