The essential journalist news source
Back
20.
March
2018.
Problemau diogelwch tân wedi’u darganfod ar ôl i’r Cyngor gynnal gwiriadau ychwanegol ar gladin blociau fflatiau uchel
Mae gwiriadau ychwanegol a gynhaliwyd gan Gyngor Caerdydd ar ei flociau fflatiau uchel wedi datgelu nad yw’r systemau cladin ar chwe adeilad yn bodloni’r safonau diogelwch tân cyfredol, er i bob un o’r chwech basio gwiriad diogelwch yn sgil tân Grenfell.

Yn dilyn y tân trychinebus yn Nhŵr Grenfell yn Llundain y llynedd, adolygodd y Cyngor ddiogelwch tân ym mhob un o’i flociau fflatiau uchel ar draws y ddinas, gan gynnwys archwiliadau gan ymgynghorwyr allanol ar gladin i weld a oedd Deunyddiau Cyfansawdd Alwminiwm (DCA) ar gael yn unrhyw un o’r blociau.Dangosodd y canlyniadau nad oedd unrhyw DCA yn y cladin.

Cynnal y gwiriadau DCA oedd yr unig ofyniad a roddwyd ar y Cyngor gan y Llywodraeth yn sgil trychineb Grenfell.Fodd bynnag, argymhellodd ymgynghorwyr y dylid cynnal rhagor o brofion ar y cladin i fod yn hollol sicr am ei ddiogelwch ac felly penderfynodd yr awdurdod gynnal profion ychwanegol i sicrhau y byddai’r cladin, a osodwyd yn y 1990au, yn bodloni’r safonau diogelwch tân llymach presennol.

Ers trychineb Grenfell, mae canolfannau profi cladin y DU wedi bod yn gweithio hyd eithaf eu gallu gan flaenoriaethu profi hylosgedd paneli DCA.Oherwydd hyn, roedd angen i Gyngor Caerdydd gomisiynu ei brofion ychwanegol ei hun trwy ddefnyddio cwmnïau arbenigol preifat.Comisiynwyd profion ar gyfer pob un o’n chwe blociau fflatiau uchel â chladin. Dim ond yn ddiweddar y derbyniwyd canlyniadau’r profion hyn.Maent yn dangos bod y systemau cladin yn cynnwys paneli sgrîn law pren caled ffibrog ag argaen sy’n methu bodloni’r safonau hylosgedd sydd gennym heddiw.

Mae ein gwiriadau hefyd wedi datgelu nad oes unrhyw rwystrau tân wedi’u cynnwys yn y system gladin ar y tu allan i’r adeiladau dan sylw.Er nad oedd hyn yn ofynnol yn ôl y rheoliadau ar y pryd, mae’r safonau heddiw yn llawer uwch ac rydym yn cymryd hyn i ystyriaeth.

Y blociau yr effeithir arnynt yw Fflatiau Lydstep, Ystum Taf (3 bloc), Loudoun a Nelson House, Butetown, a Trem y Môr, Grangetown.

Mae mesurau diogelwch ychwanegol eisoes wedi cael eu rhoi ar waith yn y blociau gan gynnwys patrolau wardeniaid tân 24 awr a rhagor o fonitro gan system teledu cylch cyfyng.  Mae synwyryddion mwg wedi’u gosod ym mhob fflat ac mae’r rhain yn cael eu gwirio bob blwyddyn yn ogystal â chyfarpar nwy.

Roedd y Cyngor eisoes wedi penderfynu adnewyddu drysau tân hyd at safonau uwch na’r rhai sydd wedi’u pennu ym mhob un o’i flociau fflatiau uchel, gan ddisodli drysau ag effeithiolrwydd 30 munud gan ddrysau tân â manyleb uwch o 60 munud. Caiff y gwaith hwn ei gwblhau erbyn mis Mai.Hefyd bwriedir gosod system taenellu dŵr ym mhob bloc fflatiau uchel.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cyng. Lynda Thorne,“Yn dilyn trychineb yr haf diwethaf yn Nhŵr Grenfell ac oherwydd mai diogelwch tenantiaid yw ein prif flaenoriaeth, penderfynodd y Cyngor fynd y tu hwnt i’r adolygiad cychwynnol o’n systemau cladin a oedd yn chwilio am DCA i sicrhau nad oedd unrhyw broblemau eraill gyda’r deunyddiau yng nghladin ein blociau fflatiau uchel.

“Yn anffodus, mae canlyniadau’r profion ychwanegol hyn wedi dangos bod y cladin ar chwe bloc yn methu bodloni’r safonau cyfredol.

“Wrth gwrs, bydd pawb sy’n byw yn y blociau hyn yn pryderu’n fawr wth y newyddion hyn ond rwyf am eu sicrhau ein bod yn gweithio’n agos iawn gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i sicrhau ein bod yn dilyn y canllawiau diogelwch tân diweddaraf ac i benderfynu ar y ffordd orau ymlaen.

“Rwy’n credu mai ni yw’r cyngor cyntaf yn y DU i gynnal y gwiriadau ychwanegol hyn ar gladin ac o ganlyniad i hyn, ac o ganlyniad i’r canlyniadau, rydym wedi hysbysu Llywodraeth Cymru a byddwn hefyd yn hysbysu Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol Llywodraeth y DU.”

Mae’n debygol y bydd rhaid tynnu’r cladin oddi ar ein holl flociau ac rydym yn ystyried y ffordd orau o wneud hyn.Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i sicrhau ein bod yn dilyn y canllawiau diogelwch tân diweddaraf.