The essential journalist news source
Back
4.
March
2018.
Cyngor yn cynghori ysgolion i agor yfory

Cyngor yn cynghori ysgolion i agor yfory

 

Mae Cyngor Caerdydd wedi cynghori holl ysgolion y ddinas i agor yfory, dydd Llun, 5 Mawrth, ble bynnag y bo’n bosibl, yn dilyn y tywydd garw wythnos diwethaf.

Mae’r tymheredd mwynach a rhagolygon y Swyddfa Dywydd ar gyfer heddiw (dydd Sul) a dydd Llun yn awgrymu y bydd yr amodau o amgylch Caerdydd a’r ardaloedd cyfagos yn parhau i wella.

Agorwyd yr holl brif lwybrau ar y rhwydwaith ffyrdd ddydd Sadwrn, mae’n bosibl teithio ar hyd y llwybrau eilaidd heddiw a chyda'r tywydd yn gwella, dylai fod yn bosib teithio o gwmpas y ddinas fel arfer yfory.

Oherwydd hyn, mae’r awdurdod lleol yn cynghori’r holl ysgolion i agor ddydd Llun i ddisgyblion a staff ble bynnag y bo’n bosibl.

O ystyried yr eira mawr a'r amodau rhewllyd dros yr ychydig ddiwrnodau diwethaf rydym yn cydnabod y bydd rhai safleoedd ysgolion yn dal i gael eu heffeithio gan luwchfeydd a mannau rhewllyd ac y gallai hynny effeithio agor ar nifer gyfyngedig o safleoedd.

 

Er mwyn helpu gyda’r gwaith o glirio’r eira mae’r Cyngor yn gwneud trefniadau i roi blaenoriaeth i’r gwaith o anfon cerbydau graeanu i’r ysgolion hynny sy’n wynebu problemau amlwg ac sydd â nifer sylweddol o blant ag anghenion trafnidiaeth.

Gallwn gadarnhau y bydd holl wasanaethau bws yr ysgolion mawr yn gweithredu pan fo’r ysgolion hynny ar agor. Dylid cynghori disgyblion y gallai’r gwasanaethau dan sylw redeg ychydig yn hwyrach nag arfer os bydd y traffig yn drwm ac felly dylent sicrhau eu bod yn gwisgo dillad priodol rhag ofn y bydd rhaid iddyn nhw aros am fws yn hirach nag arfer.

Dylid cynghori’r disgyblion hynny sy’n cael eu cludo i’r ysgol mewn tacsi neu fws mini y bydd y gyrwyr yn cysylltu â’r rhieni’n uniongyrchol i wneud trefniadau unai i’w codi o’u cartrefi, neu os nad yw’r stryd wedi’i chlirio, gwneud trefniadau eraill i'w codi oddi ar briffordd gyfagos.

Ni chaiff disgyblion mewn cadeiriau olwyn neu sydd â phroblemau o ran eu symudedd eu cludo i’r ysgol nes y bydd eu stryd neu ffordd yn glir. Dylid cynghori rhieni i gysylltu’n uniongyrchol â’r gyrrwr neu gontractwr i sicrhau eu bod yn cael gwybod am gyflwr y ffordd a phan fydd y ffordd yn glir yn gwneud trefniadau i’w codi.

Ond y Pennaeth a Chadeirydd y Llywodraethwyr biau’r gair olaf o ran a ddylid agor ysgol ai peidio. Felly cynghorir rhieni i gadw llygad allan am negeseuon gan eu hysgolion i gael y wybodaeth ddiweddaraf.