The essential journalist news source
Back
15.
March
2018.
Buddsoddi mewn tai a chymunedau lleol

Buddsoddi mewn tai a chymunedau lleol

 

Cafodd cynllun busnes Cyngor Caerdydd ar gyfer darparu gwasanaethau tai dros y flwyddyn nesaf ei gymeradwyo gan y Cabinet heddiw.

 

Mae cynllun busnes Cyfrif Refeniw Tai blynyddol y Cyngor ar gyfer 2018/19 yn amlinellu diben a gweledigaeth yr awdurdod fel landlord tai cymdeithasol yn ogystal ag amcanion a safonau i'r gwasanaeth a sut mae'n bwriadu cyflawni'r nodau hynny.

 

Meddai'r Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cyng. Lynda Thorne, "Mae'r cynllun busnes Cyfrif Refeniw Tai yn amlinellu rhai o lwyddiannau mawr y gwasanaeth dros y flwyddyn ddiwethaf a sut rydym yn bwriadu adeiladu ar y llwyddiannau hynny dros y 12 mis nesaf.

 

"Rydym yn parhau i fod yn uchelgeisiol yn ein cynlluniau i adeiladu eiddo cyngor newydd er mwyn ateb y galw cynyddol am gartrefi fforddiadwy o safon i'r rhai yn y ddinas sydd eu hangen fwyaf.

 

"Adfywio tŵr fflatiau Maelfa fydd project buddsoddiad cyfalaf unigol mwyaf y gwasanaeth yn 2018/19 ac mae'n bleser gennyf ddweud y byddwn hefyd yn buddsoddi mewn systemau chwistrellu dŵr a drysau tân 60 munud i'r holl dyrrau fflatiau yng Nghaerdydd, yn sgîl trychineb Grenfell y llynedd.

 

"Mae cefnogi pobl sy'n agored i niwed yn flaenoriaeth i ni a byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn darpariaeth a chefnogaeth i bobl hŷn fel y gallant fyw'n annibynnol cyhyd â phosib yn ogystal â helpu pobl y mae diwygiadau lles a chyflwyniad Credyd Cynhwysol wedi effeithio arnynt."

 

Mae cynllun busnes Caerdydd yn cynnwys y nod o adeiladu 1,000 o gartrefi cyngor newydd mawr eu hangen yn y ddinas erbyn 2022 a'r cynllun newydd ei gyhoeddi i ymestyn y targed i 2,000 o gartrefi yn ail gam y rhaglen.

 

Mae'r cynllun busnes hefyd yn amlinellu sut mae'r Cyngor yn bwriadu ailfodelu ac adnewyddu cartrefi presennol yn y ddinas yn sgil adolygiad o addasrwydd ei lety gwarchod.Cwblhawyd gwaith y llynedd i adnewyddu Llys Sandown, fel rhan o'r Cynllun Byw yn y Gymuned, ac mae projectau tebyg bellach yn yr arfaeth ar gyfer blociau llety gwarchod eraill ar draws y ddinas.

 

Mae gwaith sylweddol i adfywio stadau ar y gweill mewn sawl lleoliad ac mae gwaith gwella cyfalaf yn cynnwys uwchraddio systemau gwresogi mewn llety gwarchod a thyrrau fflatiau, parhau i osod drysau tân newydd ac adnewyddu lifftiau mewn pedwar tŵr fflatiau.

 

Mae rhoi cyngor a gwybodaeth i denantiaid yn nod allweddol arall y cynllun busnes, gan sicrhau bod gwasanaethau a ddarperir trwy'r rhwydwaith hybiau cymunedol ar draws y ddinas yn ymateb i anghenion a blaenoriaethau cymdogaethau unigol, gyda gwasanaethau tai'n elfen allweddol.

 

Sefydlodd y Cyngor hyb newydd i Lanedern yn The Powerhouse a'r hyb newydd yn Llanisien yn 2017 ac mae'n bwriadu adeiladu ymhellach ar lwyddiant y rhaglen hybiau trwy ehangu Hyb Llaneirwg.