The essential journalist news source
Back
21.
March
2018.
Syniadau mawr ar gyfer dyfodol system drafnidiaeth Caerdydd

Mae pobl Caerdydd yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn sgwrs am y syniadau mawr a allai siapio dyfodol system drafnidiaeth Caerdydd a'r ffordd y gallai'r ddinas edrych a theimlo yn y dyfodol. 

Mae poblogaeth Caerdydd yn tyfu’n gyflymach nag unrhyw ddinas fawr arall y tu allan i Lundain a’r disgwyl yw y bydd 72,000 arall o bobl yn symud i fyw yma yn ystod yr 20 mlynedd nesaf.  Disgwylir y bydd y twf hwn yn sicrhau buddion diwylliannol ac economaidd sylweddol, ond gyda 300 miliwn o deithiau eisoes yn cael eu gwneud ar rwydwaith trafnidiaeth y ddinas bob blwyddyn, bydd hefyd yn rhoi pwysau ychwanegol ar gyfleusterau ffyrdd, rheilffordd, bws, cerdd a beicio’r ddinas.

Gyda hyn mewn golwg mae’r Cyngor yn lansio ymgynghoriad gyda phobl Caerdydd i rannu a chasglu syniadau o ran sut y gallai’r ddinas newid er gwell.

Mae’r Cyngor hefyd wedi cael cyfarwyddyd cyfreithiol gan Lywodraeth Cymru i gynnal astudiaeth o ddichonoldeb i nodi opsiynau a fyddai’n sicrhau cydymffurfiaeth gyfreithlon o ran ansawdd aer yn y cyfnod byrraf posibl.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cyng. Caro Wild:  “Mae pawb yn gwybod bod rhaid i system drafnidiaeth Caerdydd newid - mae gormod ohonom wedi cael ein dal mewn traffig wrth geisio gollwng y plant, neu'n cyrraedd i'r gwaith yn hwyr gan nad oedd dim golwg o’r bws, a thra bod nifer cynyddol yn awyddus i gerdded neu feicio, mae'r cyfleusterau ar gyfer gwneud hynny'n annigonol yn aml iawn.

 “Ond mae problem iechyd hyd yn oed yn fwy dychrynllyd na hynny hyd yn oed - sef llygredd aer.  Mae’r ffigurau diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awgrymu bod nifer y marwolaethau fesul blwyddyn y gellir eu priodoli i ansawdd aer gwael wedi cynyddu i fwy na 225 ledled Caerdydd a Bro Morgannwg, felly mae gwella’r aer yr ydym yn ei anadlu bellach yn fater o fywyd a marwolaeth.

 “Fel pob dinas fawr arall yn y DU, mae tagfeydd yn effeithio ar iechyd pobl.Mae Llywodraeth Cymru nawr wedi’n cyfarwyddo i gynnal astudiaeth o ddichonoldeb ar Aer Glân a fydd yn nodi’r problemau yng Nghaerdydd a gwneud argymhellion o ran y ffordd orau i'w datrys.

 “Tra bod gwaith ar yr astudiaeth yn mynd rhagddo rydym eisiau agor trafodaeth gyda’r cyhoedd ynghylch sut le fyddai Caerdydd lanach a gwyrddach.Mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer dyfodol Caerdydd ac rydym yn credu bod yr holl syniadau a nodir yn y papur ymgynghori yn bosibl.  Ond gallai newid y ffordd yr ydym yn symud o amgylch y ddinas effeithio ar bob un ohonom, dyna pam ein bod yn awyddus i gynifer o bobl â phosibl ddweud eu dweud am y syniadau hyn, fel y gallwn lunio dyfodol cryfach, iachach gyda’n gilydd."

Mae’r Papur Gwyrdd ar Drafnidiaeth ac Aer Glân, ‘Newid Sut Ydym yn Symud o Amgylch Dinas sy’n Tyfu’ yn cynnwys chwe thema, pob un gyda’i chynigion ei hun yn seiliedig ar enghreifftiau o arfer da mewn dinasoedd ledled y byd a chan grwpiau ac unigolion sydd â diddordeb yn y maes ym mhob rhan o Gaerdydd a thu hwnt.

Mae’r themâu a syniadau’n cynnwys:

·         Dyfodol y Metro a Bysus

Syniadau Mawr:  ail-drefnu’r rhwydwaith gwasanaethau bws i greu cysylltedd gwell rhwng lleoliadau gwahanol fathau o drafnidiaeth; tocynnu integredig yn debyg i ‘Oyster Card’ Llundain; a fflyd o fysus di-garbon sy’n defnyddio ynni trydan neu hydrogen.

·         Dinas Actif, Dinas Iach

Syniadau Mawr:  datblygu parthau teithio llesol yng nghanol y ddinas a chymdogaethau sy'n rhoi blaenoriaeth i gerdded, beicio a thrafnidiaeth ddi-fodur; rhwydwaith prif lwybrau a thraffordd feicio gynhwysfawr; cyflwyno parth 20mya ledled y ddinas gyfan.

·         Dinas Aer Glân

Syniadau Mawr:  parthau aer glân – ardaloedd y rhoddir camau gweithredu targedig ar waith ynddynt i wella ansawdd aer mewn ffordd sy'n gwella iechyd ac yn cefnogi twf economaidd; targedau teithio llesol ar gyfer y sector cyhoeddus a busnes; ardrethi parcio a chostau fel bod gweithleoedd yn talu am bob man parcio a ddarperir.

·         Busnes, Gwaith a Diwylliant

Syniadau Mawr:  creu amgylchedd o safon uchel yng nghanol y ddinas; datblygu coridor y de-ddwyrain - yn unol â'r strategaeth ddiwydiannol newydd ar gyfer dwyrain y ddinas; bwrw ymlaen â chynlluniau i sefydlu cyfleusterau parcio a theithio rhanbarthol.

·         Dyfodol Ceir

Syniadau Mawr:  annog twf yn nifer y cerbydau di-garbon yng Nghaerdydd; cyflwyno rhwydwaith pwyntiau gwefru gynhwysfawr; denu a datblygu ystod ehangach o glybiau ceir er mwyn annog pobl i ddefnyddio symudedd fel gwasanaeth.

·         Dinas Glyfar

Syniadau Mawr:  manteisio i’r eithaf ar wybodaeth ddigidol yn gysylltiedig â rhwydweithiau/defnyddwyr ; sefydlu system rheoli strydoedd i alluogi modurwyr i ddod o hyd i fannau parcio yn hawdd a rheoli llifoedd traffig; ymchwilio i’r posibilrwydd o ddefnyddio cerbydau awtonomaidd.

Ychwanegodd y Cyng. Wild:“Mae’r ymgynghoriad yn cael ei lansio heddiw ac rydym yn awyddus iawn i glywed barn y cyhoedd.Ar hyn o bryd rydym ond eisiau dechrau'r sgwrs.Yn yr hydref caiff canlyniadau’r ymgynghoriad eu defnyddio, ar y cyd â chyfarwyddyd cliriach gan Lywodraeth Cymru ac unrhyw astudiaethau o ddichonoldeb ar ansawdd aer, canlyniadau ein Papur Gwyrdd ar yr Economi, a thrafodaethau gyda gweithredwr Metro De Cymru, i lywio'r gwaith o baratoi Papur Gwyn ar Drafnidiaeth ac Aer Glân, i’w gyhoeddi yn yr hydref.

 “Beth sy’n amlwg yw na allwn wneud dim.”Mae Caerdydd yn tyfu ac yn newid ac mae’n rhaid i ni ganfod dull o reoli’r twf hwnnw.Ar hyn o bryd mae gyrwyr yn treulio tua phedwar diwrnod gwaith y flwyddyn mewn traffig ar gyfartaledd yn ystod y cyfnodau prysuraf ac mae 90,000 o gymudwyr yn teithio yn ôl ac ymlaen o Gaerdydd bob dydd o ardaloedd y tu allan i'r ddinas.  Traffig a thagfeydd sy'n cyfrannu fwyaf at ansawdd aer ac mae hyn yn effeithio ar fywyd pawb.

Mae hwn yn gyfle i ni siapio dyfodol Caerdydd gyda'n gilydd a chreu dinas iachach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.Rydw i’n gobeithio y bydd cynifer â phosibl yn ymuno yn y sgwrs."

Dywedodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru:

 “Ledled y byd, mae dinasoedd eangfrydig yn cydnabod bod angen iddynt weithredu i symud bant o’r ddibyniaeth drwm ar geir tuag at opsiynau teithio gwyrddach, mwy cynaliadwy sy’n dda i’r amgylchedd, economi a’n hiechyd. 

 “Yn unol â’i rhwymedigaethau dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae Caerdydd yn nodi cyfleoedd i leihau’r defnydd o geir, hyrwyddo teithio llesol a lleihau llygredd aer. 

 “Ochr yn ochr â hyn mae’n galonogol bod y ddinas yn chwilio am ffyrdd o greu’r amgylchedd cywir ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol drwy sicrhau bod Caerdydd yn ddinas ddeniadol a chysylltiedig sy’n barod i ateb galw technolegol newidiol y dyfodol.Mae yna rai cyfleoedd cyffrous yn yr hyn sy’n cael ei gynnig ac rwy’n croesawu ymrwymiad Caerdydd i gael y sgwrs hon gyda’i dinasyddion.”

Dywedodd Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac Is-gadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus:

 “Mae sut rydym yn mynd o A i B yn cael effaith enfawr ar ein hiechyd, yr amgylchedd a’n cymunedau.   Rydym ar adeg allweddol – mae lefelau salwch uchel yn ein hardal yn cael eu hachosi neu eu gwaethygu gan sut rydym yn teithio a’r aer rydym yn ei anadlu; ond mae gennym hefyd gyfleoedd – y math o gyfleoedd nad ydynt ond yn codi unwaith y genhedlaeth – i ddatrys hyn, gyda datblygiad y Metro yng Nghaerdydd a’r rhanbarth, a deddfwriaeth sy’n gofyn i ni ac yn ein galluogi i atal salwch yn y dyfodol, gwella iechyd cenedlaethau’r dyfodol a gwella ansawdd aer.

 “Rwy’n croesawu cyhoeddiad y Papur Gwyrdd hwn ar bwnc mor bwysig, ac rydym yn gweithio’n agos gyda Chyngor Caerdydd a phartneriaid eraill ar y materion hyn.  Fel un o’r cyflogwyr mwyaf yng Nghaerdydd a’r Fro ac fel sefydliad iechyd allweddol, mae gennym gynllun hirdymor sy’n cefnogi dulliau teithio mwy cynaliadwy i’n staff, cleifion ac ymwelwyr, ac mae hyn yn seiliedig ar weithredu heddiw i greu dyfodol iachach.

 “Rydym yn annog preswylwyr i gyfrannu at y sgwrs hon ar sut y gall pob un ohonom deithio mewn ffordd fwy iach a chynaliadwy.  Mae gadael y car gartref a cherdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn cael y galon i guro. Gall hefyd roi gwên ar eich wyneb – fydd ddim rhaid i chi eistedd mewn tagfeydd am amser maith mwyach!Os down o hyd i’r atebion cywir byddwn yn iachach ac yn hapusach, a Chaerdydd fydd un o’r llefydd gorau yn Ewrop i drigolion, gweithwyr ac ymwelwyr.”

Mae’r Papur Gwyrdd ar Drafnidiaeth ac Aer Glân wedi’i gyhoeddi www.caerdydd.gov.uk/papurgwyrddtrafnidiaethac mae cyfres o gwestiynau yn cael eu gofyn ym mhob adran er mwyn cael adborth gan drigolion ar y cynigion a syniadau cyn i’r ymgynghoriad ddod i ben ar 1 Gorffennaf.

Sut gallwch chi gymryd rhan – ymunwch yn y sgwrs drwy:

·         Gwblhau ein harolwg ar-lein https://www.snapsurveys.com/wh/s.asp?k=152164905346

·         E-bostio sylwadau’n uniongyrchol atom ni yn:  ymgynghori@caerdydd.gov.uk 

·         Ymateb yn ysgrifenedig i:  Canolfan Ymchwil Caerdydd, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW

·         Cysylltu â ni ar Facebook / Twitter:  @cyngorcaerdydd