The essential journalist news source
Back
1.
March
2018.
Pennawd: Datganiad Cyngor Caerdydd: Rhwydwaith Ffyrdd (10pm 1.3.18)

Mae Cyngor Caerdydd wedi gweithio’n ddiflino i raeanu’r prif lwybrau ar draws Caerdydd. Mae’r tywydd heno’n golygu bod y ffyrdd yn anodd iawn i gerbydau.

Fodd bynnag, mae’r gwaith sydd wedi’i wneud wedi sicrhau nad oes llawer o gerbydau wedi mynd yn sownd ar draws y rhwydwaith a bod dinasyddion wedi cyrraedd adre’n saff.

Bydd y gwaith o raeanu’r ffyrdd yn parhau drwy’r nos ac yfory, ond wrth i’r tywydd garw barhau bydd effaith y graean yn lleihau. Os bydd yr eira’n ddwfn, caiff erydr eira eu defnyddio, ond ni ellir ond defnyddio’r rhain ar gyfer eira dros 4-5cm o ddyfnder.

Oherwydd y rhybudd tywydd coch digynsail, bydd ffyrdd yn parhau’n anodd iawn i gerbydau yn y bore a gydol yfory, ac felly ni ddylech ond gyrru fel dewis olaf. Mae’n debygol y bydd gwasanaethau Bws Caerdydd a Threnau Arriva yn gyfyngedig felly cadarnhewch cyn gadael eich cartref.

Byddwch yn ddiogel ac os oes rhaid i chi yrru sicrhewch eich bod wedi paratoi gyda dillad cynnes, fflasg o ddiod boeth a rhaw.