The essential journalist news source
Back
4.
March
2018.
Diweddariad ar wasanaethau a'r tywydd - Cyhoeddwyd 5.30pm Dydd Sul, 4 Mawrth

Diweddariad ar wasanaethau a'r tywydd - Cyhoeddwyd 5.30pm Dydd Sul, 4 Mawrth


Dyma'r newyddion diweddaraf ar y ffyrdd, y tywydd, agoriadau ysgol a chasgliadau gwastraff wrth i'r eira ddechrau toddi ac mae pethau'n dechrau mynd yn ôl i’r arferol. Dyna i gyd o'r Cyngor am heno, byddwn ni'n ôl gyda chi fore yfory.

 

 

Cynnal a Chadw'r Gaeaf 

Mae’r prif lwybrau o gwmpas y ddinas bellach yn glir ar gyfer cerbydau ac mae llwybrau eilaidd yn cael eu llywio mewn sawl achos.

Wrth i'r tywydd wella ac mae'r tymheredd yn codi mae'r graean yn ymateb gyda'r eira ac yn helpu i gyflymu'r broses ddiddymu.

 
Dylai llawer o rwydwaith y ddinas ddychwelyd i’r arferol erbyn yfory, er efallai y bydd rhai pocedi o eira sy'n arafach i doddi.
 

Mae ein timau Cynnal a Chadw'r Gaeaf wedi bod allan heddiw yn gweithio i gefnogi agor ysgolion yfory. Rydym wedi gweld llawer o rieni a phreswylwyr yn cymryd rhan yn y gwaith clirio hefyd, felly diolch i'r rhai sy'n cymryd rhan ac yn helpu i glirio mannau parcio a mynedfeydd.

Mae timau'r cyngor hefyd wedi bod yn clirio blaen siopau yn y prif ardaloedd siopa, ac mae ein timau allgymorth wedi bod yn helpu'r digartref i ddod i mewn i'n llochesau.

Ers dydd Llun, mae Cyngor Caerdydd wedi taenu mwy na 500 tunnell o raean. Dros y gaeaf arferol (3 mis), 2000 tunnell sy'n cael ei ddefnyddio i gyd.

 

 

Roedd y tywydd yn eithriadol, yn rhybudd coch difrifol, ac roedd ein gyrwyr a'r timau mas yn y glasrew a'r stormydd eira yn ceisio cadw llwybrau pwysig yn glir, yn helpu pobl agored i niwed, yn dosbarthu pryd ar glud, yn cyflawni gwaith trwsio brys ac yn helpu'r gwasanaethau cymdeithasol a'r gwasanaethau brys dan amodau peryglus.

 

Ond rydym am gymryd y cyfle hwn i ddiolch i chi, ein preswylwyr, am eich amynedd - ac am eich holl gefnogaeth - wrth i ni weithio i helpu'r rhai sydd mewn angen a chael y ddinas yn ôl yn gweithio eto.

 

Heno, mae yna risg fach o iâ du ar lwybrau yn nes ymlaen, felly dylai unrhyw un sy'n cerdded fod yn ofalus iawn, yn arbennig mewn ardaloedd sydd wedi'u clirio o eira ond sydd heb eu trin â halen/graean.

 

Casgliadau Ailgylchu a Gwastraff-Cynllun ar gyfer yr wythnos yn dechrau Dydd Llun 5 Mawrth

Yn ystod y tywydd garw a rwystrodd y casgliadau ddydd Iau a dydd Gwener, cyflawnodd y criwiau gwastraff ddyletswyddau eraill, yn gweithio'n ddiflino gyda'r timau glanhau a phriffyrdd i raeanu, yn helpu pobl sy'n agored i niwed drwy wasanaethau hanfodol eraill, a gan gyrru cerbydau 4x4.

Mae casgliadau gwastraff yn dechrau eto yfory (Monday). Ewch yma i ddarllen sut mae eich ardal yn cael ei heffeithio :https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c/17978.html

Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref

Ail-agorodd canolfannau Ffordd Lamby a Bessemer Close heddiw a bydd yn agor fel arfer fory (Dydd Llun 5 Mawrth)

(Mae canolfan Heol Wedal wedi cau'n barhaol)

 

Ysgolion

Mae Cyngor Caerdydd wedi cynghori holl ysgolion y ddinas i agor yfory, dydd Llun, 5 Mawrth, ble bynnag y bo’n bosibl. Ond y Pennaeth a Chadeirydd y Llywodraethwyr biau’r gair olaf o ran a ddylid agor ysgol ai peidio. Felly cynghorir rhieni i gadw llygad allan am negeseuon gan eu hysgolion i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

 

O ystyried y cyflyrau dros yr ychydig ddiwrnodau diwethaf, bydd rhai safleoedd ysgolion yn dal i gael eu heffeithio gan luwchfeydd a mannau rhewllyd ac y gallai hynny effeithio agor ar nifer gyfyngedig o safleoedd. Er mwyn helpu gyda’r gwaith o glirio’r eira mae’r Cyngor yn gwneud trefniadau i roi blaenoriaeth i’r gwaith o anfon cerbydau graeanu i’r ysgolion hynny sy’n wynebu problemau amlwg ac sydd â nifer sylweddol o blant ag anghenion trafnidiaeth.

 

Gwybodaeth ar drafnidiaeth ysgol yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w/17989.html

 

Cyfleusterau'r Cyngor
Mae llawer o'n hadeiladau wedi gallu agor fel arfer heddiw, gan gynnwys Castell Caerdydd, Eglwys Norwyaidd a Chanolfannau Gwybodaeth Twristiaeth.
Bydd Neuadd Dewi Sant a'r New Theatre yn ailagor yfory.
Bydd ein hybiau a'n prif adeiladau ar agor yfory er y gall gwasanaethau i'r cyhoedd fod yn gyfyngedig yn Neuadd y Sir lle'r ydym wedi profi rhai materion. Ffoniwch cyn ymweld a ni i sicrhau nad ydych yn gwneud taith wedi'i wastraffu.

 

GLL

Bydd Canolfannau Hamdden Better yn agor fel arfer yfory.

 

Hybiau a llyfrgellau

Ar agor yfory – oriau arferol.

Ewch yma am fanylion

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Llyfrgelloedd-ac-archifau/Pages/default.aspx

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/hybiau-a-swyddfeydd-tai/Pages/default.aspx

 

 

Rheoli'r risg o lifogydd wrth i'r eira ddadmer

Mae EVAC Caerdydd wedi cyhoeddi'r cyngor canlynol:

Wrth i'r eira ddadmer sicrhewch fod unrhyw ddraeniau ar/ger palmentydd/priffyrdd yn rhydd o eira ac iâ i atal llifogydd ac i ddiogelu eiddo.