The essential journalist news source
Back
27.
February
2018.
Apêl ar frys i bobl sy’n cysgu ar y stryd: “Dewch mewn”

APÊL AR FRYS I BOBL SY'N CYSGU AR Y STRYD:"DEWCH MEWN"

 

 

Mae Cyngor Caerdydd yn apelio ar unigolion sy'n cysgu ar strydoedd y ddinas i ddod dan do a defnyddio'r amrywiaeth eang o wasanaethau sydd ar gael.

 

Mae disgwyl i'r tymheredd rhewllyd syrthio'n is fyth yn ddiweddarach yr wythnos hon ac mae'r rhagolygon yn dangos eira ar gyfer ardal Caerdydd. Mae'r Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, felly yn apelio ar bobl sy'n cysgu ar strydoedd y ddinas i beidio â threulio noson arall yn yr awyr agored.

 

Dywedodd y Cynghorydd Thorne:"Mae hi eisoes yn rhynllyd o oer yn y ddinas, a bydd y tywydd yn gwaethygu'n ddiweddarach yn yr wythnos.Does dim angen i bobl gysgu ar y stryd yng Nghaerdydd - mae digon o le ar gael iddyn nhw.

 

"Dwi'n erfyn ar bobl sy'n cysgu ar y stryd i gysylltu â'n gwasanaethau.Mae gennym lety cynnes, diogel a sych yn barod ar eich cyfer chi.Mae cysgu ar y stryd yn hynod niweidiol i iechyd a lles unigolyn, felly galwch draw a gadewch i ni eich helpu a gofalu amdanoch."

 

Fel y rhan fwyaf o ddinasoedd y DU, mae Caerdydd wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd dros y blynyddoedd diwethaf.Mae'r awdurdod yn ymrwymedig i weithio gyda phartneriaid i ddatrys y broblem hon.

 

Rydym yn gweithio gydag elusennau digartrefedd fel Huggard, Byddin yr Iachawdwriaeth, Wallich a'r YMCA i gynnig llety hostel, y rhediad brecwast, canolfan ddydd i bobl ddigartref, a gwasanaeth bws nos.

 

Mae dewis eang o lety ar gael - mae gennym 216 o lefydd hostel i bobl ddigartref sengl, 45 o welyau brys, a 390 o unedau llety â chymorth.Dros y gaeaf, mae 86 gwely brys ychwanegol ar gael - sy'n fwy nag erioed.

 

Parhaodd y Cynghorydd Thorne:"Mae digon o welyau brys wedi bod ar gael drwy gydol y gaeaf, sy'n dangos bod angen gwneud mwy na chynnig to uwch ben rhywun am noson i ddatrys y problemau cymhleth sy'n gysylltiedig â chysgu ar y stryd.

 

"Dyna pam fod gennym wasanaethau i helpu pobl i ddod oddi ar y strydoedd a dechrau â llechen lân. Bob dydd, gall unigolion gael mynediad at amrywiaeth eang o wasanaethau holistig, gan gynnwys cymorth meddygol, gwasanaethau iechyd meddwl a chyffuriau ac alcohol, ynghyd â gwasanaethau llety.

 

"Rydym yn gweithio'n galed iawn i fynd i'r afael â digartrefedd yng Nghaerdydd.Rydym yn ymrwymedig i weithio gydag unigolion i'w cefnogi i ddefnyddio'r gwasanaethau hyn ac rydym wedi helpu 175 o bobl oddi ar y strydoedd ac i mewn i lety ers Ebrill y llynedd.

 

"Ond yn anffodus, mae llawer o bobl yn dewis peidio â manteisio ar lety gan gysgu ar y stryd gyda'r nos. Mae ein tîm estyn allan yn gweithio'n agos gyda'r unigolion hyn a'r rheini sydd mewn perygl o gysgu ar y stryd, saith diwrnod yr wythnos, gyda'r dydd a'r nos.Maent yn eu nabod yn bersonol ac yn ymrwymedig i wneud popeth yn eu gallu i'w hannog i gysylltu â gwasanaethau.

 

"Ond gall aros allan ar y stryd am gyfnod estynedig o amser gael effaith drychinebus ar unigolyn.Disgwyliad oes person sy'n cysgu ar y stryd yw 47 oed - mae hynny'n ffaith syfrdanol a dyna pam ein bod am helpu'r bobl fregus hyn i ailadeiladu eu bywydau.

 

"Felly dwi'n anfon neges i'r dynion a'r merched hynny sydd ar ein strydoedd.Dewch i mewn o'r oerfel.Rydyn ni yma ac yn barod i'ch helpu a'ch cefnogi chi."

 

I ddysgu mwy am wasanaethau digartrefedd yng Nghaerdydd, ewch i:https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c/17888.html

 

Os hoffech roi gwybod am rywun sy'n cysgu ar y stryd yng Nghaerdydd, cysylltwch â ni:

​​roughsleeping@caerdydd.gov.uk​