The essential journalist news source
Back
15.
March
2018.
Cytuno ar gynigion am fynwent newydd

Mae cynigion am fynwent newydd yng ngogledd y ddinas, a fydd yn datrys prinder lleoedd claddu yng Nghaerdydd yn y tymor hir, wedi'i gytuno gan Gabinet y Cyngor heddiw.

Bydd y fynwent 12.5 acr newydd yn cynnig lleoedd claddu mawr eu hangen ar gyfer y 35-40 mlynedd nesaf.

Lleolir y tir, sydd eisoes yn eiddo i'r Cyngor ac sydd wedi'i brydlesu fel tir fferm ar hyn o bryd, i'r gogledd o'r M4 ar yr A469. Mae'r safle newydd llai na 650 metr o'r fynwent bresennol yn Nraenen Pen-y-graig a bydd yn cynnig cyfres o fanteision posibl gan gynnwys y canlynol:

  • Bydd y safle yn dal i gael ei reoli o safle presennol Draenen Pen-y-graig;
  • O ganlyniad, ni fydd cynnydd sylweddol mewn costau gweithredu;
  • Osgoir costau o adeiladu cyfleusterau a swyddfeydd;
  • Bydd y safle newydd yn cynnig nifer o ddewisiadau claddu gan gynnwys adran gladdu naturiol benodol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael:"Caerdydd yw un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yn y DU, felly mae'n hanfodol ein bod yn parhau i ddarparu cyfleusterau claddu i'n trigolion yn ystod y tymor hir a'r tymor byr.

"Mae twf Caerdydd yn golygu ei bod yn hanfodol dod o hyd i safle newydd, a bydd yn cael ei adeiladu er mwyn bodloni anghenion y ddinas.Bydd y safle arfaethedig yn cynnig ateb sy'n effeithiol o ran cost, gan ddefnyddio adnoddau presennol ym Mynwent Draenen Pen-y-graig a bydd yn cael ei reoli i'r un safonau uchel."

Ar hyn o bryd, mae Gwasanaethau Profedigaeth Caerdydd yn cynnal 1,350 o gladdedigaethau bob blwyddyn, a chyflawnir 700 o'r rheiny ym Mynwent Draenen Pen-y-graig, gan gynnwys agor 200 o feddau newydd bob blwyddyn.Cafodd y safle, a agorwyd gyntaf yn 1952, ei ehangu yn 2010, a bellach mae'n cwmpasu cyfanswm o 45 acr.Ni cheir unrhyw ddewisiadau i ymestyn mynwent Draenen Pen-y-graig ymhellach oherwydd ei ffiniau â thai preswyl a ffyrdd.

 

Ystyriwyd nifer o safleoedd, sy'n bodloni'r meini prawf manwl ac allweddol, yn ystod ymchwiliadau gan swyddogion yn ceisio nodi tir addas.Mae gwaith hefyd yn parhau i nodi safle yn nwyrain y ddinas.

Mae'r cynlluniau'n cynnwys cynnig sy'n nodi y bydd un rhan o bump o'r safle newydd sy'n cael ei ddatblygu yn ardal gladdu naturiol/coetir a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd lleol ac yn annog planhigion a bywyd gwyllt brodorol i ffynnu.