WATES RESIDENTIAL YN DECHRAU ADEILADU AR DDAU SAFLE ARALL YNG NGHAERDYDD
Mae datblygwr cenedlaethol, Wates Residential, wedi dechrau gwaith ar ei drydydd a phedwerydd safle yng Nghaerdydd yn rhan o raglen adeiladau tai flaenllaw y Cyngor, Cartrefi Caerdydd, a fydd yn y pen draw yn adeiladu 1,500 o gartrefi mewn 40 o safleoedd ar draws y ddinas.
Disgwylir gorffen y gwaith adeiladu yn y ddau safle, sef Tŷ To Maen yn Llaneirwg a Lôn Bryn Hyfryd yn Llanrhymni, yn gynnar yn 2019, a bydd yn rhoi hwb sylweddol i niferoedd tai fforddiadwy'r ddinas.
Mae gwaith yn Tŷ To Maen yn cynnwys adeiladu wyth uned, gan gynnwys dau gartref dwy ystafell wely fforddiadwy a chwe chartref tair ystafell wely i'w gwerthu ar y farchnad agored.
Yn safle Lôn Bryn Hyfryd, mae'r tîm Wates yn adeiladu 31 o unedau ar gyn safle depo Llanrhymni, a bydd y cyfan ar gael ar gyfer rhentu fforddiadwy neu i'w prynu drwy Gyngor Caerdydd. Bydd y datblygiadau'n cynnwys 21 tŷ dwy ystafell wely, yn ogystal â phedwar fflat un ystafell wely a chwe fflat dwy ystafell wely.
Mae gwaith parhaus Wates yn rhan o'r rhaglen Cartrefi Caerdydd yn cynnwys adeiladu 40 o gartrefi fforddiadwy a 66 o gartrefi i'w gwerthu ar y farchnad agored yn Golwg-y-Môr a Heol y Capten, hefyd yn Llanrhymni, ynghyd â chreu 192 o gartrefi deiliadaeth gymysg yn natblygiad Rhos yr Arian yn Willowbrook West yn Llaneirwg. Disgwylir gorffen y gwaith yn 2020.
Mae'r rhaglen Cartrefi Caerdydd, sy'n bartneriaeth deng mlynedd rhwng Cyngor Caerdydd a Wates Residential, wedi'i chynllunio i fynd i'r afael â galw cynyddol am dai yn y ddinas drwy greu tua 600 o dai cyngor i'w rhestru neu ar gyfer perchentyaeth â chymorth a 900 arall i'w gwerthu ar y farchnad agored.
Yn rhan o'r prosiect, mae Wates a'r Cyngor wedi gwneud addewid ar y cyd i greu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddi ar gyfer preswylwyr lleol. Hyd yn hyn, mae gwaith Wates, yn rhan o'r rhaglen Cartrefi Caerdydd, wedi cynhyrchu £237,000 o werth economaidd, amgylchedd a chymdeithasol, ac mae 824 o wythnosau hyfforddi a chyflogi wedi'u creu ar gyfer pobl ar draws Caerdydd.
Yn rhan o'r ymrwymiad hwn i gefnogi'r ddinas, cynhaliodd Wates digwyddiad Menter Gymdeithasol (MG) ‘Seeing is Believing' yng Nghaerdydd, er mwyn dangos i fusnesau eraill yn y ddinas y gwahaniaeth y gall Mentrau Cymdeithasol eu cael ar fywydau pobl leol. Ers y digwyddiad, bu Wates yn rhan o bedair MG lleol, gan gynnwys penodi GR Cleaning i wneud contract gwerth mwy na £50,000.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Dai a Chymunedau, y Cyng. Lynda Thorne: "Rwy'n falch o weld rhaglen Cartrefi Caerdydd yn datblygu cystal a nawr gan fod gwaith yn dechrau ar ddau safle arall, mae'r rhaglen wirioneddol yn ennill momentwm.
"Mae darparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd da i bobl yng Nghaerdydd yn flaenoriaeth i'r Cyngor ac mae hyn yn gyfnod cyffrous gan nad oes llawer o awdurdodau lleol yn adeiladu cartrefi cyngor newydd.
"Yn ddiweddar, gwnaethom gyhoeddi ein bwriad i roi hwb i'n targed ar gyfer darparu cartrefi cyngor newydd o 1,000 i gyfanswm o 2,000 o gartrefi. Bydd y 1,000 gyntaf yn cael eu cwblhau erbyn 2022. Mae Cartrefi Caerdydd yn chwarae rhan bwysig wrth gyflawni'r nod hwnnw.
"Rwy'n arbennig o falch o weld gwaith yn dechrau ar gyn safle Depo Llanrhymni, lle'r oedd ein gwasanaethu cynnal a chadw tai yn arfer bod. Bydd y cartrefi newydd a gynllunnir yno, yn helpu i adfywio'r ardal leol ac yn cynnig dewisiadau tai fforddiadwy i'r gymuned leol."
Nododd Paul Nicholls, Rheolwr Gyfarwyddwr Wates Residential South: "Mae Cartrefi Caerdydd yn rhaglen drawsnewidiol ar gyfer adeiladu tai, ac mae'n fraint anhygoel i Wates Residential gydweithio'n agos gyda'r cyngor i adeiladu eiddo a fydd yn gwella bywydau nifer fawr o bobl ar draws y ddinas.
"Mae'n gyffrous iawn gweld gwaith yn datblygu mor gyflym ac mae dau ddatblygiad newydd wedi cychwyn ar safle Tŷ To Maen a Lôn Bryn Hyfryd. Edrychwn ymlaen at ddefnyddio ein presenoldeb amlycach ar draws Caerdydd i gyfrannu ymhellach at economi'r ddinas."