The essential journalist news source
Back
22.
March
2018.
Cyngor Caerdydd yn llofnodi Siartr Clefyd Niwronau Motor
Heddiw, mae Cyngor Caerdydd wedi cytuno i fabwysiadu’r Siartr Clefyd Niwronau Motor (CNM) sy’n cefnogi dioddefwyr lleol o’r clefyd terfynol hwn a'u gofalwyr. 

Yng nghwmni Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Huw Thomas roedd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd,y Cynghorydd Bob Derbyshire, yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant, y Cynghorydd Susan Elsmore a’r Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd, y Cynghorydd Graham Hinchey.

Hefyd yn bresennol roedd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Maria Battle, yr ymgynghorydd allanol, Mr Tom Hughes, a Kate Bryon o Sefydliad CNM Caerdydd a’r Fro.Roedd Theresa Wainwright, sy’n dioddef CNM, a’i bartner Iwan Bere yno hefyd.

Mae’r siartr yn dweud;

1.    Mae gan bobl sydd â CNM yr hawl i gael diagnosis a gwybodaeth yn gynnar

2.    Mae gan bobl sydd â CNM yr hawl i gael gofal a thriniaeth o safon

3.    Mae’r hawl gan bobl sydd â CNM i gael eu trin fel unigolion ac ag urddas a pharch

4.    Mae’r hawl gan bobl sydd â CNM i gael y bywyd gorau posibl

5.    Mae’r hawl gan ofalwyr pobl sydd â CNM i gael eu gwerthfawrogi, eu parchu, eu clywed a’u cefnogi’n dda.


Mae CNM yn glefyd marwol sy’n gwaethygu’n gyflym sy’n gallu cyfyngu pobl i gorff heb y gallu i symud, siarad ac yn y pen draw, anadlu.Mae’n lladd tua thraean o bobl o fewn blwyddyn o gael diagnosis, a mwy na hanner o fewn dwy flynedd.Does dim ffordd o wella ohono. Yn anffodus, does dim dealltwriaeth o'r clefyd i raddau helaeth ac nid yw pobl sydd â'r clefyd yn derbyn y gofal a chymorth y mae eu hangen arnynt oherwydd hynny.Lansiwyd y Siartr CNM i newid hyn.

Dywedodd y Cyng. Huw Thomas:“Mae Clefyd Niwronau Motor yn un erchyll ac mae Cyngor Caerdydd yn falch o fabwysiadu’r Siartr CNM mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Y Brifysgol Caerdydd a’r Fro.Mae’n hanfodol bod mwy o bobl yn ymwybodol o anghenion y bobl hynny sy’n byw gyda CNM a’n bod yn sicrhau eu bod yn cael y bywyd gorau posibl.”

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd, y Cyng. Graham Hinchey:“Mae cytuno i fabwysiadu’r siartr hon yn ymrwymiad y bydd Cyngor Caerdydd yn gwneud popeth yn ei allu i gefnogi a chynorthwyo'r gwaith o godi ymwybyddiaeth gofal ac anghenion y bobl hynny sy'n byw gyda Chlefyd Niwronau Motor neu'r rhai hynny y effeithir arnynt ganddo.

Dywedodd Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, “Fel Bwrdd Iechyd rydym wedi ymrwymo i ofalu am bobl a chynnal eu hiechyd. Bydd mabwysiadu’r siartr hon mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd yn sicrhau bod pawb yn deall ac yn parchu hawliau pobl sydd â CNM a'u gofalwyr er mwyn rhoi'r cyfle gorau posibl i gael y gofal y mae ei angen arnynt i fyw bywyd o’r ansawdd gorau posibl.”

Dywedodd Chris James, Cyfarwyddwr Materion Allanol y Sefydliad CNM:“Nid oes modd gwadu pwysigrwydd y Siartr CNM.Rydym am i bawb fod yn glir y gall mynediad at y gofal cywir, yn y lle cywir, ar yr adeg gywir, fel y nodir yn ein Siartr, drawsnewid bywydau.”

Caiff y siartr ei llofnodi yn Neuadd Y Ddinas ddydd Iau 22 Mawrth 2018.


I gael mwy o wybodaeth ewch i www.mndassociation.org/mndcharter