The essential journalist news source
Back
28.
March
2018.
Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd yn cyrraedd yr uchelfannau

Mae'r gwaith adeiladu ar gartref newydd Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, y disgwylir ei gwblhau yn gynnar y flwyddyn nesaf, wedi cyrraedd carreg filltir sylweddol arall wrth i'r adeiladu gyrraedd ei anterth. 

Mae'r foment wedi ei nodi gan seremoni gosod y garreg gopa, dan law Richard Jones, Cyfarwyddwr Gweithrediadau yn Willmott Dixon, y cwmni sy'n adeiladu'r ysgol newydd, ac yn ymuno ag ef roedd y gwahoddedigion:Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cyng. Sarah Merry; Pennaeth Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, Mr Martin Hulland, ynghyd â Chadeirydd y Llywodraethwyr, Dewi Jones a disgyblion Blwyddyn 7, Alfie Farrant a Maddison Morgan a Chynghorwyr lleol. 

Dywedodd y Cyng. Merry:"Mae'r cartref newydd pwrpasol hwn ar gyfer Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd yn cynrychioli buddsoddiad o £36 miliwn yn addysg ein plant a hefyd yng nghymunedau Caerau a Threlái. 

"Credaf fod hawl gan bob plentyn i addysg dda ac adeilad ysgol gwerth chweil.Mae'r trawsnewidiad y mae Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd yn ei greu eisoes yn addysg uwchradd yr ardal leol yn gyffrous dros ben, ac rwy'n edrych ymlaen at weld yr ysgol yn symud i'w chartref newydd, sy'n addas i'r unfed ganrif ar hugain, y flwyddyn nesaf." 

Mae'r adeilad newydd yn cael ei gyd-ariannu gan y cyngor a Llywodraeth Cymru drwy Fand A o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac Addysg Llywodraeth Cymru.I gyd,mae £164m yn cael ei roi i'r rhaglen, gyda Chyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru yn rhoi £82m yr un. 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams:"Wedi'i hariannu gan £18m gan Lywodraeth Cymru, bydd Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd yn cynnig amgylchedd dysgu gwych sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.Mae'n wych gweld pa mor gyflym mae'r ysgol yn dod yn ei blaen, ac edrychaf ymlaen at weld yr adeilad wedi'i gwblhau. 

"Mae'r project hwn yn rhan o'r don gyntaf o Raglen Ysgolion y 21ain Ganrif ac Addysg Llywodraeth Cymru, a fydd yn ailadeiladu ac ailwampio 150 o ysgolion a cholegau ledled Cymru, gan gynrychioli'r buddsoddiad mwyaf yn ein hysgolion a'n colegau ers y 1960au." 

Cyhoeddodd Cyngor Caerdydd gam nesaf Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ym mis Rhagfyr, gyda £284m ychwanegol, a chyllid cyfatebol gan Lywodraeth Cymru, i adeiladu ysgolion newydd ledled y ddinas - y buddsoddiad unigol mwyaf yn ysgolion Cyngor Caerdydd. 

Agorodd Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd ym mis Medi, mewn lleoliad dros dro ar gyn-safle Coleg Cymunedol Llanfihangel yn Nhrelái. 

Dywedodd y Pennaeth, Mr Martin Hulland:"Mae'n wych ein bod ni nawr lai na blwyddyn i ffwrdd o symud i'r cartref parhaol ffantastig hwn, sydd werth £36m, ar gyfer Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd. 

"Gweddnewid bywydau a chyfleoedd bywyd yw bwriad yr ysgol, ac rydym eisoes wedi dechrau ar y broses honno.Rwy'n falch o fod yn gweithio ysgwydd wrth ysgwydd a staff ymrwymedig i sicrhau ein bod yn cael y sylfeini a'r pethau sylfaenol yn iawn, fel ein bod ni'n sefyll ar dir cadarn i sicrhau ein bod yn gwneud gwahaniaeth, bob un dydd, pan fyddwn yn symud i'n safle." 

Yn ogystal â chynrychioli buddsoddiad o £36 miliwn yn yr ardal leol, bydd y project hefyd yn cyflwyno nifer o fuddion cymunedol eraill yn ystod y gwaith adeiladu, gan gynnwys gwaith gydag ysgolion a cholegau lleol, cyfrannu at gynlluniau cymunedol, cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth a chyfleoedd i fusnesau bach a chanolig gyflenwi deunyddiau a gwasanaethau. 

Dywedodd Richard Jones, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Willmott Dixon:"Mae'n wych gallu dathlu cyrraedd y garreg filltir hon.Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw'r ysgol hon i'r ardal leol, ac rydym wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau y bydd codi'r adeilad yn cael effaith gadarnhaol ar y gymuned yn ogystal. 

"Trwy ein gwaith ymgysylltu ag ysgolion a cholegau lleol, hyd yma rydym wedi cynnig dros 860 o wythnosau o gyfleoedd hyfforddi i brentisiaid, hyfforddeion a phobl sy'n ddi-waith yn yr hirdymor, a bydd y niferoedd hyn yn parhau i gynyddu wrth i ni fynd rhagom i gamau nesaf yr adeiladu. 

"Rydym hefyd wedi estyn croeso trwy ein drysau i nifer o ddisgyblion yr ysgol newydd i gael gweld drostynt eu hunain y modd yr ydym yn adeiladu eu cartref dysgu newydd, ac mae wedi bod yn wych gweld y brwdfrydedd hwn yn cael ei adlewyrchu yn y gweithdai ysgol lleol a gynhaliom, gan rannu llawer o'r cyfleoedd y gall adeiladu eu cynnig." 

Gydag wyth dosbarth mynediad, bydd lle yn yr adeilad newydd i 1200 o ddisgyblion, mewn dros 13,500 metr sgwâr o ofod llawr. 

Yn ogystal â'r adeiladau ysgol newydd fydd wedi eu rhannu yn dri bloc ar wahân, bydd caeau chwarae newydd ac ardal campau cymysg newydd yn rhan o'r safle 8.8 hectar. 

Mae Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd yn ‘ysgol fraenaru', yn hyrwyddo cysylltiadau a ffurfiwyd dan ‘Bartneriaeth Addysg Caerdydd Greadigol' sydd wedi gweld rhai o'r enwau mwyaf yn sector creadigol Caerdydd yn cyfuno â'r awdurdod lleol i hyrwyddo creadigrwydd wrth galon dysgu. 

Mae'r bartneriaeth yn cynnig profiad gwaith cyffrous i blant a phobl ifanc yr ysgol, gan eu helpu nhw i wneud y gorau o gyfleoedd yn y sectorau creadigol a diwylliannol gan gynnwys ffilm, teledu, dylunio digidol a theatr.Mae hefyd yn rhoi sgiliau creadigol iddynt y gellir eu defnyddio mewn gyrfaoedd a swyddi eraill. 

Ychwanegodd y Cyng. Merry:"Mae hwn yn gyfle gwych i gryfhau addysg drwy roi creadigrwydd wrth galon y dysgu a datgloi cyfleoedd yn economi greadigol lwyddiannus Caerdydd. 

"Mae'n hanfodol ein bod ni'n helpu pobl ifanc y ddinas i roi eu hunain yn y sefyllfa orau posib i fanteisio'n llawn ar economi Caerdydd sy'n tyfu. 

"Rwyf am sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl ac nad yw cefndir cymdeithasol plentyn yn dyngedfennol o ran ei allu i lunio gyrfa lwyddiannus i'w hun." 

Y ‘Partneriaid Sefydlu' yw Amgueddfa Cymru; BBC Cymru; Cyngor Caerdydd, Coleg Caerdydd a'r Fro; Sgiliau Creadigol a Diwylliannol, Prifysgol Metropolitan Caerdydd; Prifysgol De Cymru; Canolfan Mileniwm Cymru; Opera Cenedlaethol Cymru.