Bydd ras Bae Caerdydd Brecon Carreg, sydd wedi'i threfnu gan Run4Wales, yn digwydd ddydd Sul 25 Mawrth.
Gyda disgwyl i 4,500 o bobl gymryd rhan yn y digwyddiad, bydd ffyrdd ar gau er diogelwch y rhedwyr.
O 6am tan 1.30pm, bydd y ffyrdd canlynol ar gau i hwyluso'r digwyddiad (cynhelir mynediad i breswylwyr).
Plas Bute(i'r de o Stryd Pen y Lanfa)
Cei Britannia
Rhodfa'r Harbwr
O 9.45am tan 1.30pm,bydd y ffyrdd canlynol ar gau:
Plas Bute (i'r gogledd o Stryd Pen y Lanfa)
Rhodfa Lloyd George
Porth Teigr Way
Locks Road
Cargo Road
Stryd Pen y Lanfa o'r gyffordd â Phlas Butei'r gyffordd â Caspian Way/Falcon Drive.
Bydd y ras yn dechrau ar Roald Dahl Plass ac yn mynd tua'r gogledd, gan groesi Plas Bute a theithio i fyny Rhodfa Lloyd George tuag at ganol y ddinas.
Bydd cystadleuwyr yn troi ar dop Rhodfa Lloyd George ac yna'n rhedeg yn ôl i lawr Rhodfa Lloyd George tuag at Fae Caerdydd, i Blas Bute, i Gei Britannia, i'r chwith ar Rodfa'r Harbwr ac i Porth Teigr Way.
Gan droi i'r dde ar y gylchfan ar Cargo Road, bydd y rhedwyr wedyn yn mynd drwy Borth y Gorllewin ar dir ABP, i Lock Road, heibio Tŷ Alexandra i Gatiau Loc y Morglawdd cyn troi rownd a mynd yn ôl i Locks Road.
Mae'r llwybr yn pasio gât y doc ac yn dod yn ôl ar y llwybr beicio gyferbyn â Cargo Road ac i'r chwith ar Rodfa'r Harbwr. Yna, bydd y ras yn parhau yn ôl i fyny Rhodfa Lloyd George tuag at ganol y ddinas ac yna yn ôl i lawr tuag at Fae Caerdydd gan groesi Plas Bute cyn gorffen yn Roald Dahl Plass.