The essential journalist news source
Back
16.
March
2018.
Landlordiaid De Cymru’n colli arian o ganlyniad i erlyniadau Rhentu Doeth Cymru

Landlordiaid De Cymru'n colli arian o ganlyniad i erlyniadau Rhentu Doeth Cymru

 

Rhaid i nifer o landlordiaid dalu cyfanswm o £3,720  o ledled De Cymru am beidio â chydymffurfio â Rhentu Doeth Cymru.

 

Mae pedwar landlord ledled y rhanbarth wedi'u herlyn yn llwyddiannus yn Llys Ynadon Caerdydd am fethu â chofrestru eu bod yn landlord a hefyd am fethu â chael eu trwyddedu.

 

Ers mis Tachwedd 2016, mae wedi bod yn drosedd i landlordiaid gydag eiddo yng Nghymru beidio â chael eu cofrestru, ac i landlordiaid rheoli ac asiantau beidio â chael eu trwyddedu.

 

Mae Rhentu Doeth Cymru, y cynllun a grëwyd i wella'r sector rhent preifat yng Nghymru, yn gweithio gydag awdurdodau lleol ledled y wlad i nodi'r nifer bach o bobl sy'n parhau i weithredu y tu allan i'r gyfraith.

 

Dywedodd Aelod Cabinet Tai a Chymunedau Cyngor Caerdydd, yr awdurdod trwyddedu sengl dros Rentu Doeth Cymru,  y Cyng. Lynda Thorne: "Mae'r rhwyd yn cau am landlordiaid ac asiantau sydd heb eu cofrestru neu eu trwyddedu.Mae mwy na 88,000 o landlordiaid gydag eiddo yng Nghymru bellach wedi'u cofrestru a byddwn yn parhau i gymryd camau yn erbyn y nifer bach o bobl hynny sy'n methu â chydymffurfio.

 

"Mae'r gost am gofrestru, ac am hyfforddi a thrwyddedu pan fo angen, yn llawer llai na'r dirwyon sy'n cael eu rhoi gan ynadon yn yr achosion diweddaraf hyn felly mae'n gwneud synnwyr cydymffurfio â'r gyfraith ac osgoi dirwy a chollfarn droseddol."

 

Cafwyd Shaun Hurley o Heol Tymaen, Upper Boat, Pontypridd yn euog o fethu â chofrestru fel landlord ac am fethu â chael ei drwyddedu.Cafodd ddirwy o £1,000 a gorchmynnwyd iddo dalu costau o £426 a thâl dioddefwr o £100.

 

Cafodd Abdul Kahim o Queens Hill Crescent, Casnewydd ddirwy o £1,000 am fethu â chael ei drwyddedu i gyflawni gwaith rheoli a gosod yn ogystal ag am fethu â rhoi gwybodaeth y gofynnwyd amdani gan hysbysiad dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Gorchmynnwyd iddo hefyd dalu costau o £444 a thâl dioddefwr o £100.

 

Methodd Simon Blower o Kenilworth Place, Abertawe â chofrestru ei hun neu'r eiddo y mae'n ei reoli yn Llanelli gyda Rhentu Doeth Cymru a chafodd ddirwy o £1,320 am dair trosedd dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.  Gorchmynnwyd iddo hefyd dalu costau o £604 a thâl dioddefwr o £44.

 

Yn yr un modd, methodd y landlord Leighton Bevan o Flemingston Road, Sain Tathan, y Barri â chydymffurfio a chafodd ddirwy o £400  gyda costau o £458 a thâl dioddefwr o £30.