The essential journalist news source
Back
26.
March
2018.
Y fflyd gyntaf o feics nextbike yn cyrraedd yng Nghaerdydd

Mae gweithredwr rhannu beics mwyaf eang y byd - nextbike - wedi cyrraedd Caerdydd, gyda phum gorsaf docio a 50 beic ar waith heddiw (26 Mawrth.)

Caiff y cynllun ei lansio'n llawn ym mis Mai eleni pan gaiff 25 gorsaf a 250 beic eu gosod. Yna, caiff hynny ei ddyblu erbyn diwedd Awst, pan fo 50 gorsaf a 500 beic yn ac o amgylch Caerdydd.

Bydd y pum gorsaf gyntaf a'r 50 beic ger Neuadd y Ddinas, Gorsaf Drenau Caerdydd Canolog, Adeilad Bute Prifysgol Caerdydd ym Mharc Cathays a Neuadd y Sir ym Mae Caerdydd.

Mae Cyngor Caerdydd yn cefnogi'r cynllun ac mae'n derbyn arian gan Lywodraeth Cymru a bydd yn helpu i ostwng tagfeydd traffig, gwagio llefydd parcio a chynnig ffordd iachach o deithio o amgylch y ddinas.

Mae'r Cynghorydd Caro Wild, Aelod Cabinet dros Gynllunio Cynaliadwy a Thrafnidiaeth wedi croesawu cam cyntaf y cynllun.

"Mae cynllun llogi beics yn rhan hanfodol o ddinas feics go iawn a 'dw i wrth fy modd bod nextbike wedi gweld y potensial gwych sydd yng Nghaerdydd ar gyfer beicio. Pan gyhoeddon ni fod y cynllun yn dod i Gaerdydd, gofynnon ni i breswylwyr gysylltu â ni a rhoi eu hadborth ynghylch ble y dylid gosod y beics. Fe ystyrion ni'r holl adborth wrth gynllunio camau nesaf y cynllun.

 "Rydyn ni wedi gweld sut mae'r cynllun beics yn wir wedi cynyddu hygyrchedd ac amlygrwydd beics yn Llundain ac rydyn ni'n credu y gwnaiff nextbike yr un peth yng Nghaerdydd. Mae Caerdydd yn ddinas gywasg ac eithaf fflat felly mae beicio'n ddewis da ar gyfer teithiau byr. Rhan yn unig yw hon o gynlluniau'r Cabinet i wella'r seilwaith beicio er mwyn annog pobl sy'n byw yn neu yn agos at y ddinas i adael eu ceir gartref ac ystyried opsiynau teithio eraill."

Gweithredwr y cynllun, nextbike, yw darparwr rhannu beics mwyaf eang y byd; mae ganddo dros 120 cynllun ar bedwar cyfandir.

Dywedodd Julian Scriven Rheolwr-Gyfarwyddwr nextbike UK y byddai Caerdydd yn elwa ar ei chanfed o'r cynllun.

"Mae'n gyffrous gweld y beics yn cyrraedd yng Nghaerdydd. O ostwng tagfeydd a chreu swyddi newydd i wella iechyd a symudedd, mae rhannu beics yn dwyn effaith real ym mhob man yr aiff," eglurodd.

"Mae ein gwaith ymchwil yn dangos bod defnyddwyr rhannu beics yn gwario mwy mewn siopau lleol, mae prisiau tai wrth orsafoedd docio yn codi, ac mae'r galw am lefydd parcio yn gostwng ac felly hefyd tagfeydd a llygredd o ganlyniad."

Bydd y beics yn cynnwys technoleg flaengar a nodweddion diogelwch gwell, yn cynnwys cloeau blaen sy'n rhan o'r beic a thraciwr GPS, s fydd yn eu gwneud nhw'n haws eu defnyddio nag erioed. 

Mae'r Cyngor wedi lansio papur gwyrdd ar Aer Glân yn y ddinas ac yn annog preswylwyr i gymryd rhan yn y sgwrs am y syniadau mawr a allai lunio dyfodol system drafnidiaeth Caerdydd a golwg a naws y ddinas yn y dyfodol.

Mae'r Papur Gwyrdd ar Drafnidiaeth ac Aer Glân ar gael i'w weld yma https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Parcio-Ffyrdd-a-Theithio/papur-gwyrdd-trafnidiaeth-ac-aer-glan/Pages/default.aspxac mae cyfres o gwestiynau wedi eu holi ym mhob adran er mwyn derbyn adborth gan breswylwyr ar y cynigion a'r syniadau cyn cau'r ymgynghoriad ar 1 Gorffennaf.

Sut mae cymryd rhan - ymunwch yn y sgwrs drwy: