The essential journalist news source
Back
15.
March
2018.
Datgelu projectau a blaenoriaeth i dderbyn cyllid adfywio newydd

DATGELU PROJECTAU Â BLAENORIAETH I DDERBYN CYLLID ADFYWIO NEWYDD

 

Mae cynnig £10 miliwn i helpu i hybu gwaith adfywio a buddsoddi mewn cymunedau'n cael ei lunio gan Gyngor Caerdydd.

 

Pe bai'r arian yn cael ei sicrhau drwy Raglen Targedu Buddsoddiad Adfywio Llywodraeth Cymru, byddai sawl rhan o'r ddinas yn elwa o brojectau adfywio a rhagor o waith i ddatblygu gwasanaethau cymunedol integredig sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:"Rydym ni'n ymrwymo i ystod o ymyriadau a buddsoddiadau i wella ansawdd bywyd pobl mewn cymunedau ledled y ddinas.Os byddwn ni'n llwyddiannus yn ein cais am y cyllid newydd, bydd yn rhoi'r cyfle i ni adeiladu'n fwy ar y gwaith da presennol.

 

"Bydd targedu buddsoddiad yn y cymunedau lle mae ei angen fwyaf yn ategu ein huchelgais i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb cynhenid, hirsefydlog yn y ddinas a bydd yn gwella cyfleoedd mewn bywyd rhai o'n dinasyddion sydd fwyaf agored i niwed."

 

Mae'r meysydd a'r projectau eraill a fyddai'n elwa ar y cynnig yn cynnwys:

 

  • Ardal fusnes De Glan-yr-afon gan gynnwys Tudor Street, Wellington Street a Heol Ddwyreiniol y Bont-faen. Cynigir y gallai blaenoriaeth buddsoddi cychwynnol gynnwys cynllun gwella eiddo masnachol, gwelliannau i'r pyrth sy'n arwain i leoliadau allweddol canol y ddinas gan gynnwys y Sgwâr Canolog, mesurau teithio llesol, a nodi cyfleoedd preswyl/defnydd cymysg newydd; 

 

  • Mae Ardal Fusnes Adamsdown/y Rhath, gan gynnwys Heol y Plwca, Clifton Street a'r ardaloedd cyfagos, hefyd wedi'i nodi fel un o'r ardaloedd targed posib i elwa o welliannau tebyg yn y dyfodol;

 

  • Atgyfnerthu rhaglenni hybiau'r ddinas (canolfannau dan yr unto ar gyfer gwasanaethau cymunedol) er mwyn parhau i ddatblygu gwasanaethau i ymateb i anghenion cymunedau unigol.

<0}

 

 

Mae rhaglen hybiau Caerdydd wedi bod yn llwyddiannus dros ben gan fuddsoddi mewn cyfleusterau gwell a chyfuno gwasanaethau cymunedol mewn modd cynaliadwy, gan ganolbwyntio ar y cwsmer.

 

Mae Cyngor yn cynllunio i fuddsoddi mewn ail-lunio hybiau presennol gan gynnwys integreiddio gwasanaethau hyb mewn adeiladau cymunedol eraill. Bydd pwyslais ar wasanaethau cyflogadwyedd a deilliannau economaidd i bobl ifanc. Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys cynigion i weithio mewn partneriaeth â'r awdurdod iechyd ar hybiau lles.

 

Dywedodd y Cynghorydd Thorne: "Bydd cyflwyniad cyntaf Caerdydd o ran y cynllun rhanbarthol yn cynnwys buddsoddi mewn dau goridor/dwy ardal fusnes sy'n lleoliadau gweithgarwch economaidd a chyflogaeth pwysig ac yn llwybrau pwysig i ganol y ddinas.

 

"Rydym ni hefyd yn ceisio rhagor o fuddsoddiad yn ein rhaglen hybiau sydd wedi bod yn llwyddiant mawr gyda'r cyhoedd. Rydym ni am barhau â'r rhaglen a'i datblygu."

 

Mae'r Rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio yn olynu'r rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid a fu wrth wraidd sicrhau cyllid ar gyfer gwelliannau i ganolfan ardal Clare Road/Penarth Road, Hyb Grangetown ac estyniad Hyb Llaneirwg.

 

Nod y rhaglen newydd yw cefnogi projectau sy'n hyrwyddo adfywio economaidd, gyda gweithgareddau sydd yn bennaf ar gyfer yr unigolion a'r ardaloedd mwyaf anghenus. Bydd y rhaglen yn dechrau ym mis Ebrill am dair blynedd yn y lle cyntaf. Bydd tua £44 miliwn ar gael ar gyfer rhanbarth De-ddwyrain Cymru.

 

Mae'n ofynnol i'r rhaglen newydd gyd-fynd â threfniadau gweithio rhanbarthol. Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wrthi'n paratoi cynllun rhanbarthol ac yn ystyried prosesau a meini prawf ar gyfer blaenoriaethu projectau.

 

Cafodd cynigion cyntaf Caerdydd eu cymeradwyo gan y Cabinet  heddiw.