Bydd Cymru'n ateb her Ffrainc yn nhwrnamaint Natwest y 6 Gwlad yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn 17 Mawrth.
Bydd y gêm yn cychwyn am 5pm, felly bydd gatiau'r stadiwm yn agor am 1:30pm a bydd ffyrdd canol y ddinas i gyd yn cau o 1pm tan 8pm.
Bydd mesurau diogelwch gwell yn weithredol yn Stadiwm Principality felly cynghorir pawb sy'n dod i Gaerdydd i wylio'r gêm roi digon o amser i ddod i'r ddinas ac i'r stadiwm.
Cynghorir yn gryf bod cefnogwyr rygbi yn gadael bagiau mawr gartref ac yn edrych ar restr yr eitemau a waherddir ynprincipalitystadium.wales <http://principalitystadium.wales/>cyn iddyn nhw ddod i'r ddinas.
Bydd gorymdaith Diwrnod Gwrth-Hiliaeth blynyddol y Cenhedloedd Unedig hefyd yn digwydd ddydd Sadwrn. Bydd ffyrdd ar gau am yn ail i hwyluso'r digwyddiad. Bydd yr orymdaith yn dechrau yng Ngerddi'r Faenor am 1pm ac yn cyrraedd Neuadd y Ddinas am 2pm.
Ceir gwybodaeth fanwl gan ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus yn y briff cyfryngau hwn.
Cau ffyrdd
Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar y diwrnod hwnnw i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr fydd yn ciwio.
Caiff y ffyrdd canlynol eu cau yn rhan o batrwm cau ffyrdd canol y ddinas:
- Ffordd y Brenin o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Heol y Dug.
- Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Heol y Porth.
- Stryd Tudor o'r gyffordd â Clare Road i'r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Fitzhammon Embankment).
- Plantagenet Street a Beauchamp Street o'r cyffyrdd â Despenser Place i'r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
- Heol Saunders o'r gyffordd â Heol Eglwys Fair.
- Heol y Tollty ar ei hyd (caniateir mynediad i feysydd parcio preifat).
- Heol Penarth o'r gyffordd â Heol Saunders i'r fynedfa sy'n arwain at gefn yr Orsaf Ganolog.
- Bydd y ffyrdd canlynol ynghau ar eu hyd: Heol y Dug, Heol y Castell, Heol Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
Ychwanegiadau:
Y Ganolfan Ddinesig: Caiff mynediad at ran o'r Ganolfan Ddinesig ei reoli drwy gydol y dydd, gyda mynediad yn unig ar gyfer parcio cyn y digwyddiad, rhywfaint o barcio i gymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.
Mae'r ffyrdd fydd wedi eu heffeithio yn cynnwys: Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.
O 6:30pm, bydd Rhodfa'r Orsaf ar gau. Bydd modd i gerbydau adael maes parcio Canolfan Siopa Capitol drwy Stryd Ogleddol Edward/Rhodfa'r Orsaf tua'r gogledd, tuag at Heol Casnewydd/Dumphries Place.
Noder:
Os bydd unrhyw bryderon diogelwch oherwydd tyrfaoedd yn ciwio i gael mynd i mewn i'r stadiwm cyn i'r gatiau agor, efallai y bydd angen cau Stryd Wood a Heol y Porth yn gynharach, yn ogystal â chau lonydd gyferbyn â Gât 1 ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen.
Os bydd unrhyw bryderon ynghylch y system giwio yng Ngorsaf Caerdydd Canolog, yna bydd Stryd Wood, Heol y Porth, Heol y Parc, Stryd Havelock, Heol Eglwys Fair, Heol Penarth, Heol Saunders a Heol y Tollty oll yn aros ynghau hyd nes bydd y pryderon diogelwch hynny wedi eu datrys.
Trenau
MaeGreat Western Railway (GWR)wedi cadarnhau y cynhelir y gwasanaethau trên o Paddington i Gaerdydd ar amserlen ddiwygiedig oherwydd gwaith pensaernïaeth a gynlluniwyd. Caiff llwybrau'r holl wasanaethau eu gwyro o amgylch Swindon, trwy Bath Spa.
Ychwanega hyn 50 munud at amser y daith a bydd y trenau yn aros yn Filton Abbey Wood, Bristol Temple Meads ac nid yn Swindon, Didcot Parkway na Bristol Parkway.
Bydd gwasanaethau bws yn lle'r trên rhwng Filton Abbey Wood a Bristol Parkway yn ogystal ag o Didcot Parkway/Reading, Bath Spa/Chippenham a Cheltenham Spa/Gloucester i Swindon.
Bydd y gwasanaethau diwygiedig o Paddington i Gaerdydd ac yn groes yn cynnig un trên bob awr ar gyfartaledd, am awr cyn ac ar ôl y gêm. Bydd dau wasanaeth ychwanegol: O Paddington i Gaerdydd am 9:45am ac o Gaerdydd i Paddington am 7:47pm.
Mae GWR yn rhybuddio'r cwsmeriaid bod disgwyl i'r gwasanaethau hyn fod yn brysur iawn ac y disgwylir i'r trên olaf adael Caerdydd Canolog am 8:30pm i Paddington.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael trwy ddilyn y ddolen hon:www.GWR.com/Electrfication2018
MaeTrenau Arriva Cymruyn cynghori ei holl gwsmeriaid sy'n mynd i'r gêm i gymryd y gwasanaeth cynharaf bosibl i Gaerdydd oherwydd y bydd y gwasanaethau trên yn yr ardal yn brysur trwy'r dydd.
Dylai cwsmeriaid brynu tocyn cyn mynd i'r trên a phrynu tocyn dychwelyd yr un pryd os ydyn nhw'n bwriadu dod yn ôl gyda'r trên.
Ychwanegir rhagor o gerbydau pan fo'n bosibl; serch hynny, mae disgwyl y bydd y gwasanaethau cyn ac ar ôl y gêm yn hynod brysur. Cynghorir cwsmeriaid i wirio pryd y mae eu trên olaf adref yn gadael a chyrraedd yr orsaf mewn da bryd er mwyn mynd trwy'r systemau ciwio ar ôl y gêm a fydd yng ngorsaf Caerdydd Canolog (ar gyfer y prif linellau) a gorsaf Heol-y-Frenhines Caerdydd (ar gyfer gwasanaethau lleol Caerdydd a'r cymoedd).
Wedi'r gêm, dylai cwsmeriaid y gwasanaethau lleol yng Nghaerdydd a'r cymoedd ddefnyddio gorsaf Heol-y-Frenhines Caerdydd.
Parcio a Theithio ar gyfer Digwyddiad
Bydd gwasanaeth Parcio a Theithio ar gael yn Lecwydd, a gellir mynd yno o gyffordd 33 yr M4 ac yna dilyn yr arwyddion i Leckwith Road.
I gadw lle Parcio a Theithio ymlaen llaw, ewch i -https://www.parkjockey.com/principality-stadium
Y man gollwng yw Gogledd Ffordd Tresillian, y tu ôl i'r orsaf drenau.
Mae'r safle Parcio a Theithio 1.5 milltir o ganol y ddinas, sy'n cymryd oddeutu 10 i 15 munud.
Os byddwch yn cadw lle ymlaen llaw, y gost fydd £8, neu £10 ar y diwrnod (arian parod yn unig). Os byddwch yn cadw lle ymlaen llaw, bydd angen i chi argraffu eich cadarnhad a'i roi i aelod o staff.
Bydd staff yn cyrraedd y maes parcio am 8.30am a bydd yn agor am 9.00am, gyda'r bws cyntaf yn gadael am 9.00am. Bydd y bws olaf yn gadael y man casglu am 9pm a bydd y maes parcio'n cau am 9.30pm.
Traffyrdd a phriffyrdd
Fel yn achos pob digwyddiad mawr, anogir deiliaid tocynnau i gynllunio rhag blaen a chaniatáu ar gyfer traffyrdd a phriffyrdd prysur. Disgwylir i goridor yr M4 a Chaerdydd fod yn brysur iawn.
Parcio ar y Diwrnod
Gerddi Sophia (ceir)
(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).
Parcio ar gyfer Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Cyrraedd yno: Gadael cyffordd 32 yr M4
Cost: £15 i'w dalu yn y maes parcio (arian parod yn unig)
Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.
Noder: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 5.30pm; gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau a adawir yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.
Parcio ar gyfer Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (ceir)
Cyrraedd yno: Gadewch gyffordd 32 yr M4, ewch tua'r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r ganolfan ddinesig.
Cost: £12 ymlaen llaw ar-lein neu £15 yn y maes parcio (arian parod yn unig).
Os byddwch yn archebu lle parcio ymlaen llaw bydd angen i chi argraffu'r cadarnhad a'i roi i aelod o staff wrth bario'ch cerbyd.
Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am. Rhaid symud cerbydau neu roi tocyn talu ac arddangos arnynt o 8am ddyddSul 18 Mawrth.
I gadw lle parcio ymlaen llaw, cliciwch ar: https://www.parkjockey.com/principality-stadium (mae hyn ar gael i geir yn unig).
Allwch chi feicio neu gerdded?
Gall y rheiny sy'n byw yn lleol yng Nghaerdydd deithio drwy gerdded neu feicio. Mae ymchwil yn dangos bod 52% o'r holl deithiau ceir yng Nghaerdydd yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn gyfforddus mewn 20 munud.
Gwyddom hefyd y byddai 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gallu gwneud hynny.
Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau.
Parcio Siopa
Cynghorir siopwyr i ddefnyddio'r safleoedd Parcio a Theithio penodol a neilltuwyd ym Mhentwyn neu Neuadd y Sir.Neu mae'r meysydd parcio yng nghanol y dref hefyd ar gael;Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol; NCP (Adam Street, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion)
Parcio i'r Anabl
Cynghorir gyrwyr anabl i ddefnyddio Gerddi Sophia. Mae llefydd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.
Gweler argaeledd ar wefannau unigol.
Tacsis
Bydd safle tacsi Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau am 11am ac yn ailagor am 8pm.
Bysus
Bysus lleol:
Caiff bysus eu dargyfeirio o orsafoedd bws canol Caerdydd. Yn lle mynd i'r safleoedd ar y ffyrdd a fydd ar gau, bydd y bysus naill ai'n mynd i Ffordd Churchill tua'r dwyrain, Heol y Brodyr Llwydion tua'r gogledd neu Stryd Tudor tua'r gorllewin.
Ewch i wefan y gweithredwr bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybr bws penodol.
National Express:
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel arfer.