Mae’r arolwg yn rhan o waith y Cyngor gyda Sound Diplomacy i lunio strategaeth ar gyfer cerddoriaeth yng Nghaerdydd a bydd y canlyniadau yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o lywio datblygiadau yn y dyfodol.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Chwaraeon, Diwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: “Rydym yn llawn cyffro i fod yn gweithio gyda’r arweinwyr byd-eang, Sound Diplomacy ar y strategaeth cerddoriaeth fwyaf uchelgeisiol erioed i'w chomisiynu yn y DU. Nawr mae angen i gynifer â phosibl o drigolion Caerdydd sy’n hoffi cerddoriaeth gymryd rhan yn yr arolwg hwn - mae’n gyfle gwirioneddol i bobl ddweud eu dweud a chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu sîn gerddorol y ddinas.”
Nod yr arolwg yw nodi’r heriau a chyfleoedd niferus ar gyfer cerddoriaeth yng Nghaerdydd fel y gall Sound Diplomacy lunio argymhellion a fydd yn ategu ac yn diogelu diwydiant cerddorol iach a chynaliadwy yn y ddinas.
I gymryd rhan yn yr arolwg, ewch i: http://www.surveygizmo.com/s3/4256085/Cardiff-Music-City-Strategy
Os oes unrhyw gwestiynau neu bryderon gennych, neu
os hoffech gael gwybod mwy am ganlyniadau’r arolwg, mae croeso i chi gysylltu â
ni ffion@sounddiplomacy.com.