The essential journalist news source
Back
1.
March
2018.
Gwybodaeth ar gyweirio yn eiddo cyngor

O ganlyniad i dywydd eithafol a'r galw sylweddol mae hyn wedi'i roi ar y cyngor, byddwn ond yn gallu at gyweirio eich eiddo cyngor os ystyriwn fod bygythiad i fywyd neu berygl o anaf.

Gofynnwn i chi fod yn amyneddgar ynghylch y mater hwn ac rydym yn cynghori tenantiaid y cyngor i beidio a galw'r llinell atgyweirio oni bai mewn argyfwng. Mae'n hanfodol bwysig bod modd i breswylwyr sydd angen cysylltu a'n gweithredwyr gael ateb yn gyflym.

I'r rhai hynny ohonoch sydd mewn sefyllfa nad yw'n un brys, gallwn argymell y cyngor canlynol ar gadw'n ddiogel ac yn gynnes.


 


Os nad ydych chi'n gallu cynhesu pob ystafell, sicrhewch fod eich ystafell fyw yn gynnes drwy'r dydd a chynheswch eich ystafell wely cyn mynd i gysgu.

Gwisgwch dillad addas a all eich helpu i gadw'n gynhesach o lawer. Haenau o ddillad sydd orau - crysau-t a dillad tebyg i gadw gwaelod eich cefn yn gynnes i'ch cynhesu o'ch canol.

Os oes gennych berthnasau oedrannus neu gymdogion a all fod angen cymorth, galwch heibio.