The essential journalist news source
Back
9.
March
2018.
Newidiadau ar y gorwel i system derbyn i ysgolion Caerdydd

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn ystyried argymhellion i symleiddio'r ffordd o drin â derbyniadau i ysgolion yn y ddinas. 

Mae adroddiad a gyflwynir i aelodau'r Cabinet ddydd Iau 9 Mawrth yn argymell cwtogi nifer y meini prawf a ddefnyddir wrth ddyrannu llefydd mewn ysgolion pan fo mwy o geisiadau na sydd o leoedd. 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, a'r Cynghorydd Sarah Merry:"Rydyn ni'n gwybod pa mor bwysig yw'r broses dderbyn i rieni gan y gall gwneud cais am le mewn ysgol beri llawer o ofid meddwl. 

"Mae'n rhaid i'r cyngor adolygu ei drefniadau derbyn i ysgolion bob blwyddyn.Gan fod y rhan wedi bod yr un peth fwy neu lai er 2001 yng Nghaerdydd a chan y bydd twf yn nifer y disgyblion sy'n symud o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd yn y blynyddoedd nesaf, mae'n amser ystyried manteision opsiynau newydd, gan sicrhau ein bod yn cadw'r gwasanaeth ymgeisio'n deg, didwyll ac eglur." 

Cyflynwyd y syniadau ar gyfer ymgynghoriad a ddaeth i ben ynghynt eleni ac a oedd yn trafod ceisiadau ar gyfer ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd.Mae'r adroddiad Cabinet yn rhoi gwerthusiad o'r farn a fynegwyd. 

Dilynodd yr ymgynghoriad adolygiad annibynnol o system bresennol Caerdydd, a gomisiynwyd gan Gyngor Caerdydd a'i gweithredu gan Brifysgol Caerdydd.Roedd yr adolygiad yn trafod sut y caiff ceisiadau am lefydd ysgol eu trin mewn rhannau eraill yn y DU i weld a fyddai modd dysgu rhywbeth ganddynt.Daeth i'r casgliad bod llawer o gryfderau i system Caerdydd ond y gallai ei symleiddio fod o fudd. 

"Fel y dywed yr adroddiad ymchwil gan Brifysgol Caerdydd, mae manteision ac anfanteision i'r opsiynau a ystyrir.Wrth ymgynghori â'r cyhoedd ar y cynigion hyn, bu modd i ni gael syniad o farn ystod o randdeiliaid, y gallwn ei defnyddio nawr i lunio polisi derbyn i ysgolion ar gyfer y ddinas," ychwanegodd y Cyng. Merry. 

Roedd yr ymatebion a dderbyniwyd trwy'r ymgynghoriad yn awgrymu eu bod yn cydweld â newid system ddyrannu lleoedd mewn ysgolion meithrin a chynradd yn unol â'r opsiynau yn yr ymgynghoriad. 

Mynegwyd pryderon ynghylch opsiwn o gyflyno ysgolion bwydo, hynny yw, ysgolion cynradd a fyddai'n bwydo ysgol uwchradd gymunedol benodol.Teimlid y byddai hyn yn rhoi nifer sylweddol o ddisgyblion trwy'r ddinas dan anfantais. 

Byddai cyflwyno ysgolion bwydo o bosibl yn anffafrio teuluoedd sy'n symud i'r ardal oherwydd newid swyddi; teuluoedd sy'n agored i niwed ac sy'n symud i'r ardal oherwydd amgylchiadau person neu deuluoedd sy'n ceisio lloches ac sy'n cael eu rhoi yn yr ardal. 

Byddai ysgolion bwydo hefyd yn effeithio'n negyddol ar ddisgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion ffydd.Byddai plant sy'n symud o ysgol ffydd neu ysgol gynradd gyfrwng Cymraeg wrth fynd i'r ysgol uwchradd hefyd dan anfantais gan na fyddent wedi mynychu'r ysgol gynradd fwydo berthnasol. 

Oherwydd canfyddiadau'r ymgynghoriad, nid yw'r adroddiad y bydd y Cabinet yn ei ystyried yn argymell cyflwyno ysgolion bwydo yng Nghaerdydd. 

Dywedodd y Cyng. Sarah Merry:"Mae arnom angen sicrhau bod unrhyw system newydd a gyflwynir i ddyrannu lleoedd mewn ysgolion pan fo mwy o geisiadau na sydd o leoedd yn addas ar gyfer Caerdydd gyfan, ac nid rhai ardaloedd yn unig. 

"Wedi gwerthuso'r ymatebion i'r ymgynghoriad, mae'n glir y byddai cyflwyno ysgolion bwydo'n effeithio'n negyddol ar ddisgyblion mewn nifer o ardaloedd yn y ddinas.Does dim digon o dystiolaeth yn dangos y byddai cyflwyno ysgolion cynradd bwydo yn llesol trwy'r ddinas gyfan. 

"Rydym wedi pwyso a mesur yn ddwys ynghylch cyflwyno ysgolion bwydo.Er y byddai manteision i'r system honno mewn rhai ardaloedd, ni allwn gyflwyno rhywbeth a fyddai'n rhoi plant trwy'r ddinas dan anfantais." 

Y newidiadau a argymhellir a gyflynir i'r Cabinet

(Cyfeiriwch at ‘Sut mae'r system yn gweithio ar hyn o bryd yng Nghaerdydd' isod am ddisgrifiad llawn o'r rheolau yr argymhellir eu diddymu)

  • Diddymu ‘rheol y pellaf oddi wrth yr ysgol arall'
  • Diddymu ‘rheol disgyblion yn cychwyn yn yr ysgol yn gynnar'
  • Diddymu'r cyfeiriad at ‘Banel Asesu'r Blynyddoedd Cynnar' a'r ‘Panel Cynghori ar Achosion' a'i newid i'r ‘Cynllun Gofal Iechyd Unigol a Ariennir' (ac ychwanegu hwn at y meini prawf ar gyfer ceisiadau i ysgolion uwchradd)
  • Cychwyn defnyddio pellter o'r cartref i'r ysgol fel ‘ffactor penderfynu'

Ychwanegodd y Cyngor hefyd gynnig i ddiddymu’r ‘rheol cyfeirio brodyr a chwiorydd’ (a ddiffinnir isod), ond nid yw hwn bellach yn rhan o'r cynigion a gyflwynir ar gyfer derbyniadau i ysgolion cynradd yn sgil y pryderon a fynegwyd trwy’r ymgynghoriad.

Os ceir cymeradwyaeth y Cabinet ddydd Iau, câi'r newidiadau eu cyflwyno ar gyfer ceisiadau am lefydd ysgol o fis Medi 2019. 

Sut mae'r system yn gweithio ar hyn o bryd yng Nghaerdydd

Wrth ddyrannu lleoedd mewn ysgol pan fo mwy o geisiadau na sydd o leoedd, defnyddir y meini prawf canlynol i gynnig lle i blentyn. 

Maent yn ôl trefn blaenoriaeth, o'r pwysicaf i'r lleiaf pwysig. 

Ond mae'n werth cofio bod dyletswydd ar y cyngor i dderbyn disgyblion â datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig cyn ystyried unrhyw un o'r canlynol. 

Meini Prawf Ysgol Uwchradd 

  1. Mae'r disgybl yng ngofal y cyngor
     
  2. Weithiau gelwir hon y rheol cyfeirio brodyr a chwiorydd, ac mae dwy ran iddi Mae'r ddwy yn cyfeirio at ddyrannu lle mewn ysgol sy'n derbyn mwy o geisiadau na sydd o leoedd ac mae brawd neu chwaer hŷn yn ei mynychu, ond nid hon yw ysgol dalgylch y teulu oherwydd:
     
    1. Nad yw'r teulu'n byw yn y dalgylch bellach oherwydd bod y dalgylch wedi ei newid ers i'r brawd neu chwaer hŷn ddechrau'r ysgol

      neu
       
    2. Cynigiodd y cyngor le i frawd neu chwaer hŷn mewn ysgol nad oedd yn nalgylch y teulu oherwydd bod ysgol y dalgylch yn llawn.
       
  3. Mae'r disgybl yn byw yn barhaol yn nalgylch yr ysgol yr ymgeisia am le ynddi
     
  4. Mae'r cyngor yn ystyried bod gan y disgybl sail feddygol gymhellol dros ei anfon i'r ysgol hon
     
  5. Mae gan y disgybl frawd neu chwaer hŷn yn yr ysgol (mae'n rhaid iddo/iddi fod ym Mlwyddyn 11 neu flwyddyn iau ac nid yn y chweched dosbarth)
     
  6. Mae'r disgybl yn byw yn nes at yr ysgol na phlant eraill sydd wedi ymgeisio am le ynddi (caiff hyn ei fesur yn ôl y llwybr cerdded byrraf bosibl, nid fel yr hed y frân)
     
  7. Y disgybl sy'n byw bellaf oddi wrth yr ysgol arall y byddai'n mynd iddi pe na châi le yn yr ysgol y gwna gais amdani (eto, mesurir llwybrau cerdded, nid fel yr hed y frân). Felly, byddai'r disgybl sy'n byw bellaf oddi wrth yr ysgol arall mewn sefyllfa well o ran cael cynnig lle yn ei ysgol ddewis pe deuai lle ar gael yn hwyrach.
     
  8. Mae gan y disgybl ganiatâd y cyngor i gychwyn yn yr ysgol yn iau na'r oedran statudol.

Meini Prawf Cynradd 

  1. Mae'r disgybl yng ngofal y cyngor
     
  2. Mae'r disgyblion wedi derbyn arian gan y Panel Asesu'r Blynyddoedd Cynnar neu'r Panel Cynghori ar Achosion
     
  3. Y rheol cyfeirio brawd neu chwaer eto (os yw brawd neu chwaer hŷn y plentyn yn mynd i ysgol nad yw'n ysgol eu dalgylch naill ai oherwydd y newidiwyd y dalgylch ers iddo/iddi gychwyn yno neu y cynigiodd y cyngor le iddo/iddi yno oherwydd bod ysgol y dalgylch yn llawn)
     
  4. Mae'r disgybl yn byw yn barhaol yn nalgylch yr ysgol y gwna gais am le ynddi
     
  5. Mae'r cyngor yn ystyried bod gan y disgybl sail feddygol gymhellol dros fynd i'r ysgol
     
  6. Mae gan y disgybl frawd neu chwaer hŷn yn yr ysgol
     
  7. Mae'r disgybl yn byw yn nes at yr ysgol na phlant eraill sydd wedi gwneud cais am le ynddi
     
  8. Y disgybl sy'n byw bellaf oddi wrth yr ysgol arall y byddai'n mynd iddi pe na châi le yn yr un yr ymgeisia amdani
     
  9. Mae gan y disgybl ganiatâd gan y cyngor i gychwyn mynd i'r ysgol yn iau na'r oedran statudol