The essential journalist news source
Back
8.
March
2018.
Lle newydd i chwarae

Lle newydd i chwarae

Mae gwaith i greu cyfleuster chwarae newydd sbon i blant yn Llanedern wedi'i gwblhau.

 

Mae ardal newydd sy'n cynnwys offer o'r safon uchaf i blant 5 i 10 oed wedi'i gosod yng Nghoed-y-Gores, yn dilyn buddsoddiad trwy raglen CynlluniauAdnewyddu Cymdogaethau Cyngor Caerdydd.                                                                                   

 

Cynigiwyd y project gan gynghorwyr ward a nododd fod angen am gyfleusterau chwarae diogel a deniadol yn y gymuned leol a'r ardaloedd o'i chwmpas.

 

Mae'r offer chwarae wedi'i ddylunio i gyd-fynd â'r amgylchedd gyda wal dringo a sleid a pholyn dyn tân sy'n ychwanegu gwerth chwarae at fur cynnal.

 

Cwblhawyd y cynllun pan orffennodd yr artist lleol, Bryce Davies, furlun bywiog, a ddyluniodd gyda phlant Ysgol Gynradd Llanedernar y muriau cadw.

 

Ymunodd plant yr ysgol â'r Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cyng Lynda Thorne a'r aelodau cabinet lleol ym maes chwaraeCoed-y-Gores heddiw i weld y murlun wedi'i orffen ac i edrych ar y cyfleusterau newydd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Thorne:"Mae plant lleol a'u rhieni wedi gwylio gyda diddordeb dros y misoedd diweddar wrth i'r maes chwarae newydd sbon hwn ymffurfio a gallant bellach fanteisio i'r eithaf ar y cyfleuster newydd gwych hwn sydd ar drothwy eu drysau. Mae'n hyfryd bod y plant wedi gallu cyfrannu at olwg terfynol y maes - mae'r murlun yn wych a gallant i gyd fod yn falch o'u cyfraniad.

 

"Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu buddsoddi yn y cyfleusterau chwarae hyn ac yn siŵr y bydd plant yn gymuned yn cael hwyl am flynyddoedd yn chwarae gyda'r offer gwych newydd hwn."