The essential journalist news source
Back
19.
March
2018.
Y wybodaeth ddiweddaraf am ysgolion sy'n agor yng Nghaerdydd yfory - cyhoeddwyd ar Ddydd Sul, Mawrth 18

Mae Cyngor Caerdydd yn cynghori ysgolion nad yw'r ddinas yn wynebu'r un lefel o amhariad a achoswyd gan eira pythefnos yn ôl ac felly dylai'r rhan fwyaf o ysgolion allu agor fel arfer yfory. 

Mae'r penderfyniad terfynol fodd bynnag, ynghylch p'un ai i gau neu agor, yn eistedd gyda'r Pennaeth a Chadeirydd y Llywodraethwyr.Felly, cynghorir rhieni i edrych am ddiweddariadau gan eu hysgol trwy eu dulliau cyfathrebu arferol. 

Disgwylir i gludiant ysgol fod yn gwbl weithredol, er y gallai fod rhai newidiadau bach i'r trefniadau arferol ar gyfer ysgolion arbennig.Cysylltir ag ysgolion a rhieni ar wahân os bydd angen gwneud newidiadau. 

Disgwylir i dymheredd y ffyrdd godi yn ystod y dydd a bydd yr eira yn clirio o'r rhan fwyaf o ffyrdd, ac eithrio lonydd ar diroedd uwch. 

Mae'r rhwydwaith ffyrdd ar agor ond dylai gyrwyr gymryd gofal yn yr eira. 

Bydd y tymheredd yn gostwng yn hwyrach heno gyda graeanu'n parhau yn yr hwyr a gyda'r nos. 

Bydd rhew ar y ffyrdd sydd heb eu trin â halen yn gynnar yn y bore, felly dylid cymryd gofal wrth deithio yn y bore cynnar.Bydd tymheredd y ffyrdd yn codi yn ystod y dydd gan ddileu'r perygl rhew ar y ffyrdd hyn. 

Mae Rhybudd Melyn ar waith ar hyn o bryd ar gyfer Caerdydd, ac mae'r newyddion diweddaraf y mae'r cyngor wedi'i dderbyn oddi wrth y Swyddfa Dywydd fel a ganlyn: 

"... yn gyffredinol bydd ardal yr eira parhaus yn symud yn raddol i ffwrdd i'r gorllewin yn ystod y bore yma gan alluogi'r amodau i wella ychydig yn ystod y prynhawn.Fodd bynnag, bydd rhywfaint o eira ysgafn yn bosibl yn ystod y prynhawn a min nos.Disgwylir i nos sych ddilyn ond gyda'r posibilrwydd y bydd rhew yn dod lle mae unrhyw eira yn toddi'r prynhawn yma.Bydd Dydd Llun yn sych gyda llai o dywydd oer a bydd ychydig o haul yn gwneud i lawer o'r eira ddadmer ac eithrio mewn rhai cymunedau uwch lle gall y broses honno gymryd ychydig ddyddiau." 

O ganlyniad i'r cyngor y bydd y sefyllfa'n gwella yn ystod y prynhawn, a bydd yr amodau'n amrywio o ardal i ardal, cynghorwyd ysgolion i wneud eu hasesiadau eu hunain, er mwyn penderfynu ynghylch agor a gweithredu'n ddiogel, yn unol â gweithdrefnau sydd wedi'u cyhoeddi.